Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cymhelliant swyddogol i ddenu mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu. |
Mae’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys – er mwyn sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Mae cyfanswm o £5,000 ar gael i athrawon cymwys sydd yn fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae £2,500 ar gael ar gyfer ennill Statws Athro Cymwysedig a thaliad terfynol o £2,500 ar ôl cwblhau cyfnod ymsefydlu. Mae’r cynllun yn un o dri chymhelliant sydd ar gael ar hyn o bryd i athrawon cymwys dan hyfforddiant. Ac mae cyfanswm o £25,000 ar gael i’r rheini sy’n ateb gofynion y tri chynllun. Y ddau gynllun arall, ochr yn ochr â’r cymhelliant newydd hwn, yw:
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Mae’r cynllun yn rhan o waith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Ochr yn ochr â’r cymhelliant, mae pob un o’n Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon wedi datblygu cynlluniau recriwtio sydd wedi’u cynllunio i ddenu myfyrwyr ethnig lleiafrifol i ddilyn rhaglenni addysgu. Mae’r Partneriaethau wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r Brifysgol Agored. Mae grŵp o Fentoriaid Cymunedol yn cefnogi’r Partneriaethau, ac maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad personol o effaith wahaniaethol hiliaeth ar addysg, recriwtio, cyflogaeth, marchnata ac arweinyddiaeth i gynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn addysgu. Dywedodd un o’r mentoriaid, Khudeza Siddika, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe,
|
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.