Cam ‘hanesyddol’ i gael gafael ar y farchnad dai o’r diwedd – dyna sy’n cael sylw tudalen flaen rhifyn Gorffennaf. Ond dydi pawb ddim yn hapus chwaith.
Cewch wybod sut yn union mae Cyngor Gwynedd am fynd ati i wneud gwahaniaeth or diwedd wrth drio achub ein cymunedau rhag effaith ddinistriol y tai haf. Ond bydd y polisi newydd yn annog pobl i ‘werthu i fyny’ yn ôl rhai …hmm! Darllenwch y farn o bob pegwn.
A pham ydan ni’r Cymry yn neidio mewn llawenydd pob tro mae rhywun enwog yn dangos parch i’n hiaith. Dyna ddadl Heledd Gwyndaf y mis yma. Meddai: “Mae ein disgwyliadau mor ofnadwy o isel o ddefnydd pobl o’r Gymraeg fel ein bod methu cuddio ein gorfoledd.”
A be yw’r gobaith o weld mwy fyth o’n sêr chwaraeon yn dysgu Cymraeg? Fe fyddai’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’r ffordd mae’r iaith y cael ei gweld yn ôl y colofnydd Llion Higham. “Ni all y Llywodraeth achub yr iaith ar ei phen ei hun, mae’n perthyn i ni gyd. Gyda help llaw chwaraeon, a’r sêr enwog, gall y Gymraeg gael ei chlywed ar bob set deledu yn y wlad – dyna i chi bŵer. “
Pwy sy’n cofio haf poeth 1975 a’r Steddfod yng Nghricieth? Well Bethan Jones Parry am un – sy’n myfyrio ar ddyddiau dedwydd ieuenctid yn Eisteddfod Bron Dwyfor y flwyddyn honno.
Ac – angen pres poced? …dewch i werthu Y Cymro yn y Steddfod a’r Sioe Fawr. Manylion am sut i wneud yn y rhifyn yma.
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.
Mae rhifyn Gorffennaf Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.