gan Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru yn San Steffan
Yng nghanol holl ansicrwydd oes lom coronafirws, mae dau beth yn sicr: yn gyntaf, mae’r gwanwyn ar fin egino trwy’r tir; ac, yn ail, mae etholiad ar fin corddi’r dyfroedd.
Wir, does dim sicrwydd yn union pryd bydd yr etholiad (mwy na thebyg ym Mai, er nad oes penderfyniad terfynol eto), a does dim sicrwydd eto y cawn ni fynd ati gydag ymgyrchu etholiadol yn y dull traddodiadol eto chwaith.
Ar hyn o bryd, mae yn erbyn y gyfraith i wirfoddolwyr ddosbarthu taflenni ymgyrchu o ddrws i ddrws oherwydd rheoliadau Covid-19.
Gellir felly ddisgwyl gweld llythyrau’n cyrraedd trwy’r post gan bleidiau gwleidyddol: ond – gyda phostio llythyrau’n costio 85c am stamp dosbarth cyntaf a 66c am stamp ail ddosbarth – mae llythyru â phawb mewn etholaeth yn ddrud, gan fod angen talu oddeutu £3,000 i gyrraedd pob tŷ mewn etholaeth trwy’r Post Brenhinol. Sy’n fanteisiol i’r pleidiau mawr, yn enwedig y Ceidwadwyr gyda phocedi dwfn eu cefnogwyr ariannog.
Gellir hefyd disgwyl y bydd yr ymgyrchu’n symud ar-lein fwy byth nag erioed o’r blaen. Bydd cyfarfodydd Zŵm yn ymdrechu i efelychu cyfarfodydd traddodiadol ‘neuadd y dref’, dadleuon diddiwedd ar Weplyfr a darpar wleidyddion yn coethi ar ei gilydd ar Drydar.
Ac am y tro cyntaf eleni, bydd grym gan bobl ifanc i ddylanwadu ar hynt ein cenedl, wrth i bobl 16 a 17 oed gael yr hawl i bleidleisio.
Felly, ar droad y 12 mis mwyaf heriol i’r mwyafrif ohonom ei brofi erioed, mae cyfle i ni ofyn y cwestiwn i ni’n hunain a’n gilydd: beth rŵan?
‘Dan ni am fynd yn ôl i sut roedd pethau arfer bod? Ydyn ni’n mynd i barhau i fodoli o dan yr hen werthoedd sydd wedi creu’r fath amodau sy’n golygu bod Cymru yn fythol dlawd o fewn y DU, bod llwyddiant economaidd yn cael ei fesur mewn twf sy’n llyncu adnoddau prin ein byd, bod rhyddid y dyn pwerus yn goresgyn lles pawb yn gyffredinol?
Bydd trin a thrafod annibyniaeth yn dod yn sgwrs i fwy o bobl ledled Cymru nag erioed o’r blaen, a hynny’n rhan annatod o wynebu bod yr hyn a gynigir gan San Steffan yn barhad o’r hen hanes.
Sef cael ein siarsio i fod yn ddiolchgar naill ai am gael ein cadw’n denau gan y Ceidwadwyr unoliaethol neu am gael ein porthi ychydig yn frasach gan y blaid Lafur Brydeinig.
Ond dewis o sut i ynganu diolchgarwch i eraill yw’r ddau ddyfodol. Dyfodol o ddibyniaeth yw’r gwir gynnig pan fydd y pleidiau unoliaethol yn ein gwawdio/cysuro bob yn ail trwy geisio’n darbwyllo nad ydy’r gallu gyda ni i afael yn ein dyfodol ein hunain.
Ond yn llawn cyn bwysiced, i beth ddymunwn annibyniaeth? Pa werth ddaw o ail-fathu’n gwleidyddiaeth heb i ni hefyd ail-fathu’r gwerthoedd sy’n gyrru’r wleidyddiaeth honno?
Gyda hynny mewn golwg, mae’n amlwg bod angen herio’n sylfaenol y gafael sydd gan fesurau llwyddiant economaidd ar ein dychymyg. Nid gwyddoniaeth fesuradwy mo economeg draddodiadol, er ei bod yn cael ei dyfynnu fel ‘ffaith’ gan wleidyddion.
Os am newid ein gwerthoedd, rhaid newid y ffordd yr rydym yn mesur llwyddiant: tan heddiw, defnyddiwyd cysyniad Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) fel maen prawf, sef dull o roi gwerth ar yr holl nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu cynhyrchu neu’u darparu gan wlad mewn blwyddyn.
Yn ystod oes newid hinsawdd, mae gwerthoedd ein gwleidyddiaeth yn dal i ddisgwyl twf parhaus, yn disgwyl bod pobl yn bodoli er mwyn bod yn ddefnyddwyr sy’n llyncu adnoddau sy’n prinhau.
Mae gwerthoedd o’r fath yn fwy nag anghynaladwy, maen nhw’n beryglus.
Yn ystod oes coronofirws, mae gwerthoedd sy’n rhoi rhyddid yr unigolyn pwerus i wneud yr hyn sydd o fewn ei rym yn ddilyffethair yn fygythiad uniongyrchol i les y gymuned.
Ac yn ystod oes pam fydd angen i bawb ohonom gymryd cyfrifoldeb am ddyfodol ein byd, mae canoli’r dull o wneud penderfyniadau’n gwanio gallu’n cymunedau i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw dros eu hunain.
Mae’r gaeaf wedi bod yn hynod hir, ond mae’r gwanwyn a’r addewid o fyd newydd yn barod i’n herio eleni.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.