Y Gymraeg a roddwyd i’n gofal, nid ‘dwyieithrwydd’

Barn

gan Heledd Gwyndaf

Mae yna gamddealltwriaeth mawr o amgylch yr hen ddadl ddiflas yna – ‘y dylwn siarad Saesneg, achos mae pawb yn deall Saesneg ta beth.’ Wel myth gwladychol os fu un erioed, er mwyn parhau’r broses wladychu honno.

Oherwydd ein bod ni’n medru’r Saesneg, nid yw hynny’n golygu y dylwn ddefnyddio’r medr hwnnw i gyfrannu at ddiflaniad y Gymraeg.

Mae rhai yn dadlau, oherwydd diffyg medrau ieithyddol Cymraeg rhai pobl sydd yn byw yng Nghymru, y dylwn ni, oherwydd ein medrau yn yr iaith fain, fod yn troi i’r Saesneg pob cyfle.

Rhaid i ni fod yn glir am ddau beth: Yn gyntaf, ni ddylid cymryd fod medrau sydd gan bobl yn bodoli er mwyn galluogi anwybodaeth eraill. Ac yn ail, mae yna sgil-effeithiau pellgyrhaeddol a difrifol o droi i’r Saesneg. Mae hyn efallai yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r medrau sydd gennym, ble nad oes sgil-effaith negyddol i’w defnydd.

Mae hi fyny i ni i benderfynu pryd i ddefnyddio ein medrau ieithyddol, nid i eraill i ddisgwyl nac i fynnu ein defnydd ohonynt.Mae dewis y Saesneg yn golygu marwolaeth y Gymraeg. Mae angen i fwy ohonom ni ymatal rhag newid iaith yn amlach. Mae hyn yn gallu bod yn fwrn ac angen dewrder i’w wneud oherwydd ymatebion rhai pobl, ond efallai nid yw mor boenus ac mor feichus â cholli ein hiaith.

Mae’n gamp aruthrol i droi’r trai ar sgil-effeithiau ‘Y mae’r darn o bren a’r llythrennau du yn awr yn rhan o’th hetifeddiaeth di’, ac mae angen i ni weithio o bob cyfeiriad.

Un peth arall mae angen i ni fod yn glir amdano, neu yn hytrach sydd angen i’n hawdurdodau lleol fod yn glir amdano yw bod safonau’r Gymraeg yno i warchod y Gymraeg, does dim unrhyw ofyniad iddynt fod yn gwarchod y Saesneg.

Os yn gwneud cyhoeddiad neu adroddiad neu ddatganiad yn Saesneg mae rhaid ei wneud yn Gymraeg hefyd gan ‘beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg’. Ond nid yw hyn yn wir vice versa.  Mae fel tase ryw ofn mawr ar rai o drin y Saesneg yn llai ffafriol na’r Gymraeg.

Na phoener, tawelaf eich ofnau yn awr, mi allaf eich sicrhau na fydd yr iaith Saesneg farw o Gymru nac o unrhyw le arall yn y dyfodol agos. Felly, Gyngor Sir Ceredigion, oes gwirioneddol angen hysbysebu swydd athro/athrawes gerdd ysgol Bro Pedr yn Gymraeg ac yn Saesneg? Mewn difri calon?

Ydych chi eisiau athro/athrawes gerdd nad sy’n medru’r Gymraeg yn ysgol Bro Pedr? Wrth gwrs ddim, felly hysbysebwch yn Gymraeg yn unig. Pwy yn y byd y’ch chi’n ofni eu pechu?

Rheswm arall i ymatal rhag defnyddio’r Saesneg yw rhywbeth dw i newydd glywed ar y stryd rŵan hyn – rhywun sydd wedi penderfynu peidio parhau i ddysgu Cymraeg achos mae’n ddigon rhwydd iddi beidio. Hynny yw, does dim angen iddi (yn ei thyb hi), dyw’r cymhelliant iddi ddim yn ddigon cryf, mae’n gallu byw yma a bod yn athrawes mewn ysgol yng Ngheredigion heb orfod medru’r iaith Gymraeg. Meddyliwch!

Trist hefyd yw clywed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sôn yn lawer rhy aml am y nod honno o ‘ddwyieithrwydd’ ac am ‘bilingual society’, yn hytrach na ‘Chymreictod’ neu ‘Cymdeithas Gymraeg’. Beth sy’n bod, ydy y rheiny yn ofni pechu rhywun hefyd?

Nid brwydro wnes i i gael Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn amddiffyn ‘dwyieithrwydd’, ond er mwyn amddiffyn y Gymraeg.

Er mwyn cael cymdeithas wirioneddol ddwyieithog, mae’n rhaid cael cymdeithas Gymraeg.

Fel y dywedodd Chris Rees, sylfaenydd y cyrsiau Wlpan, ‘Mae un Sais yn fwyafrif’.  Y Gymraeg a roddwyd i’n gofal, nid ‘dwyieithrwydd’ ac mae rhaid i ni fod yn ofalus sut i drin y gair hwnnw, gan ei fod yn cael ei gamddeall gan fwyafrif llethol yn ein mysg.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau