Fy enw i yw Esyllt Sears. Wi’n 37 mlwydd oed. Mae ‘da fi ddau o blant, ci, dwy iâr, morgais a chyfrifydd. Ond ddydd Iau diwethaf, roedd raid i fi wisgo bikini bottoms i’r gwaith achos do’n i methu ffeindio pans glân, eto fyth.
Pa oedran sydd rhaid i chi gyrraedd cyn teimlo fel oedolyn cyfrifol? Ma sawl carreg filltir wedi mynd a dod yn ’y mywyd i y dylie fod wedi gwneud y job, fel:
- Prynu matres
- Mynd â’r ci i gael ei ‘sbaddu
- Priodi
- Glanhau skirting boards
- Cael plant
- Cystadlu gyda drws nesaf am bwy sy’n torri’r lawnt amlaf
- Lladd ceiliog
Ond na. Yn ystod y cyfnodau hyn, ro’n i jest yn teimlo fel plentyn ysgol yn esgus bod yn oedolyn. Fel fersiwn mwy gwaedlyd o’r Truman Show. A gweud y gwir, ma ’na sawl peth amdana i sy’n neud i fi deimlo’n hollol ddiffygiol:
- Wi methu coginio wyau wedi eu potsio
- ‘Sdim diddordeb ‘da fi yn y PTA na’r llywodraethwyr
- ‘Sdim pensiwn da fi
- Wi ddim 100% yn siŵr shwt ma rhoi screenwash yn y car
- Wna i fwyta jar cyfan o Nutella yn lle cael pryd call i ginio
- Pan wi’n cael amser i’n hunan, wi’n ei wastraffu yn gwylio operâu sebon
Ond oes unrhyw un ohonon ni byth yn cyrraedd pwynt ble ry’n ni’n teimlo’n hollol gyfrifol?
Ar un adeg, fy mam-gu oedd y person hynaf yn ein teulu ni. Roedd hi’n trefnu i gwrdd â dynion dieithr i gyfnewid ffrwythau ro’n nhw wedi’u casglu yn lled-anghyfreithlon, ac yn llenwi poteli dŵr â gin ar dripiau i Lundain gan fod prisiau’r bar rhy ddrud.
Fel arfer, ar y pwynt yma yn y golofn, bydde ‘da fi grynodeb neu rywfaint o gyngor i chi, ond ni ‘di sefydlu’n barod nad ydw i’n ddigon aeddfed i wneud hynna felly wi off i weld os oes da’r gŵr bans heb dyllau alla’ i fenthyg heddi.
Fe fydd Esyllt yn perfformio Nos Sul 24ain Mawrth yn Crwst, Aberteifi yn noson i godi arian ar gyfer Pwll Nofio Aberteifi.
Tocynnau yn £6, ac ar gael i’w prynu o Crwst.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.