gan Emyr Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd
Amaeth – byd amherffaith perffaith!
Dwi wrth fy modd yn gwrando ar ganeuon Fleur de Lys a phob tro dwi’n clywed ‘Amherffaith Perffaith’, dwi’n teimlo fod y teitl yn cyfleu byd ffermio i’r dim.Ar fferm ddefaid a bîff yn ardal Llannefydd, Sir Conwy rydw i’n byw.
Mae fy nhad a fy mrawd yn ffermio yma ar y funud ac mi oedd fy nhaid yn ffermio yma cyn hynny.
Rydym yn lloua oddeutu 35 o wartheg, Limousine a Belgian Blue yn bennaf, ac yn wyna tua 1000 o ddefaid rhwng Chwefror ac Ebrill bob blwyddyn. Rydw i yn dal yn yr ysgol rwan a heb ddewis fy ngyrfa eto, ond mae helpu tu allan gyda’r nos neu ar y penwythnos yn ddigon i mi ddeall pa mor anodd yw gwaith ffermwr, heb y frwydr barhaus gyda’r gelynion sydd o’r golwg – un o’r rheiny yw TB!
TB a ni!
Mi darodd y gelyn hwn gyntaf yn 2012 ond yr adeg honno, o leiaf roedden ni’n gwybod ble oedd tarddiad yr haint – heffer oedd wedi ei phrynu i mewn i’r fferm.
Ond, does dim ateb hawdd bob tro! Os oes achos o TB ar fferm golyga hyn bod rhaid lladd yr anifail a rhoi’r fferm o dan gyfyngiadau – ac rydym ni gyd yn gwybod sut mae hynny’n teimlo ar ôl y cyfnod clo!
Ers ein hachos cyntaf yn 2012, rydym wedi cael ein heintio dair gwaith wedyn, a’n rhoi dan glo am gyfanswm o 769 o ddiwrnodau ac rydym dan glo eto ar hyn o bryd! Os yw fy mathamateg i’n gywir, golyga hyn ddwy flynedd ag un mis o fethu prynu a gwerthu’n rhydd – heb son am y 23 o wartheg sydd wedi gorfod cael eu difa.
Yn arferol, un waith y flwyddyn sydd raid i ffermwyr brofi eu gwartheg am TB ond os oes achos o’r haint ar eich fferm neu ar fferm cymydog, yna mae’r profi’n amlach a’r trafferth yn fwy. Mae profi am yr haint yn straen amlwg i’r anifail ac yn sicr mae o’n straen meddwl ar y teulu i gyd yn poeni am y canlyniadau.
Ffrind gorau dyn
Oeddech chi’n gwybod fod dros filiwn yn fwy o gŵn anwes yn y Deyrnas Unedig eleni nac oedd yna llynedd? Er bod cŵn yn hwyl ac yn gwmni da fel mae’r dywediad yn awgrymu, mae hefyd trafferthion a pheryglon yn dod yn eu sgil.
Yn y degawd ddiwethaf, mae dad wedi cael tri achos o gŵn yn ymosod, brifo neu hyd yn oed lladd defaid yn ein caeau. Ddigwyddodd hyn ERIOED pan oedd taid yma yn ffermio. Prawf bod y niferoedd cŵn a niferoedd pobl yn cerdded cŵn ar gynnydd yn ddiweddar.
Rydym dal yn ceisio dod o hyd i ffordd i fyd amaeth a llwybrau cerdded cŵn fynd law yn llaw. Mae hon yn broblem i’w thaclo i’r dyfofol.
Haf braf – gaeaf gwlyb
Mae’r tywydd yn rhan bwysig iawn o ffermio ond un peth dwi’n dechrau ddeall efo dad ydi, dydi o BYTH yn hapus efo’r tywydd! Mi fasa fo’n gallu cwyno bod angen glaw am wythnosau ond pan mae’r glaw yn dod mae o’n cwyno’i bod hi rhy wlyb! Does dim plesio arno!
Er fod dad yn deud ei ddeud am y tywydd yn ddi-ben-draw, dwi YN deall weithiau fod hynny’n gallu cael effaith mawr ar fferm. Roedd hi’n haf bendigedig – digon o gyfle i gampio yn y caeau hefo ffrindiau, ond doedd dim llawer o gnydau ac felly, does dim digon o fwyd i gynnal yr anifeiliaid drwy’r gaeaf! Mwy o gostau prynu porthiant, mwy o broblemau! Ond dyna ni, dyne ydi ffarmio de!
Er y problemau yma i gyd, mae fy mrawd a nhad yn dal i ffarmio drwy’r dydd, bob dydd a finnau yn edrych ymlaen i fynd atyn nhw i helpu pan does dim pel-droed nac ysgol. Ond mi nai ddal i fwynhau y byd o amherffeithrwydd perffaith ar y fferm!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.