Ydych chi erioed wedi meddwl am y nerth sydd yn eich pen ?
gan Beca Lois Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd
Braint oedd cael fy newis i fod yn rhan o weithdy Nerth dy Ben gyda chriw talentog iawn.
Mae Nerth dy ben yn elusen sydd yn annog iechyd meddwl cadarnhaol ac yn eich helpu chi i weld pwysigrwydd y nerth yn eich pen. Os oes rhywbeth yn eich pryderu mae’r mudiad yn rhoi cymorth wrth hybu eich cryfderau meddwl positif yn lle pryderu am y rhai gwael.
Sefydlwyd y mudiad ar ddechrau 2021 wrth lansio ar y cyfryngau cymdeithasol Instagram i’r gymuned wledig Gymraeg. Y bwriad yw i hybu eich pwerau sydd yn gwneud chi’n unigryw yn eich ffordd bersonol chi.
Roedd aelodau’r mudiad yma yn dod o gefndiroedd gwahanol ond gyda’r un nod sef helpu pobl ifanc i ddod yn gyfarwydd â’u nerth nhw. Roedd y criw o artistiaid profiadol yn awyddus i gael llais o safbwynt ifanc felly dyma ble’r roeddwn i yn dod fel rhan o’r gweithdy.
Yn gyntaf cefais hyfforddiant yn Theatr Clwyd lle dysgais sut i weithredu gweithgareddau lles a gemau ymarferol i ddatblygu hyder a sgwrsio am ein pryderon. Cawsom ein dysgu gan yr artistiaid profiadol sut i fod yn arweinyddion i’r tîm creu allweddol a sut i gynnal y gweithdai creadigol.
Yr wythnos ganlynol aethom ar weithdai i bedair ysgol uwchradd gwahanol ar hyd gogledd Cymru sef Ysgol y Creuddyn, Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol Maes Garmon ac wrth gwrs fy ysgol i, Ysgol Glan Clwyd. Y bwriad oedd datblygu themâu o hunan hyder, nerth, gwerth a dod i wybod beth yw cryfderau nerth pobl ifanc.
Cefais syndod i weld pa mor agored oedd rhai o’r bobl ifanc yn ein gweithdai a gwelais yr hyder yn datblygu yn fwy wrth iddynt ddod i fy adnabod i a’r tîm artistiaid yn well. Roeddwn hefyd yn teimlo yn falch fy mod i a’r tîm yn gallu helpu pobl ifanc i fod yn fwy cyfforddus i drafod eu teimladau a phroblemau.
Rydw i’n credu’n gryf y dylai gweithdai fel hyn gael eu cynnal ar hyd ysgolion Cymru er mwyn hybu meddylfryd iach a phositif a chael pobl ifanc yn fwy hyderus i agor allan a gwerthfawrogi’r hyn y gallant wneud yn hytrach na meddwl yn negyddol.
Diolch i Nerth dy Ben am y cyfle gwerthfawr i fod yn rhan o’r prosiect hwn.
Gwefan-linkr.bio/nerthdyben
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.