Y Cymro ar Restr Fer Gwobrau BAFTA 2019

Diwylliant / Hamdden
Mae rhaglen ddogfen gan gynhyrchwr o Gaernarfon wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau BAFTA  teledu Prydeinig.

 

Ballymurphy Massacre yw enw’r ffilm sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Materion Cyfoes.  Mae’n archwilio hanes un o erchyllterau mwyaf difrifol y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.

Clywir, am y tro cyntaf erioed, dystiolaeth teuluoedd, llygad-dystion, patholegwyr a milwyr am yr hyn ddigwyddodd dros dridiau ym mis Awst 1971, pan laddwyd 11 o bobl gyffredin cymuned Ballymurphy gan Fyddin Prydain. Roedd y rhai a laddwyd rhwng 19 a 50 oed, yn eu mysg roedd tadau ifanc, offeiriad, mam a nain; dim un ohonynt yn arfog.

Dywedodd Sylfaenydd Awen Media, a chynhyrchydd Ballymurphy Massacre, Gwion Owain:

“Pan wnes i gyfarfod y cyfarwyddwr, Callum Macrae a thrafod yr ymchwil oedd o wedi ei wneud, mi oeddwn i’n gwybod yn syth bod yna lawer mwy o wirioneddau i ddod allan, a bod hon yn stori oedd wedi ei chuddio am lawer rhy hir, a’i bod hi’n stori oedd angen ei dweud.

“Rydw i’n hynod o falch o rôl Awen yn sicrhau bod y stori yma’n cael ei dweud; ac o’r cyfle i gydweithio gyda’r cyfarwyddwr, y criw ac yn bennaf gyda chymuned ddewr Ballymurphy.”

Fe gymerodd hi dros 46 mlynedd; ond yn gynharach eleni – o’r diwedd – caniatawyd cwest i’r hyn ddigwyddodd yn Ballymurphy. Mae’r cwest yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Lluniau trwy garedigrwydd Awen Media

Mae Ballymurphy Massacre ar gael i wylio ar wasanaeth ffrydio Chanel 4, All 4.  Cafodd ei dangos yn Senedd Ewrop a Seaned Eireann, a bwriedir ei dangos yn Senedd Cymru yn fuan iawn.

Mae BAFTA  yn gwobrwyo sêr a rhaglenni gorau’r sgrin fach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Llundain ar 12fed Mai.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau