Wel, mae rhywun yn gorfod gwneud…be am sefyll fel aelod Senedd Cymru? (o’r archif) – Gruffydd Meredith

Barn

(Or archif:  papur Y Cymro, rhifyn Hydref 2018)

gan Gruffydd Meredith

Wedi cael digon o glywed ein gwleidyddion ym Mae Caerdydd a thu hwnt yn pratlo mlaen am ddatblygu cynaliadwy, tryloywder, caffael a delifro; ac isio gweld mwy o siarad strêt am bethe sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i’n gwlad a’i phobol?  Isio cynrychioli eich ardal a ‘dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif’ neu ffurfio Llywodraeth eich hun? Wel sefwch te. Ond cyn i chi wneud hynny, dyma’r holl ffeithiau fydd angen i chi wybod cyn mynd ati o ddifri os am herio biwocratiaeth malwodaidd y bae a thu hwnt. 

Cymwysterau ar gyfer sefyll etholiad:

Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd etholaethol neu ranbarthol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (neu aelod Senedd Cymru) rhaid i chi, ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio, fod o leia 18 oed, ac yn ddinesydd y Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu’n ddinesydd yn un o aelod wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Gallwch hefyd sefyll i fod yn aelod Cyngor Sir neu Gyngor Cymunedol/Tref.  Y Comisiwn Etholiadol sydd yn delio gyda’r holl opsiynau yma.

Ni fyddwch yn gallu sefyll os ydych yn:

Farnwr, gwas sifil, aelod o’r lluoedd arfog rheolaidd, aelod o’r heddlu, aelod o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Gymanwlad (heblaw am Weriniaeth Iwerddon), dal swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, dal swydd Ombwd- smon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn arglwydd raglaw, is-gapten neu uchel-siryf mewn unrhyw ardal yng Nghymru

Swyddfeydd:

Mae stâd y Cynulliad yn cynnwys tri adeilad ym Mae Caerdydd (y Senedd, Tŷ Hywel a’r Pierhead), a swyddfa ym Mae Colwyn. Os yn ddigon lwcus i gael eu hethol, darperir swyddfa i bob Aelod yn Nhŷ Hywel, sef yr adeilad ger y Senedd.
Hefyd, darperir costau ar gyfer swyddfa yn yr etholaeth/rhanbarth. Yn gyffredinol, mae Aelodau’n dewis swyddfeydd sy’n hawdd i’w hetholwyr gyrraedd ac sy’n gyfleus i staff.

Cyflog:

Os yn llwyddiannus yn etholiad y Cynulliad/Senedd, mi fyddwch yn ennill £66,847 y flwyddyn gydag unrhyw gostau ar ben hyn.

Llun CCO. Y filltir sgwâr, Llundain – Corfforaeth breifat y goron (crown cooperation) y mae’n rhaid i wleidyddion Cymru a San Steffan dyngu llw i’w warchod.

Ieithoedd:
Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Senedd.

Cost sefyll mewn etholiad

Mi fydd angen i chi ddod o hyd i £500 i sefyll mewn etholaeth neu ranbarth y     Cynulliad. Os cewch, fel unigolyn neu’r blaid yr ydych yn ei gynrychioli, fwy na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys mi gewch eich £500 yn ôl. Os cewch lai na 5% ni chewch eich pres yn ôl. Nid oes angen talu dim i sefyll mewn etholiad cyngor/awdurdod lleol.

Cadarnhad neu lw teyrngarwch i’r ‘goron’:

Ar hyn o bryd, am ba bynnag reswm, nid yw aelodau Cynulliad/Senedd Cymru, yn swyddogol o leiaf, yn cael tyngu llw neu gadarnhad i Gymru neu i bobol Cymru.
Ond yn hytrach rhaid gwneud hynny i frenhines y Deyrnas Unedig, sydd yn gynrychiolydd ac ‘ymgorfforiad byw’ o gorfforaeth y Goron o dan y teitl HM Brenhines Elizabeth II.

Yn dechnegol ‘y Goron’ neu ‘Corfforaeth y Goron’ yw dinas Llundain, sef ‘y filltir sgwâr’ sydd yn bodoli fel corfforaeth neu math o wladwriaeth breifat ynghanol Llundain, yn debyg i’r Fatican yn yr Eidal a Washington DC yn yr UDA.

Mae gofyn i Aelodau’r Cynulliad/Senedd dyngu llw teyrngarwch neu roi cadarnhad cyfatebol i’r goron yn fuan ar ôl iddynt gael eu hethol. Ni allant wneud eu gwaith yn llawn fel Aelodau Cynulliad nes iddynt gyflawni un o’r ddau orchwyl.
Hyd yma nid yw gwahanol bwyllgorau Cynulliad/Senedd Cymru na Llywodraeth Cymru wedi dangos unrhyw ddiddordeb i geisio newid y drefn yma fel bod aelodau yn gallu dewis tyngu llw neu gadarnhad i Gymru neu eu hetholwyr yn lle.

Cafodd deiseb i’r Cynulliad yn 2016 yn galw i newid y drefn, ei gwrthod gan y pwyllgor deisebau ac ni ddaeth chwaith ymateb i’r ddeiseb gyfatebol a gafodd ei chyflwyno i Dŷ’r Cyffredin yn San Steffan. (Cafodd deiseb arall yn 2012 yn galw am daflen i gael ei gyrru allan i bawb o oedran pleidleisio yng Nghymru i esbonio sut mae sefyll mewn etholiad hefyd ei gwrthod).

Mi allwch wastad wneud be wnaeth Paul Flynn ac eraill yn San Steffan, a chreu defodau eich hunain pan yn cael eich derbyn sydd yn ‘canslo allan’ y llw swyddogol. Dewis arall fydde gwneud yr un peth â saith aelod etholedig Sinn Fein yn San Steffan a pheidio eistedd yn y Senedd o gwbl nes i’r drefn yma newid.

 

Oes rhaid cael plaid?:

Nid oes rhaid i chi fod yn rhan o blaid i sefyll, gallwch sefyll fel unigolyn                annibynnol heb yr angen am blaid os dymunwch. Os am gael plaid, rhaid ei gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol a dilyn eu gwahanol reoliadau. Mae cofrestru plaid gyda’r Comisiwn Etholiadol yn costio £150 o bunnoedd.

Be i’w wneud nesa:

Felly rydych yn barod i roi go arni, i  gerdded o gwmpas a gadael i’r cyhoedd eich cofleidio mewn llawenydd, eich insyltio neu eich anwybyddu yn llwyr? Y peth cyntaf i’w wneud yw cysylltu gyda’r Comisiwn Etholiadol i ddweud eich bod am sefyll ym mha bynnag etholiad – boed yn lleol neu dros Gymru (neu hyd yn oed ym Mhrydain mewn etholiad cyffredinol dros Brydain).

Ar ôl penderfynu os ydych am sefydlu plaid neu jisd sefyll fel aelod annibynnol heb barti, mi gewch wedyn gyngor gan y Comisiwn Etholiadol am be i’w wneud nesa a pha ffurflenni i’w llenwi.

Mae’n bosib y bydde’n syniad i chi gael rhywun i’ch helpu gyda’ch ymgyrch ac i hel pres ac ati, megis trysorydd a/neu reolwr ymgyrch. Ond mân bethau yw’r rhain. Y peth pwysig yw eich bod yn barod i sefyll a herio biwrocratiaid malwodaidd y bae a chynrychioli eich ardal neu sir.

Am be wyt ti’n aros felly? – cer amdani!

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau