Does gan neb fil o ffrindiau!… Y Ddysgwraig

Barn

Dwi’n falch cyhoeddi fy mod wedi gwneud ffrind newydd trwy fy nghwrs Cymraeg. 

Da ni wedi dechrau cyfnewid llyfrau stori fer, a mynd i dai ein gilydd i yfed te a siarad am blanhigion.

Dydw i erioed wedi bod yn dda iawn am wneud ffrindiau. A dweud y gwir, dydw i byth wedi bod yn arbennig o gymdeithasol, byth wedi hoffi chwaraeon tîm wedi’u trefnu, ac yn gyffredinol jest yn hoffi cwmni fy hun. 

Yn ddiweddar, gofynnodd fy ffrind newydd os oeddwn ar Facebook. Dwi ‘di cael y cwestiwn yma or blaen, mae’n ymddangos yn beth poblogaidd. I fod yn honest – di Facebook byth wedi apelio i mi. 

 Credwch neu beidio, dwi’n person sy’n hoffi preifatrwydd. 

Ac yn ail, mae’r syniad o gyfathrebu ar-lein, yn teimlo’n rhyfedd. Rydw i wedi byw yn yr un ardal ers bron i 20 mlynedd, ac wedi bod gyda’r un person ers dros 10 mlynedd, felly os oes unrhyw beth yn mynd i newid yn sylweddol, buaswn yn rhannu’r newyddion gyda ffrindiau (wyneb i wyneb). 

Os ydw i eisiau cysylltu â ffrind, byddwn yn gyrru neges destun, neu mewn argyfwng – yn eu ffonio nhw. 

Cyn y we, roeddwn i’n meddwl fod brolio wrth ddangos lluniau gwyliau yn eithaf naff, a dydw i ddim yn meddwl ei fod yn llai naff oherwydd ei fod yn digwydd ar-lein. Ma’r un peth rili hefo bwyd.  

Cyn cyfryngau cymdeithasol, yr unig le buasech yn gweld lluniau bwyd oedd mewn llyfrau rysáit Delia Smith!  

Er fy mod yn mwynhau cwmni ffrindiau, nid wyf yn teimlo unrhyw angen mawr i sbio ar eu lluniau. A pheth arall dwi ddim yn dallt am gyfryngau cymdeithasol ydi’r atyniad o gasglu rhestrau hir o ‘ffrindiau’ Facebook. C’mon – pwy sydd rili hefo dros fil o ffrindia? 

Rwy’n gweld y syniad o ffurfioli perthnasoedd cymdeith- asol yn y ffordd ddigidol yn rhyfedd iawn. Dwi wedi clywed am bobl yn gofyn i rywun diarth fod yn ‘Friend’, ac yna pwyso’r botwm ‘Unfriend’ oherwydd bod y berthynas wedi oeri neu maen nhw wedi anghytuno ar bwnc dibwys.  

Dwi hyd yn oed wedi clywed am bobl yn colli ffrindiau oherwydd eu bod nhw heb hoffi digon o byst pobl eraill. Mae o i gyd yn swnio fel gwaith caled a chwarae plant ac nid perthynas oedolion aeddfed. 

Da ni’n byw mewn oes ddifyr; erbyn heddiw mae tua 66% o’r boblogaeth (yn y DU) yn defnyddio Facebook, felly dwi yn y lleiafrif. Ond wyddoch chi be? Mae bywyd yn ddigon cymhleth fel y mae.  

Y realiti ydi – a dweud y gwir – dwi hefo tua saith ffrind agos a rhyngoch chi a fi, dwi’n meddwl fod un o’r rheini yn trio cael gwared â fi… peth da felly fy mod wedi gwneud y ffrind newydd ‘ma ynde? 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau