‘Smart meters’ – y ffeithiau a’ch hawl chi i’w gwrthod yn llwyr (o’r archif) – Gruffydd Meredith

Barn

(O’r archif: papur Y Cymro, rhifyn Gorffennaf 2018)

gan Gruffydd Meredith

Teclynnau eraill sydd yn defnyddio technoleg di wifr ac sydd yn creu consarn i lawer am breifatrwydd a diogelwch yw Smart Meters neu ‘Mesuryddion Deallus’ i roi’r bathiad Cymraeg iddynt. 

Y bwriad gan y cyflenwyr a’r awdurdodau yw eu bod yn cymeryd lle yr holl fesurwyr trydan analog traddodiadol a’r gobaith gwreiddiol oedd cael mesurydd ‘ym mhob cartref yng Nghymru, Lloegr a’r Alban erbyn 2020’. Ers hynny mae nifer cynyddol o bobol wedi dod i wybod mwy am y dechnoleg ac yn gwrthod eu derbyn.

Mae’r teclynnau yn gweithio drwy fesur defnydd trydan, nwy, a dŵr a danfon yr holl wybodaeth yma i’r cyflenwyr yn awtomatig drwy dechnoleg di wifr a thrwy’r we 24 awr y dydd.  Mae hyn yn rhan o’r ‘Smart Grid’ brawd mawraidd y mae’r awdurdodau yn awyddus iawn i’w weld ymhobman, a gyda system 5G yn chwarae rhan bwysig fel un o’r ‘systemau cario’ diweddaraf.

Mae’r cwmnïau cyflenwi yn cyfaddef yn agored y byddant yn rhannu’r wybodaeth a gesglir  gyda thrydydd partïon gan gynnwys y Llywodraeth

Yn ogystal â hyn, mae’r mesuryddion deallus yn gallu cyfathrebu gydag eitemau electroneg eraill yn y cartref sydd wedi eu ffitio a chip RFID (Radio Frequency Identification) – eitemau megis peirannau golchi dillad, teledu, radio, y ffrij ayb, ac felly yn monitro popeth sydd yn mynd ‘mlaen yn y tŷ a’i reportio nol i’r cwmnïau cyflenwi.

Consarn nifer yw bod gwybodaeth breifat yn cael ei yrru am bopeth sydd yn mynd ‘mlaen yn y cartref ac yn cael ei rannu drwy’r we, sydd hefyd yn gwneud y system yn agored i gael ei hacio a’i gam-ddefnyddio gan ddrwgweithredwyr.

Mae consarn hefyd am effaith ar iechyd yn sgil ymchwil gwyddonol  helaeth i effaith posib llygredd technoleg di wifr ar bobol ac anifaeliaid, fel mae’r darn ar dechnoleg di wifr a 5g yn ei ddisgrifio yn rhifyn mis Mehefin Y Cymro.

Mae’r cwmnïau cyflenwi yn cyfaddef yn agored y byddant yn rhannu’r wybodaeth a gesglir  gyda thrydydd partïon gan gynnwys y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu y bydd gan yr awdurdodau a cwmniau preifat wybodaeth am bryd yr ydych yn y cartref neu i ffwrdd, pa offer a ddefynddiwcgh a phryd ac am ba mor hir. Ac yn wahanol i’r peiriannau mesur trydan analog presennol, mae’r mesurwyr newydd yn dibynnu ar signal di wifr. Os nad oes signal ni fyddant yn gweithio.

Felly, beth yw’r cynllun a be allwch chi wneud?

Mae llawer o gyflenwyr nwy a thrydan wedi dechrau cynnig gosod ‘mesuryddion deallus’ i’w cwsmeriaid. Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi i’ch holi os ydych eisiau rhoi eu mesurydd yn eich cartref, a gallwch wrthod cael un yn llwyr neu dderbyn.

Oes rhaid i mi gael mesurydd deallus?

Nagoes, ddim o gwbwl, nid ydynt yn orfodol a mae pob hawl ganddoch i ddewis peidio â chael un. Yn ôl yr awdurdodau gall dewis peidio â chael mesurydd deallus olygu na fyddwch yn gallu manteisio ar yr holl dariffau sydd ar gael ar y farchnad, ac y gall rhai rhai ohonynt fod yn rhatach. Os nad ydych am gael mesurydd deallus nawr, byddwch yn gallu cael un wedi’i osod am ddim yn y dyfodol os ydych eisiau.

Beth yw manteision honedig mesurydd deallus?

Yn ôl gwefan Ofgem bydd mesuryddion deallus yn rhoi gwybodaeth ‘amser real’ i chi am eich defnydd o ynni. Drwy ddyfais arddangos yn y cartref, gallwch dracio eich costau, a deall ble y gallech leihau eich defnydd a allai arbed arian i chi. Honnir y bydd ‘mesuryddion deallus’ yn dod â biliau amcangyfrifedig i ben, sy’n golygu y byddwch ond yn derbyn biliau am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio, a’ch helpu i wneud penderfyniadau gwell ynglŷn â pha gyflenwr ynni sydd â’r cynnig gorau i chi.

Honnir fod mesuryddion deallus yn ganolog i’r newid ym Mhrydain i ‘system ynni lanach a mwy hyblyg’. Bydd mesuryddion deallus yn cofnodi eich defnydd o ynni bob 30 munud. Mae hyn yn golygu y gall cyflenwyr ynni gynnig tariffau i chi sy’n lleihau eich costau os ydych yn defnyddio pŵer pan mae’n rhatach iddynt ei brynu ar y farchnad gyfanwerthol a’i gyflenwi i chi, ar ddiwrnod heulog neu wyntog er enghraifft.

Faint y bydd yn ei gostio i osod mesurydd deallus?

Ni chodir ffi am fesurydd deallus nac am y ddyfais arddangos yn y cartref. Yn ystod cyfnod sefydlu’r broses mae nifer o gyflenwyr wedi gosod mesurwyr deallus cenhedlaeth gyntaf. Gall ddefnyddwyr y rhain fanteisio ar fuddiannau mesuryddion deallus yn gynnar. Os byddwch yn newid cyflenwr ac na all y cyflenwr newydd weithredu’r mesurydd deallus, bydd yn rhaid iddo ei weithredu fel mesurydd traddodiadol a chymryd darlleniadau â llaw. Rhaid i gyflenwyr ynni eich hysbysu am y risg yma.

Mae cyflenwyr  wedi dechrau gosod mesuryddion deallus ail genhedlaeth yn ystod hanner cyntaf 2018. Bydd pob cyflenwr yn gallu gweithredu mesuryddion ail genhedlaeth. Mae hyn oherwydd penodiad cwmni gan y Llywodraeth – y Cwmni Data a Chysylltiadau (DCC) – i sefydlu seilwaith  cenedlaethol newydd a fydd yn galluogi cyfathrebu rhwng mesuryddion deallus a phob cyflenwr ynni. Disgwylir i’r mesurwyr cenhedlaeth gyntaf gael eu cysylltu â’r seilwaith cenedlaethol newydd yn ystod hanner cyntaf 2019.

Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i bawb newid rhwng cyflenwyr heb golli nodweddion deallus. Gall cyflenwyr gael mynediad at eich data dyddiol oni bai y byddwch yn gwrthwynebu, ac mae’n rhaid iddynt gael eich caniatâd i gael mynediad at ddata bob hanner awr neu ddefnyddio eich data at ddibenion marchnata.

Os byddwch yn rhoi eich caniatâd, gall cyflenwyr a thrydydd partïon ddefnyddio eich data i gynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd i chi. Er enghraifft, yn ol Ofgem: “gallant roi mynediad i chi i ddata o’ch defnydd o ynni ar-lein neu drwy ap, rhoi cyngor i chi am y tariff gorau i chi, neu gynnig tariff deallus sy’n codi symiau gwahanol ar adegau gwahanol.”

Cael help a chyngor. Os oes angen cyngor neu ragor o 
gymorth arnoch:

• Ewch i wefan Stop Smart Meters http://stopsmartmeters.org.uk/ am fwy
o wybodaeth ac i ddysgu mwy am yr ymgyrch i stopio defnydd o’r
mesuryddion yma yn y cartref.
• Cysylltwch â’ch cyflewnwr nwy neu drydan.
• Cysylltwch â llinnell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr ar y linell
ffôn Gymraeg 03454 04 05 05, gwefan:  https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg   
• Ewch i wefan Ynni Clyfar GB i gael rhagor o wybodaeth am y broses o
gyflwyno mesuryddion deallus:  https://www.smartenergygb.org/cy
• Ewch i wefan Ofgem i weld amryw o’r cwestiynnau ac atebion yma
arlein:  https://www.ofgem.gov.uk/cy/mesuryddion-deallus-eich-hawliau

Prif lun gan gan Page De wolf trwy drwydded CC BY 2.0

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau