gan Barrie Jones
Mae rhywbeth a fu’n mudferwi ers tro wedi deffro. Rhywbeth nad oedd gynt hyd yn oed ar ffiniau niwlog dychymyg y cenedlaetholwyr mwyaf rhemp. Neges eglur gan arweinydd Plaid Cymru, mudiadau rhyddid yn ffynnu, diflastod y Brecsit diddiwedd …o, a Charlotte Church hefyd!
Wrth i’r gyfundrefn wleidyddol ei thynnu ei hun yn rhubanau blêr mae’r syniad o annibyniaeth i Gymru yn fwy real ac yn sydyn yn cael ei drafod fel rhywbeth synhwyrol, ymarferol – ymhell tu hwnt i fyd y freuddwyd.
A digon posibl bod y gwleidyddion oedd mor frwd dros ailenwi’r Bont Hafren, ac am godi’r cylch haearn hwnnw, wedi bod o gymorth yn hynny o beth. Mae’r sylweddoliad mai gwlad yw Cymru yn cydio.
Gwawr newydd a gwahanol i hen uchelgais
Ydi, mae’r sylweddoliad mai gwlad yw Cymru YN cydio, a mwy yn sylweddoli iddynt fodloni’n rhy hir â gweld eu hunain drwy lygaid y cyfryn gau hynny sydd â’u perchnogion ymhell tu draw i’r ffin.
Mae’r newid hyn hefyd wedi’i adlewyrchu’n glir yn yr ystadegau hynny a ryddhawyd rai dyddiau yn ôl sy’n dangos yr hollt amlwg yn y teyrngarwch traddodiadol i’r pleidiau mawr gyda’r colli hyder y daw popeth yn iawn yn y pendraw – wedi i Teresa druan gael ei ffordd ei hun!
Ai buddiannau amheus y DU ac aelodaeth sigledig o dîm y dôn gron- wrth i gymylau Brexit gasglu – sydd yn gyfrifol am y newid hwn? Neu hwyrach y sylweddoliad nad oes hyd yn oed cydnabod ein bodolaeth wrth i’r newidadau mawrion nesáu, heb sôn am ein hystyried fel llais i’w barchu yn ffwrn y dadlau diderfyn.
Dywedodd gohebydd Y Cymro, Gruffydd Meredith, yn ddiweddar mai gadael yr EU a’r DU ddylai nod ein gwlad fod – a dim llai!
Llamodd y ddadl dros annibyniaeth o ddrain ac ysgall yr ymylon i ganol gwleidyddiaeth yr Alban mewn amser byr iawn. Fe wthiodd y mudiad dros ddatganoli yno am fwy a mwy o hawliau (mewn ffordd na ddigwyddodd yng Nghymru) hyd nes i 1,617,989 o Albanwyr bleidleisio i’w gwlad fod yn hollol annibynnol o weddill y Deyrnas Unedig yn 2014.
Cael a chael fu hi, ond ni chafwyd annibyniaeth. Ond ers hynny gellid dadlau bod yr Alban, drwy bleidleisio’n hollol glir yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, wedi ymbellhau o afael tennyn bregus Llundain.
Ai yr Alban deffrodd y Cymry? Trefnwyd ralïau i’w cefnogi a sefydlwyd YesCymru, sydd wedi tyfu ar raddfa eang ers hynny. Gyda changhennau ar draws y wlad a thu hwnt mae teimlad o berchnogaeth lleol iddo yn ogystal â chenedlaethol. Mae’n agored, yn cydnabod fod gan bawb eu syniadau gwahanol am Gymru annibynnol a bod trafodaeth i’w chael am hyn oll.
Sefydlwyd Undod yn ddiweddar, mudiad sy’n disgrifio’i hun fel un gwrth-hierarchaidd, gweriniaethol sydd am sicrhau annibyniaeth i Gymru. Wrth galon egwyddorion Undod mae creu dyfodol gwell i bawb, ac maent yn glir eu gweledigaeth.
Gwelwyd creu grŵp Labour4IndyWales hefyd, sydd ag egwyddorion pendant ar gyfer annibyniaeth, ac yn ddatblygiad nodedig. Dydy annibyniaeth ddim ar radar y Blaid Lafur genedlaethol na Chymreig, ond yn amlwg mae rhai o’u plith yn credu’n gryf yn y posibilrwydd.
Mae annibyniaeth hefyd wedi mentro mwyfwy i fyd gwleidyddol y ‘g fach’. Ers sawl blwyddyn, dan faner YesCymru, mae criw yn Abertawe yn trefnu nosweithiau comedi rheolaidd – Stand Up for Wales. Nid annibyniaeth yw’r unig bwnc ond y bwriad yw annog trafodaeth.
Ers hynny mae awduron, cynhyrch-wyr a phobl greadigol o bob math wedi dod at ei gilydd dan yr enw AWokEN i bwysleisio rôl artistiaid a diwylliant wrth greu’r syniad ymarferol o sut beth all annibyniaeth fod a’r modd y mae’r celfyddydau yn rhoi cyfle i wlad ddangos sut mae’n gweld a theimlo am ei hunan.
Ym myd chwaraeon mae Welsh Football Fans for Independence yn amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol ac i’w gweld yn rhannu gwybodaeth am ac yn trafod annibyniaeth gyda chefnogwyr eraill cyn gemau rhyngwladol.
Ac yna daeth Charlotte Church yn ei bŵts hir i ganu’r anthem yn gig ‘Yes is more/Gellir Gwell’ yn y Tramshed yng Nghaerdydd (gweler tudalen 21) sydd wedi rhoi tro arall i’r olwyn ac atgyfnerthu’r drafodaeth am annibyniaeth fwyfwy!
Y mis hwn yn ein papur mae cyfle i glywed sawl barn. Dywed Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar dudalen 9: “Falle y dyle ni adael yr Undeb Prydeinig ac nid yr Undeb Ewropeaidd.”
Dywed mudiad AUOB Cymru ar dudalen 6: ‘Heb annibyniaeth, beth fyddai’r dyfodol i Gymru?’ Ac mae sylw ar dudalennau 3 i’r ddelwedd niweidiol o Gymru sydd i’w gweld ar y sgrîn a sylw ar dudalen 26 i’r hyn allai’n cyfryngau fod.
Oes, mae rhywbeth ar y gweill!
(Mae papur misol Y Cymro ar gael yn eich siop leol-rhifyn Mawrth allan rwan)
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.