Gallai Banc Cymunedol newydd gael ei sefydlu yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae grŵp o sefydliadau a gweithredwyr, sy’n cynnwys Cydweithfa Cartrefi Cymru a Banc Cymunedol Robert Owen, wedi bod yn ymgyrchu i gael banc cyhoeddus i Gymru
Mae syniadau a gwaith y grŵp bellach yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, ymrwymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford i sefydlu Banc Cymunedol i Gymru yn ei faniffesto newydd. Wrth ymateb i’r angen am wasanaethau bancio gwell, gwnaeth addewid i sefydlu banc a fyddai’n ‘cynnig cyfrifon cyfredol i holl drigolion Cymru, waeth be fo’u hincwm neu eu cyfoeth.’
Y bwriad yw y bydd y banc newydd yn wahanol ac yn cael ei redeg gan ac ar gyfer yr aelodau. Bydd yn gyflogwr cyflog byw, yn annibynnol, wedi’i leoli yng Nghymru, a heb ddiwylliant ‘bonws’ yn perthyn iddo – rhywbeth sy’n hollbresennol yn y byd bancio ar hyn o bryd. Bydd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac undebau credyd i gyrraedd pob rhan o’r wlad er mwyn ychwanegu at yr hyn sydd ar gael yn barod, nid i ddyblygu neu gystadlu gyda sefydliadau â’r un meddylfryd.
Erbyn hyn mae nifer o gymunedau heb fanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy’n golygu bod nifer o bobl a busnesau ar draws Cymru heb wasanaethau ariannol hanfodol. Yn aml rhaid i fusnesau gau yn gynnar er mwyn mynd ag arian i’r banc, gan fod y banc agosaf rwan llawer pellach i ffwrdd nag y bu. Ac o dan y system bresennol ymddengys fod pobl dlotach yn dal i dalu mwy am wasanaethau bancio.
Er gwaetha’r cynnydd yn nefnydd bancio ar-lein, mae pobl yn parhau i eisiau gwasanaethau wyneb yn wyneb hefyd. Bu galw cynyddol am ateb cydweithredol â phobl yn ganolog iddo. Bwriad y grŵp yw y bydd banc cydweithredol – wedi’i sefydlu ar sail ‘un aelod, un bleidlais’ – yn helpu i ddatrys y broblem.
Y nod yw rhoi’r Banc Cymunedol newydd ar waith cyn diwedd tymor y Cynulliad sef mis Mai 2021. Dywed y grŵp ei bod yn hanfodol i gwsmeriaid ac aelodau fod yn rhan o’r dasg o gynllunio’r banc newydd – eu banc hwy – yn gynnar yn y broses, gan ychwanegu fod llawer o waith i’w wneud cyn 2021 er mwyn deall y farchnad a pha wasanaethau i’w cynnig, a chyn gallu gwneud cais am drwydded fancio. Ychwanega’r grŵp bod y gwaith hwnnw ar y gweill.
Nid yw Cymru ar ei phen ei hun ar y daith hon. Cafodd y CSBA ei sefydlu i ailadeiladu rhwydwaith o fanciau lleol, annibynnol yn y DU ac mae’n gweithio gyda phobl a sefydliadau fel y South West Mutual ar draws y DU i ledaenu’r syniad hwn.I gael y diweddaraf am ddatblygiadau yng Nghymru dilynwch @banccambria ar Twitter.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.