Cymry blaenllaw yn ffurfio Cyngor Cyfathrebu cyntaf Cymru
Mae nifer o Gymry blaenllaw, gan gynnwys Angharad Mair ac un o gyfranogwyr hollbwysig cyfarfodydd cynnar Cyfeillion Y Cymro yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fôn 2017 sef y cyn-gynhyrchydd teledu Eifion Glyn, wedi ffurfio’r Cyngor Cyfathrebu cyntaf yn hanes Cymru.
Y corff hwn fydd yn rheoleiddio’r maes darlledu pan ddaw y pwerau hynny i Gymru.
Aelodau eraill y corff newydd bydd y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog; Alun Jones Williams o’r band Bwncath, y gohebydd Marc Webber; y cyn-gynhyrchydd BBC Radio Cymru Rhisiart Arwel; y rheolwr cynnwys digidol Owain Gwilym; a Chyfarwyddwr Digidol Cwmni Da Phil Stead.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol:
“Mae’n ddiwrnod hanesyddol yn y broses o ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Mae safon aelodau cyntaf y Cyngor hwn yn arbennig ac yn dangos dyfnder y dalent, y brwdfrydedd a’r profiad y gallwn ni fanteisio arno yng Nghymru. Bydd y bobl hyn yn fwy na pharod ac abl i reoleiddio darlledu a chyfathrebu. Mae’r cyhoedd eisiau gweld penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobl Cymru, felly dyma a fydd.”
Mae Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gyfrifol am greu strwythur rheoleiddio addas ar gyfer Cymru. Mi fydd y Cyngor yn datblygu polisi a syniadau ym maes darlledu ac yn llunio’r camau sydd rhaid eu cymryd yn y broses o ddatganoli cyfrifoldebau rheoleiddio i Gymru, ym maes cyfryngau a chyfathrebu.
Mwy o wybodaeth: cyfathrebu.cymru .
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.