Mae Ceri McEvoy o Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi ymateb yn gadarn i benderfyniad Cabinet Cyngor RhCT i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn.
Mi fydd hyn yn golygu gorfod adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.
Meddai Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG,
“Mae penderfyniad heddiw yn hynod siomedig. Mae RhAG yn rhannu pryderon rhieni ac ymgyrchwyr lleol sy’n gofidio y bydd bwrw ymlaen â’r cynnig hwn yn cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd.”
Sawl ysgol Saesneg bydd rhaid i deuluoedd lleol yrru heibio er mwyn cyrraedd ysgol Gymraeg ei hiaith?
Mae RhAG yn dadlau na fydd y cynnig yn ymateb i anghenion addysgol ac ieithyddol yr ardal, ac yn amddifadu cymunedau o addysg Gymraeg leol.
“Rydym o’r farn bod y cynnig yn wallus ac nad yw’n dangos bod gwaith digonol ac ystyrlon wedi ei wneud i ymchwilio i safleoedd posibl eraill – megis safle hen Ysgol Tŷ Gwyn, fel sydd wedi’i gadarnhau drwy gais Rhyddid Gwybodaeth – ac yn wyneb diffyg gwaith i fesur yn llawn, effaith ieithyddol y cynnig ar gymunedau gogledd y dref.
“Tra’n derbyn yn llwyr bod angen buddsoddi mewn adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton – ac yn wir, wrth groesawu’r buddsoddiad gwerthfawr hwnnw – mae siroedd eraill wedi arddangos bod cymryd y penderfyniad anghywir yn medru arwain at ganlyniadau anuniongyrchol, all gael effaith andwyol ar sefydlogrwydd a thwf y ddarpariaeth.”
Penderfyniad Cabinet RhCT ? = Cam yn ôl i’r Gymraeg
Meddai’r Cymro hwn: heddiw mae Cabinet Rhondda Cynon Taf wedi colli cyfle i ymateb i bryderon rhieni am ddiffyg addysg Gymraeg mewn adeiladau o’r safon uchaf a chadw’r ddarpariaeth yn lleol i gymunedau Cymraeg Pontypridd.

Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid mynd â chymunedau RhCT – a gweddill Cymru – gyda ni ar hyd y daith, ac nid eu dieithrio oddi wrth y Gymraeg.
Dyma’r gair olaf gan Ceri: “Ni fydd yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Ac ni fydd cynyddu’r rhwystrau i gael mynediad at addysg Gymraeg yn cynorthwyo’r sir i greu 6,054 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol erbyn 2021, fel sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Strategol y Gymraeg RhCT 2017-20.”
Beth yw eich barn chi? Ymatebwch isod neu ar yr hashnod #CyfeillionYCymro ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Roedd yn amlwg bod y pendefyniad yna wedi cael ei wneud cyn i unrhyw gynlluniau gael ei cynnig na’i drafod. Dydyn nhw ddim wedi cymryd barn rhieni mewn i ystyriaeth o gwbwl. Cam yn ôl yn bendant i’r iaith Gymraeg yn ein hardal. Y cyngor ddim yn fodlon ystyried unrhyw gynlluniau eraill a ddim yn fodlon trafod y trefniadau na’r cwestiynau gyda’r rhieni sy’n poeni am dyfodol ei plant. 😡
Wastard
Vic