Cefais wahoddiad i ysgrifennu’r darn hwn gan fy mod yn mwynhau cyfrannu sylwadau barn ar wefan Golwg 360.
Beth sy’n rhyfedd yw fy mod wedi fy nghyhuddo o adlewyrchu bron i bob tuedd wleidyddol ar y sbectrwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Hyderaf mai cynnig barn rhywun sydd wedi bod rownd y bloc gwleidyddol ydw i, ac yn aml yn cynnig barn confensiynol o’r amser a fu, ond sydd bellach yn cael ei ystyried yn adweithiol neu annerbyniol.
Yn anffodus, wrth ymateb i stori ceir adwaith negyddol iawn gan rai sylwebwyr, yn amlach na pheidio yn ymosod ar yr awdur yn bersonol yn hytrach na mynd i’r afael â’r ddadl a roddwyd gerbron.
Y term am hyn yw ymosodiad ad hominem, sef dadl lle’r ydych yn ymosod ar berson yn bersonol gan gyfeirio at nodweddion megis cefndir, oedran, dosbarth cymdeithasol, ac yn fwyfwy, tueddiadau gwleidyddol .
Yn aml, nid yw’r ymateb yn mynd i’r afael â’r pwynt gwreiddiol o gwbl, ond yn hytrach, yn herio hawl rhy-wun i fynegi barn nad sy’n cael ei ystyried yn rhan o’r prif lif.
Yn anffodus, wrth ymateb i stori ceir adwaith negyddol iawn gan rai sylwebwyr, yn amlach na pheidio yn ymosod ar yr awdur yn bersonol yn hytrach na mynd i’r afael â’r ddadl a roddwyd gerbron. Y term am hyn yw ymosodiad ad hominem…
Mae’r disgrifiad diweddar ‘gamon’ wedi ennill pob- logrwydd ymhlith y sylwebwyr negyddol yma. Beth yw ystyr gamon? Ar un llaw, dyn (bron bob amser beth bynnag) o oedran arbennig (dros 50 o bosib) sydd ag agweddau asgell dde ac sy’n perthyn i’r dosbarth canol.
Neu, ydy ‘gamon’, yn cyfeirio at yr anifail, sef mochyn, a bod agweddau’r bobl yma yn fochaidd ac yn trigo mewn baw. Fy ymateb i i’r fath sylw yw parhau i ddadlau am y pwnc dan sylw, heb herio tras na thebygrwydd y sylwebydd i ddarnau anatomig.
Yr hyn sydd yn cythruddo sylwebydd gwrthwynebol yw nad ydych yn colli’ch tymer, ac yn aml mae trafodaeth reit gall yn medru datblygu, gyda rhyw fath o gytundeb ar y diwedd. Gwelais hyn yn agwedd yr uwch Dori, Jacob Rees Mogg, at brotestiwr wrth iddo ddadlau ag ef mewn modd hafal a chymedrol.
Rhaid gofyn beth sydd wedi arwain at hyn. Gellir beio’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Trydar lle mae gosod eich dadl mewn modd bachog gyda chyfyngderau llym yn anodd.
Haws o lawer yw herio’r sylw trwy dynnu anfri ar nifer dilynwyr rhywun neu ddefnyddio iaith anweddus. Ond, credaf fod y broblem yn un llawer dyfnach na hyn ac o bosib wedi ei wreiddio yn ein system addysg.
Mae disodli atebion anodd pedwar traethawd mewn dwy awr a threulio amser hir yn paratoi a llyncu gwyb- odaeth a chefndir wedi lleihau gallu pobol i ymresymu yn deg. Mae bodolaeth ‘Gwgl’, yn golygu bod modd lladd ar ddadl mewn eiliadau, heb ystyried am un funud bod cofnod ‘wici’ wedi ei newid ar hyd y ffordd.
Felly, pan ddechreuais ddarllen Golwg 360 yn gyson, gwelais bod gwir angen sylwadau oedd yn adlewyrchu agweddau mor eang â phosib a phrofiadol. Mae angen sgwrsio am destunau fel Brecsit, yr amgylchedd, annib-yniaeth i Gymru a nifer o faterion eraill mewn modd sy’n adlewyrchu eu cymhlethdod.
Nid yw’n drosedd i feddwl bod barn democrataidd pobol Cymru neu ffeithioldeb eich dadl yn iawn neu’n deg, hyd yn oed os yw’n groes graen i’r mwyafrif o sylwebwyr. Beth sy’n bwysig i mi yw hyrwyddo deialog nid llabuddio.
Fe’ch gadawaf gydag un peth i feddwl amdano, fel cyn-fyfyriwr yn grŵp seminar yr Athro Gwyn Alf Williams, y Marcsydd huawdl o Ddowlais. Mi oedd ei ystafell yn llawn mwg tybaco ‘Disque Bleu’, tra byddai’n trafod rhyddid y dosbarth gweithiol yn huawdl – rhywbeth oedd braidd yn anarferol hyd yn oed bryd hynny, ond fyddai’n hollol annerbyniol heddiw, ac mi fyddai ‘Gwyn Alf’ wedi ei ddiswyddo neu ei fanio gan Undeb y Myfyrwyr yn ein dyddiau cyfoes. Mi fyddai Gwyn Alf, Antonio Gramsci, Karl Popper ac ac Orwell, yn ddiamau, yn adnabod y newid i’r normalrwydd ‘rydyn ni’n byw ynddo heddiw.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.