Ffasiwn fforddiadwy ffyniannus – amdani!

Barn

Lleisiau newydd – Y ffenomen ffasiwn fforddiadwy ffyniannus 

gan Jasmine Hemmings – Blwyddyn 10 Ysgol Glan Clwyd

Yn ddiamau, stori llwyddiant y tair blynedd diwethaf yn y byd manwerthu fu’r cynnydd ym mhoblogrwydd dillad ail law.

Mae gwefannau ocsiwn ar-lein wedi gweld twf ynghyd â siopau elusen, sy’n profi’n fecca i helwyr bargenion sy’n brwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw.

Mae gwefannau megis Depop a Vinted yn cael eu defnyddio fwyaf gan bobl ifanc, yn wahanol i Ebay a Facebook Market. Wrth edrych ar ystadegau a phrisiau’r eitemau mae elw mawr i’w wneud, gan bobl yn gwerthu eu dillad sydd wedi ei defnyddio.

Mae gan unigolion y genhedlaeth ifanc, gan gynnwys fi, diddordebau mewn dillad a steil o gyfnodau gwahanol megis yr 70au, 80au a’r 90au. Gan ystyried hyn, mae gwerth cynyddol ar ddarnau o’r cyfnodau yma gan fod mwy yn edmygu’r ffasiwn yma wrth i’r dyfodol agosáu. Cesglir llawer o ddarnau prin fel nwyddau i’w casglu a’u cadw.

Yn benodol, mae’r wefan Vinted, sydd gyda dros 180 miliwn o eitemau rhestredig a dros 75 miliwn o ddefnyddwyr, yn disgwyl i dyfu 15-20% yn y 5 mlynedd nesaf. Yn ychwanegol i hyn disgwylir i’r farchnad ffasiwn ail law gyfan, fod yn fwy na dwbl maint y farchnad ffasiwn gyflym erbyn 2030. Yn yr Unol Daleithiau yn unig, mae amcangyfrif bydd y farchnad ail law am dreblu yn y 10 mlynedd i ddod. Wrth gymharu ffigyrau mae’n cyfleu’r newid sylweddol sydd i ddod o oddeutu $28 biliwn (2019) a $80 biliwn (2029).

Un rheswm pam fod pobl yn heidio i siopau ail law a gwefannau arwerthu yn ddiweddar, yw o ganlyniad i bryderon am newid hinsawdd a’r awydd i fod yn fwy cynaliadwy. Mae pobl yn dod yn ymwybodol o anghynaladwy ffasiwn cyflym a’i gyfraniad i safleoedd tirlenwi byd-eang. Ar gyfartaledd, mae 92 miliwn tunnell o ffasiwn cyflym yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi pob blwyddyn, ac yna’n effeithio ar yr amgylchedd yn negyddol.

Wrth brynu o siopau fel Shelter, Barnardos, Cancer Research a British Heart Foundation, mae nid yn unig yn ein galluogi i brynu brandiau am wythfed o’r pris, ond yn bwysicaf rydym yn cynorthwyo tuag at achosion da. Mae’r math o siopa yma wedi cael ei labelu gan y cyfryngau i fod yn siopa dieuog. Ynghyd â gwefannau ar-lein mae’r siop elusen yn denu cynulleidfa newydd.

Siaradais hefo Ava Philips, rheolwr Shelter Cymru, sy’n berchen ar un o’r 550 o siopau elusen ar draws Cymru ac 8 ym Mhrestatyn.

Eglurodd Ava i mi sut mae cwsmeriaid ei siop yn newid. “Rwyf wedi sylwi ar fath gwahanol o gwsmer. Felly o’r blaen, roedd gen i ryw fath o gwsmeriaid rheolaidd ac roeddwn i’n eu hadnabod ac roedden nhw o oedran cyson, ond nawr rydw i wedi sylweddoli bod llawer o bobl iau, a phobl nad ydw i erioed wedi’u gweld yn dod i mewn. Felly mae gen i bobl yn dod i mewn oherwydd ni allant fforddio siopa yn y siopau mawr ddim mwy ac oherwydd mae llawer wedi bod ar y newyddion am ailgylchu a’r amgylchedd felly mae pobl yn dod i mewn am y rheswm hwnnw a hefyd oherwydd eu bod yn ailwerthu.”

Mae gan siopau elusen rhywbeth i bawb. Nid yn unig maent yn canolbwyntio ar ddillad ond hefyd mae’n bosib buddsoddi am esgidiau, bagiau, teganau, llyfrau, recordiau, cardiau, gemwaith, a dodrefn. Mae’r siopau’n llawn pethau defnyddiol dydd i ddydd am brisiau dychrynllyd o isel. Mae’r siop fel ogof Aladdin llawn trysorau.

Gwnaeth Sue Jones, rheolwr siop North Clwyd Animal Rescue ar stryd fawr Prestatyn, grynhoi adfywiad o siopau elusen yn syml trwy ddatgan bod “sbwriel un yn drysor i un arall.”  Gwnaeth Ava gloi ei sgwrs gan esbonio bod “ffasiynau heddiw yn dod yn ddillad casgladwy’r dyfodol.”  Felly beth amdani, ewch i ymweld â’ch siopau elusen lleol!

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau