Mae yna eliffant enfawr yn y ’stafell! Mae ‘Undeb Rygbi Cymru’ wedi bod mewn dyfroedd dyfnion yn y misoedd diwethaf – ac yn llawn haeddu bod hefyd. Ond yng nghanol yr holl drafodaeth mae yna eliffant enfawr yn y ’stafell. Mae rhai ohonon ni fenywod yn ei weld, yn pwyntio’n syth ato ond yn cael […]
Continue ReadingCategori: Barn
Lansio cymhelliant i ddenu gweithlu addysgu mwy amrywiol
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cymhelliant swyddogol i ddenu mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu. Mae’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys – er mwyn sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu […]
Continue ReadingRhifyn Mawrth Y Cymro
Trafnidiaeth ar draws ein gwlad a’r holl broblemau sy’n ymwneud ag o sy’n cael cryn dipyn o sylw yn rhifyn Mawrth y Cymro sydd ar gael yn y siopau rŵan. Digon teg bod cynlluniau mawr i adeiladu mwy o ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo meddai ambell un. Mae’n sicr yn gwneud digon o […]
Continue ReadingDoes gan neb fil o ffrindiau!… Y Ddysgwraig
Dwi’n falch cyhoeddi fy mod wedi gwneud ffrind newydd trwy fy nghwrs Cymraeg. Da ni wedi dechrau cyfnewid llyfrau stori fer, a mynd i dai ein gilydd i yfed te a siarad am blanhigion. Dydw i erioed wedi bod yn dda iawn am wneud ffrindiau. A dweud y gwir, dydw i byth wedi bod yn arbennig […]
Continue ReadingStrategaeth Cymru gryfach, decach a mwy gwyrdd
Strategaeth Arloesi newydd wedi’i lansio er mwyn creu Cymru Gryfach, Decach a Mwy Gwyrdd Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus ‒ dyna’r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy’n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru. Mae’r weledigaeth drawslywodraethol […]
Continue ReadingY nerth sydd yn eich pen
Ydych chi erioed wedi meddwl am y nerth sydd yn eich pen ? gan Beca Lois Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd Braint oedd cael fy newis i fod yn rhan o weithdy Nerth dy Ben gyda chriw talentog iawn. Mae Nerth dy ben yn elusen sydd yn annog iechyd meddwl cadarnhaol ac yn eich […]
Continue ReadingY Gymraeg a roddwyd i’n gofal, nid ‘dwyieithrwydd’
gan Heledd Gwyndaf Mae yna gamddealltwriaeth mawr o amgylch yr hen ddadl ddiflas yna – ‘y dylwn siarad Saesneg, achos mae pawb yn deall Saesneg ta beth.’ Wel myth gwladychol os fu un erioed, er mwyn parhau’r broses wladychu honno. Oherwydd ein bod ni’n medru’r Saesneg, nid yw hynny’n golygu y dylwn ddefnyddio’r medr hwnnw […]
Continue ReadingLleisiau newydd: Amaeth – byd amherffaith perffaith! – gan Emyr Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd
gan Emyr Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd Amaeth – byd amherffaith perffaith! Dwi wrth fy modd yn gwrando ar ganeuon Fleur de Lys a phob tro dwi’n clywed ‘Amherffaith Perffaith’, dwi’n teimlo fod y teitl yn cyfleu byd ffermio i’r dim.Ar fferm ddefaid a bîff yn ardal Llannefydd, Sir Conwy rydw i’n byw. Mae […]
Continue ReadingY Ddysgwraig: Mae’r prawf siarad yn dod
gan Y Ddysgwraig Mae’r prawf siarad yn dod …ond does dim diwedd i’r busnes glanhau ‘ma! Yn ddiweddar, gwahoddais ffrind i aros am rai dyddiau. Mae’n neis iawn i gael ffrindiau drosodd, ond mae hyn yn golygu fod yn ‘dduwies ddomestig’ y diwrnod cynt. Does dim byd yn canolbwyntio’r meddwl fel rhywun sy’n mynd i […]
Continue Reading‘Ymgyrchoedd ddoe yn berthnasol heddiw’
Ymlaen o’r Gorffennol: Ymgyrchoedd ddoe yn berthnasol heddiw I nodi chwe deg mlwyddiant protest gyntaf y mudiad bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal taith gerdded o leoliadau nodedig yn ei hanes yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (4 Chwefror 2023). Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn enw’r mudiad ar 2 Chwefror, 1963. Bydd y daith yn dechrau wrth […]
Continue Reading