Blog

Gyfeillion, Ydy Brecsit yn Digwydd? Neu Beidio..

…neu be ‘dio? Brexit Brexit Brexit Dydi’r Cymro [hwn] ddim yn ystyried bod hi’n werth cysylltu efo’r Cabinet yn Llundain i gael diweddariad pellach heddiw gan fod pob un ohonynt yn cael llymaid o de (neu rywbeth cryfach) wrth ystyried eu camau nesaf…mewn i’w pydew Prydeinig. Felly, rydym yn aros yn amyneddgar am adroddiad FIDEO […]

Continue Reading

#PawenLawen Triawd y Brifysgol! @CAACymru

Bu i dri awdur yn lansiad llyfrau yn Llanbrynmair yr wythnos ddiwethaf raddio o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr un flwyddyn, yn ôl yn 2004. Wrth lansio Cyfres Halibalŵ yn swyddogol, meddai Fflur Aneira Davies, sef golygydd y gyfres a raddiodd o’r un adran yn yr un flwyddyn hefyd “Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r llyfrau gwreiddiol hyn i blant Cymru.Maen nhw wedi’u hysgrifennu gan awduron ifanc a phoblogaidd sy’n gweithio’n gyson gyda phlant yr oedran hwn, felly maen nhw’n adnabod eu cynulleidfa yn dda. Bydd y nofelau bywiog, […]

Continue Reading

Gall Mark Drakeford greu Cymru decach?

Mae Mark Drakeford wedi llwyddo i greu y ‘momentwm’ i arwain Llafur Cymru.  Dyma fe’n amlinellu ei weledigaeth arbennig i’r Cymro. Nid uchelgais bersonol sydd wedi fy ngyrru i gynnig fy hun fel ymgeisydd i arwain Llafur Cymru, ond yn hytrach gweledigaeth am sut allwn ni greu Cymru decach, ffyniannus. Pan ddes i Gaerdydd yn […]

Continue Reading

Ffermwr yn gorfod talu diryw £220 #datganolidarlledu @Cymdeithas

Ffermwr yn gorfod talu £220 am wrthod talu’r ffi drwydded Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i dalu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Y ffermwr 56 mlwydd oed o Fodorgan yn Ynys Môn, William Griffiths, yw’r ail unigolyn i gael […]

Continue Reading

HYSBYSEB : AELODAU CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Noddir yr hysbyseb hwn gan Lywodraeth Cymru. CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU AELODAU Tua 1.5 diwrnod y mis. Swyddi di-dal, ond telir costau Teithio a Chynhaliaeth Ydych chi’n meddwl bod y celfyddydau yn gallu newid bywydau? Ydych chi’n meddwl y dylai pawb fod yn medru eu mwynhau? Os felly, gallai fod gennych ran bwysig i’w chwarae o […]

Continue Reading

John Rea : #Atgyfodi #SainSainFfagan

Wyn Williams o Gyfeillion Y Cymro sy’n sgwrsio â’r cyfansoddwr John Rea. Wyn Williams: Beth ysbrydolodd Atgyfodi? John Rea: Fe wnaeth Atgyfodi dyfu o glywed lleisiau archif amgueddfa Sain Ffagan. Mae’n fraint mawr i gael defnyddio a chreu darn o waith a chael defnyddio’r lleisiau yma. Meddylfryd Iorwerth Peate [curadur cyntaf yr Amgueddfa Werin] oedd bod ein hanes ni, fel […]

Continue Reading

Pwy sy’n cofio #DwmplenMalwoden ? @Prifysgol_Aber !

Wedi ei chyfnod llewyrchus yn yr 80au cynnar ddod i ben, #YCymro sy’n gofyn: Pwy sy’n cofio #DwmplenMalwoden? Nid malwod Cymru, mae’n debyg… Ydych chi’n cael trafferth cofio beth wnaethoch chi neithiwr? Dychmygwch fyw fel malwoden, ble mae treulio amser gyda ffrindiau yn atgyfnerthu’r cof! Yn ôl ymchwil gan Dr Sarah Dalesman yn Prifysgol Aberystwyth, […]

Continue Reading