gan Lyn Ebenezer
Gynt, pan glywn y gair ‘cyd-ddyheu’, yr hyn a ddeuai i’r cof yn ddieithriad fyddai englyn enwog R. Williams Parry i Neuadd Goffa Mynytho.
Ond erbyn hyn mae iddo arwyddocâd arall. Gellir yn awr ei briodoli hefyd i ardal Cwmystwyth yng ngogledd Ceredigion, lle gwelwyd cyd-ddyheu ar ei orau.
Dros y blynyddoedd edwinodd bywyd diwydiannol a chymdeithasol y Cwm. Ond bron iawn dros nos cafwyd trallwysiad gwaed a drawsnewidiodd y fro. Cyrhaeddodd ei benllanw gyda chyhoeddi cyfrol hanes lleol, ‘Cofio’r Cwm – Cwmystwyth – The Valley Remembered’.
Awdur y gyfrol yw un o blant y Cwm, Edgar Morgan. Ond ef fyddai’r cyntaf i gydnabod mai menter gymunedol fu’n gyfrifol am enedigaeth y gyfrol nodedig hon, sef y pedwar mudiad sy’n ffurfio Prosiect Cofio’r Cwm. A chefais y fraint o gydweithio â’r criw gweithgar hynny.
Fel y nodais yn rhagair y gyfrol, i’r rhelyw, lle i basio trwyddo yw Cwmystwyth rhwng Pontarfynach a Rhaeadr Gwy. Ond bu unwaith yn fath ar Klondike Cymru gyda gwythiennau cyfoethog mwyn plwm wedi denu cannoedd o fewnfudwyr economaidd a’u teuluoedd.
Edwinodd y diwydiant gan adael gwacter a thawelwch llethol. Disodlwyd y mewnfudwyr economaidd gan fewnfudwyr hinon haf. Diflannodd y bywyd cymdeithasol bron yn llwyr. Caeodd yr ysgol. Felly hefyd y siop. Collwyd y Clwb Ffermwyr Ifanc a’r eisteddfod. Bu bron iawn i’r moliant a’r gân ddiflannu’n llwyr o Gapel Siloam.
Ond daeth tro arall ar fyd, ac yn eironig iawn, mewnfudwyr fu’n gyfrifol am ail-gynnau’r fflam. Ond nid mewnfudwyr cyffredin oedd Meredydd Evans a’i briod Phyllis. Y gwir amdani oedd fod y potensial yno eisoes. Mered a Phyllis oedd y catalyddion. Symudodd y ddau yno wedi ymddeoliad Mered o’r BBC. Fel y mwyn plwm gynt, roedd y trysor yn guddiedig. Ond yn wahanol i’r mwyn plwm, doedd dim angen cloddio amdano. Dim ond procio a chymell.
Cychwynnwyd dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Adferwyd y moliant a’r gân yn Siloam. Sefydlwyd Cwrdd Bach, gyda’i benllanw yn denu cyfansoddiadau barddol a llenyddol bob mis Ionawr. Atgyfodwyd yr eisteddfod ar ôl hanner canrif o absenoldeb. Sefydlwyd côr merched. Trowyd festri’r capel yn ganolfan gymdeithasol. Ail-sefydlwyd gwasanaeth teithiol rhwng y Cwm ac Aberystwyth.
Collwyd Mered ac mae Phyllis bellach yn byw yn Aberystwyth. Ond mae fflamau lampau’r adfywiad a gyneuwyd gan y ddau yn dal i losgi yn nwylo diogel eu holynwyr. I mi, mae Cwmystwyth yn fro a wrthododd farw. Ac mae’r gyfrol ryfeddol hon yn gyforiog o hanes sy’n rhychwantu’r canrifoedd.
Dyma fro lle bu’r Rhufeiniaid ymhlith y mwynwyr cynnar. Dyma fro oedd â chysylltiad agos ag Abaty Ystrad Fflur.
Dyma fro Plas yr Hafod a chanolfan arbrofol amaethyddol Pwllpeiran. Dyma fro a fu’n dyst i ddiwygiadau crefyddol. A dyma fro a adfywiwyd.
Ariannwyd y gwaith o baratoi a chyhoeddi’r gyfrol gan y Gronfa Dreftadaeth. Mae hi’n adlewyrchu gwaith ymchwil rhyfeddol gan Edgar ac mae hi’n orlawn o luniau hanesyddol a rhai diweddar. Mae’r gyfrol hefyd yn batrwm i ardaloedd eraill ac yn anogaeth i bawb sydd am gasglu a chyhoeddi hanes lleol.
Cofio’r Cwm – Cwmystwyth – The Valley Remembered gan Edgar Morgan. Prosiect Cofio’r Cwm. Pris £14.99.
Prif lun gan Nigel Brown drwy drwydded CC BY-SA 2.0
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.