Rhifyn Mehefin Y Cymro

Newyddion

Pa mor gredadwy – a chyraeddadwy – yw targed ein llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Dyna sy’n cael y sylw ar dudalen flaen Y Cymro.

Canfu Pwyllgor Cyfathrebu, Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau  Rhyngwladol y Senedd bod diffygion yn y modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn ehangu addysg Gymraeg ledled y wlad. Ac oherwydd hynny credir bod uchelgais y llywodraeth mewn perygl difrifol os bydd pethau’n parhau fel ag y maent. Darllenwch mwy am y stori yn rhifyn Mehefin

Yr ‘etiquette’ o siarad iaith ein hunain yw pwnc Heledd Gwyndaf yn ei cholofn. Dylai neb ddisgwyl i siaradwyr Cymraeg newid iaith meddai.
‘Rhaid i ni gael hyder ynom ni ein hunain ac mae’n rhaid i ni addysgu’r rhai hynny nad sy’n medru’r Gymraeg bod rhaid iddyn nhw ymddiried ynom ni i ddewis pryd fod angen newid iaith, a hynny ar ein telerau ni’

Ac roedd y colofnydd Lyn Ebenezer yn edrych ‘mlaen am siwrnai i Juarez ac El Paso i chwilio am gymeriadau cân enwog Bob Dylan. Sut oedd modd peidio cael ei hudo gan lefydd ag enwau mor rhamantus? Hmm… ‘falle ddim wedi’r cwbl!

Sustem ‘Cyfraith a threfn’ gall sydd gan Bethan Jones Parry ar y fwydlen y mis hwn – neu efallai’r prinder go iawn o’r ddau yn ein bywydau pob dydd ar hyn o bryd. Wrth grafu pen am benderfyniadau’r presennol mae ei gobeithion efo’r  ifanc. Meddai:  ‘O’m mhrofiad i mae’r rhan fwyaf o’n hieuenctid yn dipyn callach na fi – a’r rhelyw o wleidyddion.’

A do, fe dywynnodd yr haul ar dwrnament golff cyntaf Cwpan y Cymro yn y Bala. Daeth llu i gystadlu …ac ambell un enwog. Mae’r enillwyr a’r lluniau yn y rhifyn hwn.

Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.

Mae rhifyn Mehefin Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau