Yr ymgyrch ddiystyr i ‘stopio newid hinsawdd ’ – twyll arall ein hoes sydd wedi troi mewn i gwlt selotaidd – Gruffydd Meredith

Barn

gan Gruffydd Meredith

Yr argyfwng yn ôl amryw yw bod yr hinsawdd yn newid a bod angen ‘rhoi stop ar hyn’. Pan ystyrir ystyr y geiriau a’r sentiment yma mi ddylai pob person gweddol synhwyrol o leiaf synhwyro mai nonsens disynnwyr a diystyr yw gosodiad o’r fath. Mae’r hinsawdd wastad wedi newid ac mae newidiadau mewn tymheredd yn rhan naturiol o’r newid yma. Mae trio stopio hynny fel trio stopio glaw rhag disgyn neu gŵn rhag cyfarth.

Ac mae hanes yn dangos fod y byd wedi bod llawer poethach ac oerach nag ydi o ar y pwynt yma, a bod hyn yn mynd a dod mewn cyfnodau a chylchoedd gwahanol dros amser.

Wrth gwrs y naratif tu ôl hyn i gyd ydi mai effeithiau allbwn CO2 (carbon diocsid) o weithgareddau dyn yw’r broblem, ac sydd yn achosi i dymheredd y byd newid.

Neu o leiaf dyna oedd y naratif. Newidiwyd y sgript ar ôl i’r naratif yma gael ei herio a’i drechu gan nifer enfawr o wyddonwyr sydd yn dadlau nad oes tystiolaeth grediniol fod CO2 gan ddyn neu gan natur yn cynyddu tymheredd. Ac yn wir, fod mwyafrif y dystiolaeth yn dangos mai’r tymheredd sydd yn codi, a bod lefelau CO2 wedyn yn dilyn hynny.

Tabl yn dangos lefelau CO2 yn dilyn y tymheredd o rai cannoedd o flynyddoedd yn hytrach nag achosi y tymheredd i godi. Gan NOAA drwy drwydded CC BY-SA 3.0

Felly fe stopiwyd y naratif yma bod cynhesu byd eang wedi ei achosi gan CO2 dyn (a dynes) rai blynyddoedd yn ôl. Yn ei le fe ddaeth y naratif hyd yn oed mwy rhyfedd fod ‘angen stopio newid hinsawdd’. Dyma’r naratif diweddaraf i gael ei wthio arnom yn ddi-stop, ac ar blant yn enwedig.

Ac mae unrhyw un nad sydd yn gweld synnwyr yn y datganiad disynnwyr fod angen ‘stopio newid hinsawdd’ yn ffasgydd erchyll sydd angen ei losgi ar y sgwâr mae’n ymddangos. Ie, yn euog o ffasgiaeth ac am fod yn ‘wadwr hinsawdd’, be bynnag ufflon ydi ystyr hynny pan mae o adre. Roedd Monty Python yn arfer gwneud sketches dychan gwych am y math yma o beth. Rwan mae amryw yn yngan y fath sentimentau heb ronyn o eironi neu barodi – rhywbeth gwirioneddol gomic a dychrynllyd i’w weld ar yr un pryd.

“…mae mwyafrif y dystiolaeth yn dangos fod lefelau CO2 yn cynyddu yn sgil codi tymheredd yn hytrach nag achosi i dymheredd godi. Un o’r profion sydd yn tystio i hyn yw profion rhew Vostock sydd yn dangos fod CO2 yn dilyn codiadau yn y tymheredd”

Nid gwyddonydd ydw i ond byswn i’n licio meddwl fy mod yn gallu cadw meddwl agored ac empirig gyda materion o’r fath er mwyn trio ffeindio’r gwir. Felly be am y ffeithiau sylfaenol a’r prif ddadleuon? Be yn union ydi’r prawf ynglŷn â newid hinsawdd ac effaith dyn arno? Dyma ambell bwynt islaw o safbwynt y dyn ar y stryd:

1. O’r holl nwyon yn yr amgylchedd yn gyffredinol, oddeutu 0.04% yw’r cyfanswm o CO2. Credir mai allbwn dyn o’r 0.04% yma yw tua 4%. Felly, o hyn, gellir dweud mai canran allbwn CO2 dyn o’r holl nwyon yn yr amgylchedd yw oddeutu 0.0016%

2. Erbyn hyn mae carfan enfawr o wyddonwyr wedi datgan nad oes tystiolaeth grediniol yn dangos fod y CO2 gan ddyn neu gan natur yn achosi i dymheredd godi. Yn wir, mae mwyafrif y dystiolaeth yn dangos fod lefelau CO2 yn cynyddu yn sgil codi tymheredd yn hytrach nag achosi i dymheredd godi. Un o’r profion sydd yn tystio i hyn yw profion rhew Vostock sydd yn dangos fod CO2 yn dilyn codiadau yn y tymheredd ac nid yn achosi’r tymheredd i godi.

3. Camarweiniol hefyd yw datgan bod consensws ymhlith gwyddonwyr bod tymheredd y byd yn codi oherwydd CO2. Dydi’r wasg byth yn sôn am y degau ar filoedd o wyddonwyr sydd wedi datgan yn glir nad ydynt yn coelio yn y naratif bod dyn a CO2 yn achosi i’r tymheredd godi chwaith. Ac nid ydi gwyddoniaeth wedi ei seilio ar gonsensws beth bynnag ond yn hytrach ar dystiolaeth a phrawf empirig.

Llun gan Fonmon castle

4. Yn ôl Piers Corbyn (brawd Jeremy), astroffisegydd, arbenigwr tywydd a’r hinsawdd a siaradwyr galluog yn erbyn cwlt ‘stopio newid hinsawdd’, yn syml, yr haul a’i natur sy’n gyfrifol am y prif newid i’r hinsawdd a thymheredd ers dechrau amser. Mae Piers ac amryw eraill hefyd yn awgrymu ei bod yn bosib mai symud tuag at oes iâ neu rew yr ydym ac nid at or-gynhesu.

5. Ac nid yn unig nad oes unrhyw dystiolaeth grediniol fod CO2 yn achosi i dymheredd y byd godi ond mae CO2 yn un o’r nwyon angenrheidiol i fywyd. Heb CO2 ni fyddai’r un planhigyn na choeden yn tyfu ac felly dim bwyd i ni futa.

6. Gwelir grwpiau mwy diweddar yn neidio ar y band wagon gyda’r slogan di synnwyr ‘stopiwch newid hinsawdd’. Y diweddaraf o’r rhain yw Extinction Rebellion, grŵp sydd wedi ymddangos dros nos fel madarchen, sydd wedi ei drefnu, ei frandio a’i farchnata yn hynod effeithiol a thrylwyr ac sy’n amlwg, yn fy marn i, yn cael cefnogaeth a sylw enfawr gan y prif gyfryngau Llundeinig ac asiantaethau llywodraethol ac addysgiadol y Deyrnas Unedig.

7. Ac wrth gwrs mae pob symudiad cwlt hefyd angen ei arweinwyr a’i Uwch Offeiriaid. Yn fy marn i, pypedau’r prif gyfryngau Llundeinig a’r corfforaethau rhyngwladol yw’r rhain erbyn hyn yn ogystal – megis y cysgodion ar wal yr ogof yn alegori Plato; yn gwerthu naratif ffals i ni oll.

Ond be sydd tu ôl hyn i gyd a pham, dwi’n clywed chi’n gofyn yn eiddgar?

Gadewch i fi drio ehangu rywfaint gan obeithio na fydd hyn oll yn swnio yn rhy bellgyrhaeddol.

Mi welir mai rhai o gefnogwyr mwyaf brwd yr agenda gwyrdd i ymgyrchu yn erbyn cynhesu byd eang a newid hinsawdd yw’r cwmnïau’r fydde amryw yn eu hystyried y mwyaf annisgwyl. Y rhain, y corfforaethau yma oll, fydd yn elwa ar yr holl wario ar egni adnewyddol megis y melinau gwynt. Yn ogystal, bydd y cyflenwyr trydan yn elwa o’r cynnydd mewn galw enfawr sydd yn cael ei ragweld ar gyfer pweru’r dinasoedd ‘Smart’ a’r ceir trydan ‘Smart’ di-yrrwr sydd yn cael eu gwthio arnom yn gynyddol.

Mae wedi cael ei nodi gan y National Grid ei hun y bydde cael pob car ar y ffordd yn rhedeg ar drydan yn y dyfodol gyfystyr ag egni o ddeg gorsaf niwclear newydd, a byddai rhaid eu hadeiladu ar gyfer hynny – rhywbeth fydde’n llawer mwy niweidiol i’r amgylchedd na’r ceir petrol neu ddisel presennol, er nad yw’r rheiny’n berffaith chwaith.

Ac wrth gwrs mi fydd yr holl gorfforaethau, mewn partneriaeth gyda’r agenda gwyrdd yma, yn elwa yn ddramatig o’r trethi carbon fydd yn cael eu gorfodi arnom – oll yn seiliedig ar dystiolaeth ddi-sail fod yr 0.0016% o CO2 y mae dyn yn ei greu yn achosi i’r byd gynhesu er bod mwyafrif y dystiolaeth yn awgrymu mai dilyn codiad mewn tymheredd mae CO2, nid ei achosi.

Mae pawb synhwyrol isio byw mewn byd dymunol, a ddim am weld llygredd na difetha ein hamgylchedd a byd natur. Ac mae’r rhan helaeth o’r rheiny sydd yn protestio i warchod ein hamgylchedd yn amlwg yn bobol dda a phob un yn haeddu canmoliaeth am brotestio i warchod ein hamgylchedd. Ond nid dyna gwir bwrpas y pwerau mawr rheiny sydd yn eistedd ar y top ac yn arwain y prif agenda gwyrdd honedig. Fel soniwyd, yn fy marn i maent yn defnyddio’r agenda gwyrdd a’u ‘datblygu cynaliadwy’ i hawlio mwy o reolaeth ar y byd a’i adnoddau tra’n cario mlaen i lygru a thynnu ymaith ein hawliau a’n rhyddid.

Dwi’n ofni fod pobol y byd yn cael eu twyllo a’u camarwain ar sgêl enfawr. Mae dyletswydd foesol ar academyddion, gwyddonwyr, y wasg a chi a fi i gynyddu y trafod a’r ymchwil i fewn i’r twyll yma.

LLun gan BBC

Dwi’n sylweddoli (da iawn am gyrraedd fa’ma gyda llaw) fod hyn oll yn swnio’n ‘gonsbirotorial’ i rai – o bosib i lawer. Ond dyna’n union ydi o. Cynlluniau ac agendau conspiritorial sydd yn cael eu cario allan yn gudd a heb ein caniatâd na’n hymwybyddiaeth. Cracpots? Cacenni ffrwythau? Ynden mae’r rhai sy’n gyfrifol yn hyn oll.

Ond plis peidiwch coelio gair dwi’n ddweud. I ddweud y gwir byswn i wrth fy modd pe bawn i’n hollol, gwbl anghywir – byse hynny’n rhyddhad mawr ac yn fy ngalluogi i gael mwy o amser i yfed cappuchinos yn yr haul, edrych ar adar neu, un o fy mhrif hobiau, edrych ar wyliau posib na alla i eu fforddio. Felly plîs gwnewch eich ymchwil eich hun, ystyriwch a defnyddiwch eich rheswm a’ch rhesymeg i ganfod y gwirionedd. Nid yw’r gwir ofn unrhyw ymchwilio.

Yn y cyfamser, rwy’n datgan yn ddi-os ein bod, fel dynoliaeth a gwareiddiad, dan ymosodiad gan y rheiny sydd isio ein rheoli, neu waeth.

Pwysig yw cofio wastad: mae mwy ohonom ni na nhw – llawer, llawer mwy.

 

Mae’r Cymro ar gael i brynu yn eich siopau lleol rwan. Neu ewch yma am fanylion tanysgrifio drwy’r post ac ar pdf drwy’r we.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau