Mae yna eliffant enfawr yn y ’stafell!
Mae ‘Undeb Rygbi Cymru’ wedi bod mewn dyfroedd dyfnion yn y misoedd diwethaf – ac yn llawn haeddu bod hefyd.
Ond yng nghanol yr holl drafodaeth mae yna eliffant enfawr yn y ’stafell.
Mae rhai ohonon ni fenywod yn ei weld, yn pwyntio’n syth ato ond yn cael ein hanwybyddu a’n hwfftio am sôn am rywbeth sydd tu hwnt i ddirnad y rhan fwyaf o ddynion. Ac yn yr un gwynt maen nhw’n datgan bod rhaid gwrando ar fenywod.
Mae hyn oll wedi’i grisialu mewn sgwrs a gafwyd ar ‘Hawl i Holi’ ar Radio Cymru pan ofynnwyd y cwestiwn gan ddynes o’r gynulleidfa: “Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd pethau yn newid yn fuan o fewn Undeb Rygbi Cymru?”
Rhan o ateb un o’r panelwyr oedd: “Mae’n grêt i weld llawer mwy o chwaraeon merched ar y teledu, pêl-droed a rygbi, mae hynny’n ffantastig i weld.” A dyna un o’r problemau sylfaenol sydd yn cael ei hamlygu yn y fan honno. Mae rhaid i chi esgusodi fy henaint ond pan ro’n i’n ymgymryd â chwaraeon ar lefel uchel – chwarter canrif yn ôl – pêl-rwyd a hoci oedd ar gael i ni ferched yn ein hysgolion.
Dw i yn bendant ddim yn cwyno am hynny, dyma ddwy gêm wych a dwi’n falch o fod wedi cael y cyfle i’w chwarae. Mae hoci a phêl-rwyd yn ddwy gamp anhygoel i’w chwarae ac i’w gwylio. Ar ôl fy nghyfnod i dechreuodd merched chwarae fwyfwy o rygbi a phêl-droed.
Ond y pwynt sydd mor amlwg â’r dydd i mi ydy hyn – Er mwyn i ferched gael unrhyw fath o amlygrwydd neu hyd yn oed cydnabyddiaeth mewn chwaraeon, mae’n rhaid i’r chwaraeon fod yn rhai sy’n cael eu dominyddu gan ddynion.
Wrth gwrs mae hyn yn aml yn broblem sylfaenol yn ein cymdeithas – sy’n ymestyn i feysydd eraill. Os yw maes penodol yn cael ei ddominyddu, am ba bynnag reswm, gan ferched, annhebygol iawn ydi o fod yr un gydnabyddiaeth yn cael ei rhoi iddo.
Er mor bwysig yw’r ddadl oddi fewn i ‘Undeb Rygbi Cymru’, mae’r broblem gymaint yn fwy sylfaenol na hynny, a’r darlun gymaint yn ehangach. Wel dyma fy mhrofiad i beth bynnag fel rhywun sydd wedi chwarae pêl-rwyd ar lefel genedlaethol (ysgolion) a hoci i Orllewin Cymru (ysgolion).
Doedd y chwaraeon ro’n i, a channoedd o ferched eraill trwy Gymru yn eu chwarae, ddim yn – a dal ddim yn – cael eu cydnabod hyd yn oed. Maen nhw’n dweud mai’r peth mwyaf sarhaus i gyd ydy, nid cael eich bychanu neu eich dilorni, ond ddim cael eich cydnabod yn y lle cyntaf hyd yn oed.
A dyna hanes nifer ohonon ni ferched yn y byd chwaraeon. Felly, i gael yr un sylw dyledus â dynion, mewn byd dynion, y peth cyntaf mae’n rhaid i ni ferched ei wneud ydy trio bod mwy fel dynion, beth bynnag yw hynny. Dyna yw sylfaen y broblem a than fod hynny yn newid, wneith ddim byd newid mewn gwirionedd. Tan ein bod yn cydnabod a rhoi tegwch i bethau y mae merched yn arwain arnynt, am ba bynnag reswm, fydd dim byd yn newid, mewn unrhyw faes.
Tua diwedd y drafodaeth o 10 munud ar y rhaglen ar Radio Cymru (dynion siaradodd y rhan fwyaf o’r amser) mi wnaeth dynes o’r gynulleidfa y pwynt pwysig hwn. Gofynnodd: “Ydach chi ddim yn meddwl ei bod hi’n hen bryd i ferched sy’n chwarae unrhyw chwaraeon fod ar yr un lefel â’r dynion – achos ’da ni ond yn gweld dynion rili, yn chwarae pêl-droed neu rygbi a ’da ni byth yn gweld merched yn chwarae unrhyw chwaraeon ar y teledu?” Fe gafwyd ateb go ddi-hid ac wfflyd – fel eu bod yn camddeall y pwynt ynglŷn â’r ffordd eilradd mae merched yn cael eu trin.
Symudwyd ymlaen yn gyflym i ofyn i ddyn arall am ei farn ef! Oes eisiau dweud mwy? Ond os caf gyfeirio at eironi mawr arall yn y drafodaeth, un o’r pethau cyntaf a godwyd oedd canmol y cyfryngau a newyddiadurwyr am dynnu sylw at y broblem hon. O yr eironi – wrth feddwl am y blaenoriaeth sy’n cael ei roi i ddynion yn chwarae chwaraeon ar ein sgriniau teledu, ar ein radio ac yn ein papurau newydd.
’S dim unrhyw le i ddyn i ddiolch i’n cyfryngau ni, sydd yn gyrru agenda sydd â’r sylw enfawr ar ddynion ac mae’r merched yn sicr ar y cyrion (os hyd yn oed hynny). A ’dw i ddim yn gallu penderfynu a ydy hi’n fwy sarhaus i gael merched i siarad ag i ‘gyflwyno’ am oriau maith am ddynion yn gwneud chwaraeon. Mae’n edrych tamaid bach fel tocenistiaeth i mi.
Rhowch nhw i ohebu ar ein merched yn ein timau hoci a phêl-rwyd cenedlaethol a rhoi’r blaenoriaeth i’r rheiny. Wedyn falle gewch chi fy niolch. Yn y cyfamser, da o beth fyddai petai BBC Radio Cymru a’r panelwyr (roedd pedwar allan o bump o’r panelwyr yn ddynion) yn ystyried ymddiheuro i ni gyd fel merched am gymryd amser ar yr awyr oddi wrthym gyda’u traethu diddeall. Symudwch i’r ochr ddynion.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.