gan Gruffydd Meredith
Adroddiad o ŵyl ‘Gwlad – Gwŷl Cymru’r dyfodol’ – gŵyl i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli swyddogol yng Nghymru, ac i edrych ymlaen i’r dyfodol.
Cynhaliwyd ‘Gwlad – Gŵyl Cymru’r dyfodol’ lwyddiannus yn Y Senedd ac adeilad y Pierhead. Cafodd yr ŵyl ei chynnal dros gyfnod o bum diwrnod a’i threfnu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â rhestr helaeth o bartneriaid.
Gwelwyd amrywiaeth o Aelodau Cynulliad ac aelodau blaenllaw a llai blaenllaw o fywyd cyhoeddus Cymru yn trafod datganoli a’r sefyllfa wleidyddol yng Nghymru heddiw. Dechreuodd yr ŵyl wrth i Adrian Masters o ITV Wales gadeirio sesiwn yn edrych yn ôl ar y bleidlais ‘Ie’ wreiddiol dros gynulliad, a’r 20 mlynedd o ddatganoli ers hynny.
Daeth Charlotte Church i siambr y Senedd i drafod ei dyheadau i Gymru ac i drafod ei chynlluniau hynod gyffrous i ddechrau ysgol annibynnol newydd ei hun: “Bydd yr ysgol rydw i’n ceisio’i sefydlu, yn rhydd i fynychu, yn greadigol, yn ddemocrataidd ac yn ymwneud â chyd-greu a chyd-adeiladu” Ychwanegodd Charlotte fod ganddi ddyhead i weld Cymru yn ymarfer democratiaeth mwy gyfranogol, sy’n agosach at y bobol ac yn adlewyrchu pawb ar lawr gwlad:
“Rwy’n credu y gall Cymru fod yn arweinydd byd-eang – yn genedl mor fach, gallwn fod yn agos at ein Llywodraeth. Fedra i ddim diodde gwylio pethau yn San Steffan. ’Dyw e ddim yn sgwrs, does neb yn ateb unrhyw gwestiwn a ’dyw e ddim yn real. Mae mor bell i ffwrdd o ddeialog ymarferol, bwrpasol ar sut ry’n ni’n gweithredu newid ac yn gwneud pethau’n well, dwi’n meddwl mai’r unig ffordd iddo fe ddigwydd nawr yw os yw’r bobl yn ei wneud e.”
Ar y dydd Sadwrn bu sgwrs hollbwysig ynglŷn â Chymru ac undeb y Deyrnas Gyfunol yn dwyn y teitl: ‘Oes dyfodol i’r Undeb’? Yn siarad roedd Ben Gwalchmai (Cyd- sylfaenydd Llafur dros Gymru Annibynnol), Sioned James (Cyd-gadeirydd Plaid Ifanc), Huw Irranca-Davies (AC dros Ogwr), Fay Jones (Cyfar-wyddwr, Grayling Wales a chyn Ymgeisydd y Blaid Geidwadol), a Jess Blair o’r Electoral Reform Society Cymru yn cadeirio.
Roedd yr holl banelwyr yn gytûn nad oes dyfodol i’r undeb fel y mae ar hyn o bryd. Soniodd Huw Irranca am ei ddyhead i weld Cymru yn rhan o Brydain ffederal yn ogystal â’i ddyhead i weld confensiwn cyfansoddiadol i Gymru – er i aelod o’r gyn- ulleidfa bwyntio allan fod y blaid Lafur yn y Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn hynny mewn sesiwn ddiweddar.
Pwysleisiodd Ben mai conffederasi neu annibyniaeth yw’r ddelfryd iddo fo. Er, annibyniaeth o fewn yr Undeb Ewr- opeaidd yw dymuniad Ben yn hytrach nag annibyniaeth tu allan i unrhyw undeb – nid oedd neb ar y panel yn siarad am annibyniaeth i Gymru tu allan i unrhyw undeb – bydd cyfle eto gobeithio.
Ategwyd hefyd ei fod yn debygol y byddai Brexit heb ddêl yn debygol o gynyddu galwadau am annibyniaeth i Gymru.
Soniodd Sophie gydag afiaith ac fel tae yn beth da, bod technoleg AI, robotiaid, awtomeiddio, profion biometrics a thai SMART (ffrjis yn siarad â ni, drychau yn sylwi os nad ydym yn edrych yn ddigon iach ayb) i gymeryd rheolaeth dros ein dyfodol a’n swyddi ac edrych ar ôl pob agwedd o’n bywydau o fewn yr ugain mlynedd nesaf.
Yn sesiwn #CymruEinDyfodol, rhoddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, bictiwr gofidus o Orwelaidd, yn fy marn i, wrth iddi hi drafod ‘yr heriau a’ r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru heddiw ac yn y dyfodol.’ Cymru yw’r unig wlad yn y byd sy’n deddfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a Sophie Howe sydd yn gyfrifol am ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar Gymru a’r byd.’
Cyflwynodd Mrs Howe ei neges fel yma:
“Sut ydyn ni eisiau i’r 20, 40, 100 mlynedd nesaf yng Nghymru fod? Mae fy swydd wedi’i hysgrifennu mewn statud fel ceidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. Fy rôl i yw sicrhau bod y rhai sydd â’r pŵer yn ystyried cenedlaethau yfory pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau heddiw.”
Ocê medde chi, ond be yn union mae hyn yn ei olygu ac wyt ti wedi dy ethol? Na ydi’r ateb i’r ail gwestiwn. Soniodd Sophie gydag afiaith ac fel tae yn beth da, bod technoleg AI, robotiaid, awtomeiddio, profion biometrics a thai SMART (ffrjis yn siarad â ni, drychau yn sylwi os nad ydym yn edrych yn ddigon iach ayb) i gymeryd rheolaeth dros ein dyfodol a’n swyddi ac edrych ar ôl pob agwedd o’n bywydau o fewn yr ugain mlynedd nesaf. Ond does dim angen poeni, bydd angen o hyd am bobol i ddelio gyda ‘materion emosiynol’ yn ôl Sophie. O, reit – grêt-popeth yn iawn felly te.
Mae hefyd am weld technoleg 7G mewn lle o fewn ugain mlynedd er bod pryder dybryd yn bodoli yn barod am ddiogelwch 5G.
Ei barn hefyd yw y bydd be y galwodd yn enhanced humans o gwmpas mewn ugain mlynedd yn ogystal â ‘phobol AI’ (robotiaid) a bod angen i ni jisd dderbyn yn dawel fod y robotiaid yn mynd i gymyd drosodd, fod dim y gallwn wneud am y peth a hefyd fod angen i ni roi ‘hawliau cydraddoldeb’ i robotiaid fel ‘tae nhw’n bobol. Yn amlwg.
Mynnodd Sophie hefyd fod ganddi gynllun 10 pwynt y bydd ‘rhaid’ i Lywod- raeth Cymru ei ddilyn, ac y bydd hi’n defnyddio ei holl bwerau i sicrhau ei fod o a chyrff cyhoeddus eraill yn dilyn yr holl bwyntiau yma y mae yn mynnu arnynt.
I fi, mae problemau eithaf sylweddol yn codi yma wrth ddweud wrth Lywodraeth Cymru a dinasyddion Cymru pa ddyfodol neu beidio maen nhw’n mynd i orfod ei wynebu. Wrth gwrs, fe glapiodd pawb oedd yn bresennol megis morloi pan ddoth yr araith i ben – fel tae hi wedi bod yn trafod ei hoff fisgedi neu be mae’n licio neud ar bnawn Sul. Isafbwynt yr ŵyl i fi.
Ei barn hefyd yw y bydd be y galwodd yn enhanced humans o gwmpas mewn ugain mlynedd yn ogystal â ‘phobol AI’ (robotiaid) a bod angen i ni jisd dderbyn yn dawel fod y robotiaid yn mynd i gymyd drosodd, fod dim y gallwn wneud am y peth a hefyd fod angen i ni roi ‘hawliau cydraddoldeb’ i robotiaid fel ‘tae nhw’n bobol. Yn amlwg.
Beth bynnag, cafwyd wedyn sesiwn ddiddorol Newyddion Ffug a’r Cyfryngau yn y Pierhead dan gadeiryddiaeth Fay Jones o Public Affairs Cymru. Siaradodd y panel yn ddeallus am yr angen am wasg a chyfryngau cryf yng Nghymru. Gofynnodd Guto Harri gwestiwn da, sef: “Ydi gwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd yn haeddu cyfrej newyddion graenus yng Nghymru a gweddill Prydain os nad ydi gwleidyddion Cymru yn gwneud unrhyw beth o werth neu o ddiddordeb?”.
Hefyd yn siarad yr oedd yr Athro Laura McAllister CBE ac Owen Williams – cyn bennaeth strategol cyfryngau cymdeithasol gyda’r BBC.
Gwnaeth aelod o’r gynulleidfa oedd yn arfer gweithio i’r BBC bwynt da hefyd fod diffyg amrywiaeth a phlwraliaeth barn yn bodoli yn y BBC yn gyffredinol ac bod bias sylweddol yn bodoli yn y gorfforaeth o ran bod yn gefnogol i’r bleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Siaradodd Carole Cadwalladr, gohebydd, newyddiadurwraig ac awdures gyda’r Observer, sydd wedi ei magu yng Nghaerdydd, gyda chynulleidfa a lenwodd siambr y Senedd ar bnawn Sul. Rhannodd y newyddiadurwraig ei barn diflewyn-ar-dafod am Brexit ac ymgyrch y refferendwm o safbwynt Cymru.
Roedd y sesiwn a’r drafodaeth, hefyd ar y Sul, ynglŷn â chreu ail siambr neu Gynulliad Dinasyddion yn arbennig o ddiddorol – yn digwydd bod, roeddwn i wedi creu deiseb yn awgrymu’r un peth rai blynyddoedd yn ôl – dan yr enw Ty’r Bobol/Citizen House – deiseb gafodd ei thrafod a’i hystyried gan bwyllgor deisebau’r Cynulliad.
Soniodd y panel yn yr ŵyl am yr arbrawf cyntaf i greu Cynulliad Dinasyddion a gafodd ei gynnal dros benwythnos yn y Drenewydd dros yr haf. Y syniad yn fras yw creu cynulliadau o ddinasyddion ar draws Cymru i fod fel math o ail siambr i scrwtineiddio be mae’r Cynulliad/Senedd a’r pwyllgorau’r Seneddol hynny yng Nghaerdydd yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn yr un modd ag y mae rheithgorau yn cael eu dewis, bydde aelodau o’r Cynulliadau Dinasyddion yn cael eu dewis drwy system ‘ar hap’ ac o gronfa ddata codau post, a’r rheiny sydd wedi eu dewis yn gallu cytuno neu wrthod cymyd rhan.
Clowyd yr ŵyl wrth i’r digrifwr a’r awdur Daniel Glyn sgwrsio gyda’r actor Rhys Ifans. Soniodd Rhys am yr hyn sy’n ei ysbrydoli, ei gariad at Gymru a’i gof am y daith i ddatganoli. Wrth sôn am faes celfyddydau a ffilm Cymru dywedodd: “Yn sicr mae ’na lot mwy o waith yn cael ei greu yma, a fy ngobaith i ydi bydd y gwaith yna rhywsut yn gwaedu fewn i’r gymdeithas sydd yn byw yng Nghaerdydd a Chymru gyfan ac yn ysbrydoli pobl i sgwennu ac i greu gwaith newydd. I roi cyfle i’r byd clywed ein storïau ni ac ein llais ni.”
Mi fydd GWLAD hefyd ar daith ym mis Tachwedd, gyda thri digwyddiad un-dydd yng Nghaernarfon (16 Tachwedd); Wrecsam (23 Tachwedd); a Chaerfyrddin (30 Tachwedd).
Lluniau: Cynulliad Cenedlathol Cymru a Gruffydd Meredith
Mae rhifyn Hydref Y Cymro allan yn eich siopau lleol rwan. I danysgrifio ewch yma
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.