Blog

#taithyriaith am 1 ysgol Gymraeg yn pasio “heibio 9 ysgol Saesneg”

YMGYRCHU I GEISIO SICRHAU ADDYSG GYMRAEG YNG NGHYMUNEDAU PONTYPRIDD Bydd ymgyrchwyr sy’n galw am addysg Gymraeg yng nghymunedau ochrau Pontypridd yn gorymdeithio o Ynysybwl i Rydfelen ar Ddydd Sadwrn 13eg Ebrill. Mae rhieni a chefnogwyr sy’n gwrthwynebu penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn er mwyn […]

Continue Reading

#CyfeillionYCymro Yn Cyflwyno yr Artist @Ffion_Gwyn o Daliesin

Bu rhaglen deledu Countryfile yng Nghricieth yn ddiweddar i ymweld â’r artist Ffion Gwyn. Eu bwriad oedd dogfennu casgliad o ddyluniadau botanegol a’u gelwir yn “Cyfres Cymru”; casgliad o waith celf sy’n dangos rhywogaethau adnabyddus o fyd natur yng Nghymru. Bu’r criw yn ffilmio ar y traeth ger Castell Cricieth, ac yna yn stiwdio’r Ffion […]

Continue Reading

Y Cymro ar Restr Fer Gwobrau BAFTA 2019

Mae rhaglen ddogfen gan gynhyrchwr o Gaernarfon wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau BAFTA  teledu Prydeinig.   Ballymurphy Massacre yw enw’r ffilm sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Materion Cyfoes.  Mae’n archwilio hanes un o erchyllterau mwyaf difrifol y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon. Clywir, am y tro cyntaf erioed, dystiolaeth teuluoedd, llygad-dystion, patholegwyr a milwyr […]

Continue Reading

NID BARN #YCYMRO : Pryd y chi’n mynd i dyfu fyny? – Esyllt Sears

Fy enw i yw Esyllt Sears. Wi’n 37 mlwydd oed. Mae ‘da fi ddau o blant, ci, dwy iâr, morgais a chyfrifydd. Ond ddydd Iau diwethaf, roedd raid i fi wisgo bikini bottoms i’r gwaith achos do’n i methu ffeindio pans glân, eto fyth.       Pa oedran sydd rhaid i chi gyrraedd cyn teimlo […]

Continue Reading

CYMRU FFYDD. Oes gwynt yn hwyliau annibyniaeth o’r diwedd? – Barrie Jones

gan Barrie Jones Mae rhywbeth a fu’n mudferwi ers tro wedi deffro. Rhywbeth nad oedd gynt hyd yn oed ar ffiniau niwlog dychymyg y cenedlaetholwyr mwyaf rhemp. Neges eglur gan arweinydd Plaid Cymru, mudiadau rhyddid yn ffynnu, diflastod y Brecsit diddiwedd …o, a Charlotte Church hefyd! Wrth i’r gyfundrefn wleidyddol ei thynnu ei hun yn […]

Continue Reading

Wal ‘Cofiwch Dryweryn’- cofeb genedlaethol neu oriel gelf fwyaf democrataidd Cymru? – Gruffydd Meredith

gan Gruffydd Meredith Bu wal enwog ac eiconig ‘Cofiwch Dryweryn’ rhwng Aberystwyth a Llanrystud yn y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar wedi i’r slogan blaenorol gael ei ail baentio gyda slogan newydd yn dweud ‘Elvis’. Aeth rhai ychydig dros ben llestri ac i ‘sterics gan ddisgrifio’r weithred fel ‘trosedd gasineb’, tra bod eraill yn […]

Continue Reading

Helo – be ‘di hyn, mae iaith y nefoedd yn ennill tir… ar arwyddion yn LLOEGR!

Gan Gruffydd Meredith Tybed oes angen Cymdeithas yr Iaith Saesneg i warchod hawliau dinasyddion Lloegr rhag gormod o ddefnydd Cymraeg yn Lloegr? Dros y blynyddoedd, megis hud a lledrith a thrwy ddirgel ffyrdd, mae nifer cynyddol o arwyddion Cymraeg wedi ymddangos yn Lloegr heb fod neb cweit yn siŵr pam na sut. Ac nid yn […]

Continue Reading