Beirniadu agwedd ‘ddinistriol’ at ddatganoli

Mae Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru, wedi beirniadu agwedd ‘unochrog a dinistriol’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig at ddatganoli. Daw ei rybudd cyn iddo draddodi araith yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas y Bar ar gyfer Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, union 24 mlynedd ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – sef Senedd […]

Continue Reading

Cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Diwygio yw prif nod Biliau Llywodraeth Cymru a gaiff eu cyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf. Wrth gyhoeddi ei flaenoriaethau deddfwriaethol, dywedodd y Prif Weinidog y bydd y biliau’n gwneud newid cadarnhaol i bobl Cymru. Ymhlith y ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno yn ystod tymor nesaf y Senedd y mae: Bil Bysiau i ddiwygio […]

Continue Reading

Miloedd o swyddi yn cael eu creu yng Nghymru yn ôl ffigyrau

Cafodd dros 3,000 o swyddi eu creu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i fewnfuddsoddiadau –  yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw. Mae adroddiad blynyddol Adran Busnes a Masnach y DU ar Fuddsoddiadau Uniongyrchol Tramor (FDI) yn y DU ar gyfer 2022-23 yn dangos bod nifer y swyddi a grëwyd wedi dychwelyd i […]

Continue Reading

Paratoi ar gyfer yr orymdaith dros annibyniaeth yn Abertawe

Gyda phythefnos yn unig cyn yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth, mae Pawb Dan Un Faner (AUOBCymru) a YesCymru wedi cyhoeddi y bydd Liz Saville-Roberts AS a’r awdur Mike Parker, ymhlith eraill, yn annerch y dorf yn Abertawe. Bydd y mudiad annibyniaeth yn dychwelyd i’r strydoedd ar yr 20fed o Fai yn dilyn gorymdeithiau llwyddiannus yn […]

Continue Reading

Darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn

Arfon Haines Davies yn cyflwyno darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn Dewch i gadw cwmni i Arfon Haines Davies wrtho iddo fyfyrio ar ei gyfeillgarwch gyda Kyffin Williams mewn darlith wedi’i threfnu gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams. Ganwyd Arfon yng Nghaernarfon yn fab i weinidog Wesleaidd, a bu’n byw mewn sawl rhan […]

Continue Reading

Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cais i gynnal UEFA EURO 2028

Mae Llywodraeth Cymru’n bartner llawn yn y cais uchelgeisiol ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau UEFA EURO 2028, meddai Prif Weinidog Cymru. Mae cais gan bum cymdeithas pêl-droed y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau Ewrop UEFA wedi’i gyflwyno heddiw mewn partneriaeth â’u llywodraethau. Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru gefnogaeth Llywodraeth […]

Continue Reading