gan Dylan Wyn Williams
Fel un sy’n dueddol o osgoi rhaglenni’r pandemig fel y pla, sgiwsiwch y mwysair, bues i’n amenio’r actor John Simm yn ddiweddar.
Sôn am ei rôl fel ditectif yng nghyfres ddrama newydd Grace oedd o, a ffilmiwyd fis Awst diwethaf. Roedd ITV wedi penderfynu portreadu byd di-covid, heb ecstras mygydog nac arwyddion cadw pellter y tu allan i siopau. Fel yr ategodd Simm, “It was the most depressingly boring year and we don’t want to see it on film.”
Pwy yn ei iawn bwyll sydd eisiau gwylio rhaglen am bwnc hollbresennol ein hoes, waeth pa mor dda ydi hi? Sori Blwyddyn Covid: Lleisiau Cymru. Na, rhowch i mi fyd lle mae pobl yn cwtsio a dal dwylo, yn gwasgu wrth y bar am beint neu’n nadreddu drwy ddesg ymadael maes awyr i’r haul.
Rhowch i mi fwy o ddramâu a ffilmiwyd yn y blynyddoedd CC (Cyn Covid), megis Deutschland ’89, am fywyd personol a phroffesiynol ysbïwyr a gwerin bobl dwyrain Berlin.
Er, dw i mewn peryg o wrth-ddeud fy hun rŵan, achos mi ges i flas ar gyfres ag elfennau o’r presennol ynddi. Wedi’i ffilmio cyn ac yn ystod y cyfyngiadau, roedd Y Llinell Las (CREAD Cyf + Slam Media) yn dilyn hynt a helyntion go iawn plismyn ffyrdd y Gogledd.
O’r PC Alun Jones Rhosgadfan i PC Rich Priamo Wrecsam, cawsom gip pry ar y wal ar eu gwaith amrywiol, weithiau peryglus, mewn Beemers chwim gwerth £40,000 fel rhan o lu sy’n cadw trefn ar draean o Gymru.
Mae ’na ddigon o straeon am y natur ddynol yma, gydag alcohol a chyffuriau wrth wraidd sawl damwain, a lluniau dashcam o rasio ar ôl drwgweithredwyr i blesio ffans y myrdd o gyfresi tebyg ar sianeli Sky. Ac ydi, mae’r drônluniau o Eryri, Bryniau Clwyd a hyd yn oed gwibffordd yr A55 yn odidog.
Yn ogystal â chwerthin am ben esgusodion tila’r rhai a ddaliwyd dan ddylanwad, roedd eraill yn ddigon i’ch sobri – fel y gyrrwr tacsi fethodd brawf anadl serch ei deithwyr call yn y cefn, a’r heddwas a gafodd ei waldio’n anymwybodol ar stepan drws rhyw labwst.
“Anaml iawn ’da ni’n cael neb yn diolch i ni. ’Da ni’n cael ein galw’n enwau, cael ein cicio a phoeri arno fo… Mi oedd yna ryw barchus ofn ar yr heddlu. Mae hwnna ’di hen fynd…”
Sobreiddiol yn wir. Diolch i Stephen ‘Weiran Gaws’ Edwards (cynhyrchydd) a Rob Zyborski (dyn camera) am ddod â’u hanes yn fyw ar S4C, a diolch i’r Glas fel gweithwyr allweddol. Heblaw am hwnnw efo gwn goryrru ’nath roi dirwy i mi am wneud 33 drwy Bentraeth 30mya haf diwethaf.
Diolch i’r drefn fod drama ddiweddara nos Sul yn osgoi’r pandemig, serch iddi gael ei ffilmio dan glo. Mae Bregus (Fiction Factory) yn dilyn Ellie (Hannah Daniel) gwyn ei byd ar yr olwg gyntaf.
Gyrfa lwyddiannus fel llawfeddyg, clamp o dŷ brics coch blêr gydag Audi a Mini ar y dreif, hogan fach a gŵr (Rhodri Meilir) sy’n giamstar yn y gegin.
Ond pan mae chwarae’n troi’n chwerw mewn parti, mae Ellie yn ffoi i fyd peryglus iawn wrth i greithiau’r gorffennol ddod i’r fei eto – creithiau a awgrymir gan yr ôl-fflachiadau mynych o ferch mewn fflêrs yn rhedeg mewn coedwig a cherddoriaeth annifyr bob tro gwelwn ni lun ffrâm o’i diweddar dad. A ffoi i freichiau dieithryn (Julian Lewis Jones) mae hi, gyda goblygiadau peryglus i’w hanwyliaid.
Mae ’na lot fawr (iawn) o olygfeydd synfyfyriol, di-eiriau, yn hon sy’n mynd i lethu amynedd rhai.
Fydd hi ddim at ddant pawb sydd eisiau mwy o wmff a hiwmor.
Dyw hi ddim chwaith yn plesio mam a’i chyfoedion sy’n ysu am Teulu arall. Ond dw i’n reit hoff o ddramâu dow-dow, megis The Investigation o Ddenmarc ar BBC Two yn ddiweddar.
Ac mae sgript gynnil Ffion Williams a Mared Swain yn gafael, a’r perfformwyr yn actio ffwl pelt wrth i’r gwin a’r dagrau lifo yn swbwrbia.
Y Llinell Las – S4C Clic ac iPlayer
Bregus – Clic ac iPlayer
Deutschland ’89 – All4
The Investigation – BBC iPlayer
Grace – ITV Hub
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.