Bu rhaglen deledu Countryfile yng Nghricieth yn ddiweddar i ymweld â’r artist Ffion Gwyn. Eu bwriad oedd dogfennu casgliad o ddyluniadau botanegol a’u gelwir yn “Cyfres Cymru”; casgliad o waith celf sy’n dangos rhywogaethau adnabyddus o fyd natur yng Nghymru. Bu’r criw yn ffilmio ar y traeth ger Castell Cricieth, ac yna yn stiwdio’r Ffion er mwyn canfod hanes tarddiad y casgliad.
Meddai Ffion, sydd o Daliesin yn wreiddiol:
“Daeth y criw ben bore ar ddiwrnod llonydd a thawel, a buan wnaethant sylweddoli’r cyfoeth o brydferthwch oedd i’w gynnig wrth ffilmio ar draeth Cricieth, yr awyrgylch a’r golygfeydd godidog o Fae Tremadog – y lanfa a’r castell yn gefndir delfrydol. Roedd y bore’n flanced ar y lli, a gwylanod yn hedfan o glogwyni mwnt y castell. Treuliwyd y bore felly yn mwynhau’r awyrgylch ac yn sgwrsio’n anffurfiol am hanesion yr ardal, a seiliau ysbrydoliaeth y casgliad o gelf.
“Y bwriad oedd casglu gwybodaeth am wymonau adnabyddus ar ein traethau, i fedru cwblhau’r nawfed dyluniad yn y gyfres Gwymonau Cymru. Roedd y gyflwynwraig Margherita Taylor yn awyddus i ddysgu’r termau Cymraeg am y samplau a welwyd ar lan y môr, ac yn gwerthfawrogi’n ddiffuant ein sefyllfa freintiedig o fedru deall a defnyddio’r ddwy iaith o ddydd i ddydd”
Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth i’r casgliad o’r mwynhad our o gerdded llwybrau Eryri a darganfod y pethau bychain hynny, sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu. Yn ogystal, roedd y dyhead i ganfod enwau dwyieithog y perlau hyn o natur yn ysgogi datblygiad y casgliadau ac yn ysbrydoliaeth ar y daith o ddarganfod;
Adar yr Ardd, Gweision Neidr, Chwilod, Cregyn, Gwenyn, Ffrwythau a Chnau’r Hydref, Ffwng a Madarch, Gwymonau a Blodau Gwyllt sydd yn y gyfres hyd yn hyn, gyda’r bwriad o adeiladu casgliad eang cyn bo hir.
“Cawsant gyfle i gael sgwrs hefo Twm Elias, arbenigwr ar enwau dwyieithog rhywogaethau, oedd yn sôn am waith pwysig Cymdeithas Edward Llwyd, yn casglu a dogfennu’r enwau swyddogol am rywogaethau byd natur.
“Difyr oedd clywed hanesion Llen Werin tu ôl ambell rywogaeth, a’r gwahaniaethau mawr rhwng y defnydd o dermau o ardal i ardal ar lafar gwlad.”
Mae printiau A3 ar gerdyn o’r gyfres wreiddiol ar gael ar wefan ffiongwyn.co.uk
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.