Mae papur Y Cymro rwan ar gael i’w brynu mewn siopau Tesco dethol ledled Cymru. Daw hyn ar ôl trafodaethau rhwng Cyfryngau Cymru Cyf sydd yn cyhoeddi’r papur, ynghyd a thîm gwerthiant Tesco a’r dosbarthwr Menzies sydd eisoes yn dosbarthu Y Cymro dros y rhan fwyaf o’r wlad.
Mi fydd y papur ar gael yn yr adran bapurau o’r siop dros bob rhan o Gymru heblaw, ar hyn o bryd, ardaloedd o’r de ddwyrain ble nad yw cwmni Menzies yn gyfrifol am ddosbarthu. Mae’r papur yn parhau i fod ar gael i’w brynu yn y siopau Cymraeg ac annibynnol eraill hynnu o fewn yr ardaloedd yma.
Dywedodd perchnogion Y Cymro: “Braint yw gallu cyd weithio gyda chwmni Tesco yng Nghymru er mwyn sicrhau fod unig bapur cenedlaethol Cymru ar gael i’r cyhoedd ei brynu ar draws y wlad. Mae ymroddiad Tesco i’r iaith Gymraeg, i arwyddion dwy ieithog ac i hyrwyddo cynnyrch Cymreig yn gyffredinol i’w ganmol yn fawr ac mae’n bleser gweld Y Cymro yn rhan o’r cynnyrch cenedlaethol yma sydd ar gael i bawb”
Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: “Rydym yn chwilio am ffyrdd i roi gwasanaeth ychydig yn well i’n cwsmeriaid bob amser, ac rydym yn gobeithio y bydd darllenwyr Y Cymro yn gwerthfawrogi’r cyfle i brynu copi wrth siopa yn Tesco mewn mwy na 40 o’n siopau yng Nghymru.”
Wedi gweld Y Cymro yn eich Tesco lleol chi? Be am dynnu llun a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn lledaenu’r neges – gan roi @Tesco_Wales a @Y_Cymro yn eich neges os ar twitter os yn bosib. Bydd gwobr i’r llun gorau yr ydym yn ei dderbyn cyn y nadolig.
Cofiwch fod Y Cymro hefyd ar gael yn eich siop Gymraeg lleol ynghyd a nifer o siopau eraill ar y stryd fawr dros Gymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.