#taithyriaith am 1 ysgol Gymraeg yn pasio “heibio 9 ysgol Saesneg”

Newyddion

YMGYRCHU I GEISIO SICRHAU ADDYSG GYMRAEG YNG NGHYMUNEDAU PONTYPRIDD

Bydd ymgyrchwyr sy’n galw am addysg Gymraeg yng nghymunedau ochrau Pontypridd yn gorymdeithio o Ynysybwl i Rydfelen ar Ddydd Sadwrn 13eg Ebrill.

Mae rhieni a chefnogwyr sy’n gwrthwynebu penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn er mwyn adeiladu ysgol newydd ar safle presennol Heol-y-Celyn yn grediniol y bydd y cynlluniau yn cael effaith andwyol ar ddyfodol yr iaith Gymraeg o fewn cymunedau Rhondda Cynon Taf.

Bydd protest Taith yr Iaith yn tynnu sylw at y pellter y mae disgwyl i ddisgyblion mor ifanc â 3 oed ei deithio ar fws er mwyn cyrraedd yr ysgol newydd yn Heol-y-Celyn – taith o hyd at chwe milltir o ardaloedd Ynys-y-bwl, Glyn-coch a Choedycwm sy’n gallu cymryd dros hanner awr yn ystod traffig arferol.

Bydd y brotest hefyd yn teithio heibio i naw ysgol Saesneg ar y ffordd, ysgolion sydd o fewn cerddediad i’w cymunedau, er mwyn dangos nad oes yr un cydraddoldeb yn cael ei roi i addysg Gymraeg gan y Sir.

Ers degawdau mae rhieni sy’n dymuno addysg Gymraeg i’w plant wedi gorfod bodloni ar deithio i’w derbyn. Ond mae diffyg cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o’r cymunedau rheiny i Heol-y-Celyn yn mynd i’w gwneud yn anodd iawn i rieni allu dewis clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol os dymunent a hefyd i allu cyrraedd eu plant mewn argyfwng neu os ydynt yn sâl. Mae rhieni o ardal Cilfynydd hefyd yn wynebu rhwystrau ymarferol gyda rhai yn dweud eu bod yn poeni cymaint am y sefyllfa na allent ddewis addysg Gymraeg am resymau ymarferol yn unig.

 

Cerddwch Ymlaen!

 

Tra’n croesawu’r angen i fuddsoddi mewn adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton, mae’r ymgyrchwyr yn teimlo fod gwendidau a gwallau mawr o fewn y cynlluniau presennol, ac nad oes unrhyw dystiolaeth fod gwaith digonol a thrylwyr wedi ei wneud i archwilio i safleoedd eraill. Un o’r safleoedd a gynigwyd gan yr ymgyrchwyr yn ystod y broses ymgynghori ac wrth annerch y Cabinet oedd hen safle Ysgol Tŷ Gwyn yng Nglyncoch wedi i gais Rhyddid Gwybodaeth ddangos nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer y safle hwnnw.

Barn Y Cymro hwn hefyd yw nad oes unrhyw fesur wedi bod ychwaith ar effaith y cynlluniau ar dwf yr iaith Gymraeg o fewn cymunedau i’r gogledd o dref Pontypridd.

Meddai Katie Hadley, rhiant ac un o drefnwyr y daith:

“Fel rhieni rydym yn teimlo fod ein hymatebion i’r broses ymgynghori wedi eu hanwybyddu ac na roddwyd gwrandawiad teg i’n hanerchiadau yn ystod y cyfarfodydd Cabinet a Chyfarfod y Pwyllgor Scriwtineiddio. Mae’r Cyngor yn dangos amarch llwyr i’r effaith a gaiff y pellter y mae gofyn ei deithio er mwyn cyrraedd yr ysgol newydd ar les y plant ac ar allu y rheini i ymuno a bod yn rhan o gymuned yr ysgol newydd. Dylai Addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb – nid felly i’n plant ni os aiff y cynlluniau yma rhagddo.”

Ychwanegodd Heledd Fychan, Cynghorydd Plaid Cymru dros Dref Pontypridd:

“Mae yna ragdybiaeth y bydd rhieni sydd yn anfon eu plant i YGG Pont Siôn Norton ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny. Ond rydym yn gwybod nad yw hynny yn wir o’r dystiolaeth sydd wedi ei roi gerbron gan rieni. Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys yr amseroedd teithio a’r diffyg darpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol, sy’n golygu fod yn rhaid i rieni ddal dau fws er mwyn cyrraedd eu plant. Fe godwyd pryderon am amseroedd teithio hefyd gan Estyn yn eu hadroddiad a’r pryder o’r effaith y gallai hyn ei gael ar les y plentyn. Os y gweithredir y cynlluniau yma fe fyddent yn gosod rhwystrau sylweddol ar y rhai sy’n dymuno addysg Gymraeg i’w plant. Mae angen ail-edrych yn fanwl ar y cynlluniau arfaethedig fel y gall yr iaith barhau i ffynnu ym Mhontypridd.”

Mae mudiadau sy’n rhannu pryderon yr ymgyrchwyr lleol yn galw ar y cyngor i ail-feddwl ac ystyried amrywiaeth o opsiynau eraill er mwyn dangos eu bod wedi gwrando ar bryderon rhieni ac er mwyn cadw darpariaeth addysg Gymraeg yn lleol yng nghymunedau Gogledd Pontypridd.

Meddai Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG (Rhieni Dros Addysg Gymraeg):

“Ni fydd amddifadu cymunedau o addysg Gymraeg hygyrch a lleol yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Ac ni fydd cynyddu’r rhwystrau i gael mynediad at addysg Gymraeg yn cynorthwyo’r Sir i greu 6,054 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol erbyn 2021, fel sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Strategol y Gymraeg RhCT 2017-20. Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid mynd â chymunedau RhCT – a gweddill Cymru – gyda ni ar hyd y daith, ac nid eu dieithrio oddi wrth y Gymraeg.”

Bydd yr orymdaith brotest Taith yr Iaith yn dechrau am 10yb o Sgwâr Robertstown yn Ynys-y-bwl ac yn teithio drwy gymunedau Glyncoch, Coed y Cwm, Cilfynydd, Trallwng a thref Pontypridd i gyrraedd pen y daith yn Heol y Celyn yn Rhydyfelin.

Bydd croeso i bawb ymuno â’r daith neu yn y mannau yma ar Ddydd Sadwrn yma, Dydd Sadwrn 13eg Ebrill:

·        10yb: Sgwâr Robertstown Ynysybwl : Côr Cymunedol Pontypridd 

·        11.30yb – Safle yr hen Ysgol Tŷ Gwyn, Cefn Lane, Glyncoch

·        1.30-2.00yp – Canol tref Pontypridd ar gyfer yr anerchiadau

·        3.30yp – ger safle arfaethedig yr ysgol newydd yn Heol-y-Celyn

Am wybodaeth bellach a chyfrefol, dilynwch yr hashnod #F4LWE

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau