Trafnidiaeth ar draws ein gwlad a’r holl broblemau sy’n ymwneud ag o sy’n cael cryn dipyn o sylw yn rhifyn Mawrth y Cymro sydd ar gael yn y siopau rŵan.
Digon teg bod cynlluniau mawr i adeiladu mwy o ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo meddai ambell un. Mae’n sicr yn gwneud digon o synnwyr wrth drio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ond ble mae’r cynllun cyflawn sydd yn lle’r prosiectau felly? – beth yn un union yw strategaeth ein Llywodraeth i wella’r sefyllfa lle nad yw ein ffyrdd a’n rheilffyrdd yn addas i bwrpas ac nad yw trafnidiaeth gyhoeddus chwaith yn agos at ddiwallu anghenion ein cymunedau – yn enwedig rhai cefn gwlad?
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu’r newyddion gan ddweud bod y cyhoeddiad yn ‘garreg filltir’. Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: “Mae’r adroddiad hwn sy’n arwain y byd yn chwa o awyr iach sy’n addo system drafnidiaeth wyrddach a thecach yng Nghymru. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Rhaid i ni dorri’r cylch o adeiladu mwy o ffyrdd ar gyfer mwy o geir – bydd ond yn creu mwy o dagfeydd, yn gwneud ein haer yn fwy llygredig, ac yn cynyddu’r allyriadau sy’n difetha ein hinsawdd.”
Ond meddai Bethan Jones Parry yn ei cholofn: “Os ydyn ni am gynnal a chadw cymunedau Cymreig hyfyw, yn enwedig yng nghefn gwlad, mae angen mynd i’r afael â hynny o safbwynt trafnidiaeth ar yr un pryd â gweithredu er mwyn achub yr amgylchedd. A gyda llaw, mae gwneud hynny hefyd yn esiampl arall o fod yn ymwybodol o fywydau Cymry’r dyfodol yn eu cyfanrwydd.”
Barn Cadi Edwards yw: “Pa bynnag strategaeth maen nhw’n ei defnyddio, un peth sydd yn bendant, mae’n rhaid gwneud newid nawr neu bydd Cymru’n syrthio hyd yn oed pellach y tu ôl i wledydd eraill”
Mae’r colofnydd Iestyn Jones wedi bod yn gweld tîm pêl droed Wrecsam – fel miloedd o rai eraill sy’ di gwirioni ar lwyddiant y tîm ac awyrgylch gwefreiddiol y Cae Ras ers i sêr Hollywood gyrraedd. Meddai Iestyn: “Efallai fy mod wedi syrthio mewn cariad hefo’r cysyniad fod chwistrelliad arbennig o gynnwrf dim ond awr i ffwrdd yn y car.
“Mae’n edrych fel bydd seren Wrecsam yn codi’n uwch ag yn uwch o hyn ymlaen. Does dim angen i ogleddwyr fod yng nghysgod Abertawe a Chaerdydd ragor. Mae Wrecsam yn enw byd enwog rŵan. Ydw i wedi neidio ar y lorri lwyddiant? Wrth gwrs fy mod i… ac mae’n teimlo’n adfywiol.”
Gwybod pryd i roi’r gorau i bethau yw pwnc Dafydd Iwan y mis hwn. Wrth drafod y dalent o wybod sut a phryd i adael y llwyfan meddai: “Ers i Gareth Bale gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau iddi, dwi wedi bod yn cellwair mai’r gwahaniaeth rhwng cantorion a phêl-droedwyr yw bod pêl-droedwyr yn gwybod pryd i ymddeol. Ac y mae llawer o wirionedd y tu ôl i’r cellwair!”
A chipolwg ar feddylfryd Esyllt Sears dros fis cyfan gawn ni yn ei cholofn y mis yma. “Chwefror 5: Sonies i wrth ‘y mhlant mod i arfer bod yn brif ferch yn ysgol. Y cwestiynau ges i wrthyn nhw oedd…Pam ti? Pwy benderfynodd? Oedd yna rywun arall gwell na ti wnaeth ddim cael eu dewis?”
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.
Mae rhifyn Mawrth Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27, neu dderbyniwch gopi digidol ar e-bost am £12 y flwyddyn trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.