Rhifyn Tachwedd

Newyddion
Wel… a fydd annibyniaeth i Gymru yn un o’r opsiynau fydd dan ystyriaeth gan y comisiwn cyfansoddiadol newydd?

Dyna sydd yn mynnu sylw yn rhifyn Tachwedd Y Cymro – mae ambell i un yn crafu pen ac yn holi a fydd annibyniaeth yn cael ei ystyried o ddifri ac eraill yn gofyn pam ei fod yn rhan o’r comisiwn o gwbl. Tydi’r darlun ddim yn hollol glir eto ond hyd yma mae’n debyg ei fod yn fwy o obaith nac o siom – cawn weld!

Mae hanes a lluniau rali ddiweddar Nid yw Cymru ar Werth ar draeth Parrog hefyd yn nhudalennau’r rhifyn. Digwyddiad oedd hwn i alw unwaith yn ragor ar y Llywodraeth i drin yr argyfwng tai fel argyfwng go iawn – nid dim ond cynnal ymgynghoriadau a thrafod y broblem. Dywedodd un sy’n chwilio’n ofer am gartref lleol: “Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau tai eleni, mae dyfodol ieuenctid ein bro a gweddill cefn gwlad Cymru yn fwy ansicr nag erioed. Dim ieuenctid, dim dyfodol i’n cymunedau gwledig Cymreig.” 

Mae eraill yn galw am yr hawl – fel sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon – i nodi diwrnod ein nawddsant ein hunain gyda gŵyl banc cenedlaethol. Meddai’r Cynghorydd dros Landderfel, ger y Bala, Elwyn Edwards:
 “Does dim synnwyr nad yw’r grym gennym ni, fel gwlad, i benderfynu ar ddyddiau sydd o bwys cenedlaethol i’n hanes, treftadaeth a’n hiaith ni ein hunain,” 

Ymosodiadau ar fenywod a’r cyngor gwael sydd wedi ei roi i ferched dros yr wythnosau diwethaf yw pwnc Esyllt Sears y mis yma wrth iddi dynnu sylw at y cyngor mae hi’n ei alw yn
nonsens.

Rhoi stop ar golli’r enwau Cymraeg ar ein tai yw trywydd colofn Tachwedd Cymdeithas yr Iaith. Dim mwy o ‘Mountain View Cottage’ felly – a pwy wyddai ei fod mor hawdd i’w wneud.

Mae Sharon Morgan yn gofyn pa ddyfodol sydd i ffilm a theledu Cymru mewn darn barn cryf ac mae Prif Weithredwr Dyfodol yr Iaith yn gofyn unwaith pam nad yw hanes ein gwlad yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion.

Ac yn ei erthygl fisol ar bwnc hanesyddol mae Mel Hopkins yn rhoi  hanes y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu yn yr Unol Daleithiau.

Mae rhifyn Tachwedd Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau