“Mae’n drist onid yw bod Seamus Heaney a fyddai wedi bod yn 80 mlwydd oed ddoe yn cael ei gofio a’i glodfori yn Nulyn ar y bysus yn y ddinas – ond amdanom ni, yng Nghymru, prin yw’r gydnabyddiaeth a roddwn i rywun fel Emyr Humphreys a gyfrannodd gymaint i’n llenyddiaeth, a hynny yn rhyfeddol yn y ddwy iaith.”
Heddiw mae Menna Elfyn wedi datgelu i’r Cymro bod hi’n anodd meddwl am awdur arall yng Nghymru sydd wedi gwneud mwy o gyfraniad dros y ddwy iaith nag Emyr Humphreys, ac felly mae’n gymaint o syndod iddi fod, “Seamus Heaney a fyddai wedi bod yn 80 mlwydd oed ddoe yn cael ei gofio a’i glodfori yn Nulyn ar y bysus yn y ddinas,” tra bod Emyr Humphreys a gyfrannodd gymaint i’n llenyddiaeth yn cael cydnabyddiaeth “prin”.
Ganed Emyr Humphreys ym Mhrestatyn yng Ngogledd Cymru yn 1919 ac ymgartrefodd yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle mae’n parhau i fyw. Cydnabyddir fel un o nofelwyr pwysicaf Cymru ac Ewrop. Wedi iddo fwrw sawl cyfnod tramor yn gweithio ym maes cymorthdyngarol, cafodd gyfnod yn gynhyrchydd theatr, ac yn ddarlithydd, cyn rhoi’i fryd ar ysgrifennu yn llawn amser. Mae’n awdur dros ugain o nofelau, ac fe’i anrhydeddwyd â sawl gwobr – gan gynnwys gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru nifer o weithiau.
Cyhoeddodd yn gyson yn y ddwy iaith ac ymddangosodd ei gyfrol o farddoniaeth newydd yn 2018, Shards of Light gan Wasg Prifysgol Cymru. Ymddangosodd llyfr o feirniadaeth lenyddol yn dwyn y teitl Emyr Humphreys hefyd yn 2018, gan yr Athro M. Wynn Thomas. Dywedodd The Observer amdano y buasai’r fath o ysgrifennwr a fyddai’n ennill y Wobr Nobel pe bai gan Gymru lobïwyr yn Stockholm! Yn 2016, detholwyd A Toy Epic (1958) fel y clasur gorau Saesneg o lenyddiaeth am Gymru gan y beirniad Gary Raymond.
Mae PEN Cymru am ddathlu pen-blwydd Emyr Humphreys yn gant oed trwy ei gydnabod gyda gwobr arbennig yn ei enw. Gwobr fydd hon a gaiff ei rhoi i’r enillwyr mewn cystadleuaeth Gymraeg a Saesneg, a hynny i’r darn llenyddol neu newyddiadurol mwyaf beiddgar ac arloesol am Gymru a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2019, boed yn erthygl, ysgrif, blog neu lenddull arall. Aelodau o PEN Cymru fydd yn enwebu y goreuon ddiwedd y flwyddyn ym mis Tachwedd cyn i dri beirniad, yn y ddwy iaith, ddewis y darnau buddugol o’r rhestr hir . Gobeithir cynnal y seremoni mewn yn Oriel Môn fel ffordd o ddathlu gwaith newydd yn ogystal â chydnabod cyfraniad aruthrol Humphreys i lenyddiaeth, i Gymru ac Ynys Môn.
Nod y ddwy wobr yw ceisio hyrwyddo ysgrifennu beiddgar ac arloesol am Gymru fel y gwnaeth Emyr Humphreys ar hyd ei yrfa ac mae hyn yn gydnaws a holl ethos PEN a sefydlwyd i gefnogi a hyrwyddo rhyddid mynegiant awduron o bob math, ac sydd a 150 o ganolfannau bellach ar draws y byd – a’r prif ganolfan PEN International yn gweithredu ein penderfyniadau mewn cyngres flynyddol. Fel Emyr Humphreys ei hun, mae PEN wedi gweithio’n ddygn dros ryddid mynegiant yn ogystal â hyrwyddo llenyddiaeth ymhob gwlad,
Sefydlwyd PEN Cymru yn 2014 ac ers hynny, maent wedi cefnogi a hyrwyddo hawliau ysgrifenwyr yn geiswyr lloches yng Nghymru ac yn ffoaduriaid mewn dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Bwriad y wobr hon bydd atgoffa Cymry bod ein diwylliant a llenyddiaeth ac ysgrifenwyr yma yng Nghymru hefyd yn dioddef oherwydd yr hinsawdd sy ohoni.
“Emyr Humphreys , prif nofelydd y Gymru fodern yw’r olaf o’r genhedlaeth arwrol honno o awduron degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif a gysegrodd eu dawn i wasanaethu’r genedl Gymreig.”
— Yr Athro M. Wynn Thomas
Mae PEN Cymru yn croesawu ymholiadau am – a chefnogaeth ar gyfer – y gwobrau newydd yma.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.