Eisteddfod yr Urdd 2023

Newyddion

Eisteddfod yr Urdd 2023

Mae’r hen ddywediad Tri Chynnig i Gymro yn addas iawn i enillydd y Fedal Gyfansoddi. 

Cipiodd Gwydion Rhys, 20, o Rachub ger Bethesda y fedal am ei gyfansoddiad ‘Pum Pedwarawd’. Nid dyma’r tro cyntaf iddo gyrraedd y tri uchaf y gystadleuaeth.  

Dywedodd Gwydion: “Mae ennill y Fedal Gyfansoddi yn rhoi boddhad mawr i mi o wybod bod pobl yn gwerthfawrogi fy ngherddoriaeth.  Dw i wedi cyrraedd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi deirgwaith o’r blaen, felly mae’r neges i unrhyw gyfansoddwr ifanc yn glir – daliwch ati i greu! 

Daeth naw cyfansoddiad i law’r beirniaid yn y gystadleuaeth eleni, ond gwnaeth ‘Pum Pedwarawd’ gryn argraff ar Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton. 

Mae Gwydion yn astudio cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Cyn mynd i’r Coleg yn Llundain cafodd wersi cerddorol yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon ac yna yn adran iau Coleg Cerdd y Gogledd, Manceinion. 

Dyfarnwyd yr ail wobr i David Ingham o Abertawe am ei gyfansoddiad ar gyfer wythawd chwythbrennau ac aeth y drydedd wobr i Katia Rumin o Stockbridge, Massachusetts. 

Yn ddiweddarach yn yr wythnos dyfarnwyd Tegwen Bruce-Deans yn Brifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ac enillydd y Gadair gyda’r darn ‘Rhwng dau le’.

Prifardd Eisteddfod yr Urdd – Tegwen Bruce-Deans

Yn wreiddiol o Lundain, symudodd teulu Tegwen i Landrindod, Maesyfed pan roedd yn ddwy oed.  Wedi addysg yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt (bellach Ysgol Calon Cymru), graddiodd Tegwen yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.  Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas ac yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru. 

Gofynion cystadleuaeth Prif Seremoni y Gadair Bl10 a dan 25 oed eleni oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Afon’. Cyflwynodd 11 bardd eu gwaith i’r gystadleuaeth.  

Dywedodd Tegwen: “Mae gallu dweud bod ‘na ferch o Lewisham wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn eitha’ cŵl! Ond go iawn, un o’r pethau dwi’n hoff o genhadu’r fwyaf yw bod unrhyw un yn gallu bod fardd – dim jyst hen ddynion gwyn o gefndir traddodiadol Cymraeg. Felly mae’n ffaith fy mod i’n gallu cyfrannu at ran bach, bach iawn o’r mudiad hwnnw o newid agweddau pobl tuag at y syniad o fardd cyfoes yn amhrisiadwy.” 

Dyfarnwyd yr ail wobr i Tesni Peers (20 oed) o Rhosllannerchrugog, a’r drydedd wobr i Buddug Watcyn Roberts (22 oed) o Fangor. 

Yn ystod yr wythnos daeth sawl seren o’r byd chwaraeon i’r Maes. Capten tîm rygbi Cymru, Ken Owens, a’i gyd rheng flaenwr Wyn Jones, oedd llywyddion dydd Mawrth. Cyhoeddwyd carfan tîm pêl droed Cymru ar gyfer gemau ym mis Mehefin ar y Maes gan yr hyfforddwr Rob Page.  

Fel rhan o’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a’r Gymdeithas Bel Droed cymrodd yr Urdd rhan flaenllaw yng nghynlluniau i hyrwyddo Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn Qatar y llynedd. 

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu’r bartneriaeth i’r dyfodol gan edrych i gydweithio mwy gyda thîm cenedlaethol y merched. 

Cyhoeddwyd bydd rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg yn cael ei rhoi ar waith gyda’r Urdd, er mwyn cefnogi nod y mudiad o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan. Bydd cefnogaeth tiwtor ymhlith yr hyfforddiant, sy’n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad. 

Mae’r bartneriaeth yn dilyn llwyddiant cynllun peilot sy’n rhedeg gyda’r Urdd ers Medi llynedd. 

Am y tro cyntaf eleni roedd Eisteddfod yr Urdd yn cynnig iaith Makaton yn ystod tair cystadleuaeth. Bu Ceri Bostock a Sian Willington yn cyfieithu i’r Makaton yn ystod pob perfformiad mewn tair o gystadlaethau Côr Cynradd Blynyddoedd 6 ac iau. 

Cyflwynwyd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled i Sioned Page-Jones o bentref Blaencoed, Sir Gar am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru. Enwebwyd Sioned gan aelodau Aelwyd 

Hafodwenog ar ran holl bobl ifanc Sir Gar sydd wedi elwa o’i chefnogaeth a’i gwaith ieuenctid gwirfoddol. Mae gwaith gwirfoddol Sioned gyda phobl ifanc yn ymestyn nôl 26 mlynedd ac mae ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad i’w chymuned leol yr un mor gryf ac egnïol heddiw.  

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid. 

Bu Elain Roberts o Bentre’r Bryn ger Cei Newydd, Ceredigion yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama ar ei chynnig cyntaf.  Yn ysgrifennydd a darllenydd brwd, cafodd drydedd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd. 

Elain Roberts – enillydd y Fedal Ddrama

Daeth 10 o ddramâu i law y beirniaid Gethin Evans a Steffan Donnelly eleni.  Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd. 

Wrth drafod ysbrydoliaeth y ddrama, dywedodd Elain: “Dwi’n cofio meddwl i fy hunan pan symudais i’r brifysgol yn 18 oed pa mor agored roedd pobl eraill yn trafod pynciau roeddwn i, a byddwn i’n dadlau y rhan fwyaf o Gymry, yn eu gweld fel tabŵ. Pethau fel perthynas pobl a’i gilydd, rhyw, y corff, teimladau a’r cymhlethdod sy’n dod gyda phob un o’r rhain. 

“Dyma’r ddrama gyntaf i fi ei hysgrifennu erioed felly mae’r ffaith fy mod wedi ennill yn rhoi hwb a hyder i mi ar gyfer y dyfodol. Mae anfon eich gwaith i gystadleuaeth mor fawr â’r Urdd yn gallu codi ofn ar rywun, dwi’n deall yn iawn. Rydych chi’n gallu teimlo’n agored i feirniadaeth ac yn amau eich gwaith ond mae e werth e. Mae wastad lle i leisiau newydd, ac mae angen i bobl eu clywed. Hefyd, mae’r adborth yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol ac yn fwy na dim, gallech chi gael eich synnu ar yr ochr orau – pwy a ŵyr!” 

Fel rhan o’r wobr bydd hefyd cyfle i Elain dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru. 

Dyfarnwyd yr ail wobr i  Brennig Davies o Gaerdydd a’r drydedd wobr i Leo Drayton o Radyr, Gaerdydd. 

Rhoddwyd nifer o dasgau i ymgeiswyr Medal y Dysgwyr ar hyd y Maes bore Mawrth.  Roedd y tasgau a gyflynwyd i’r cystadleuwyr yn cynnwys paratoi cyfres o frawddegau am eu hunain ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cyfweliad gyda’r beirniaid Gwyneth Price a Rhodri Siôn, yn ogystal â sesiwn cwestiwn ag ateb gyda Llywydd y Dydd, y chwaraewr rygbi Wyn Jones.   

Allan o 11 ymgeisydd, Gwilym Morgan, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf ddaeth i’r brig.   

Dechreuodd Gwilym ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o’i gwrs Lefel-A ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015. 

Dyfarnwyd Daisy Haikala o Lanfaes yn Aberhonddu yn ail a Niki Scherer o Fangor yn drydydd. 

Nod cystadleuaeth Medal Bobi Jones yw gwobrwyo unigolyn 19-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg a Seb Landais o Ddinbych y Pysgod yw’r enillydd eleni.

Seb Landais – enillydd Medal Bobi Jones

Seb yw’r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, ond roedd ei hen-hen fam-gu a hen-hen dad-cu yn arfer ei siarad.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg           ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo, ac mae’n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle phosib. 

Cyhoeddodd swyddogion yr Urdd bartneriaeth newydd gyda Charchar y Parc a fydd yn gweld mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn cynnig cyfleoedd diwylliannol Cymreig i droseddwyr wrth iddynt baratoi i ddychwelyd i’w cymunedau. 

Bu rhai o’r troseddwyr yn cystadlu mewn cystadlaethau celf a chrefft ar ran ‘Aelwyd y Parc.’ Llwyddodd dau gais i gyrraedd y genedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd ac roedd eu gwaith yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’r holl enillwyr arall yn y Pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg. 

Croesawyd aelodau o gôr ysgol La Sablière  i Lanymddyfri ar gyfer Eisteddfod yr Urdd i ddathlu bod tref Llanymddyfri a phentref Pluguffan, ger tref Quimper yn Llydaw, yn cefeillio â’i gilydd.  

Paratowyd repertoire o ganeuon yn Llydaweg, ac roeddynt yn falch iawn o gael cyfle i’w cyflwyno i gynulleidfa Eisteddfod yr Urdd. 

Owain Williams yw Prif Lenor ac enillydd Coron yr Eisteddfod. 

Yn enedigol o Fetws yn Rhos, Abergele, mae Owain, 23, yn feddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.  

Gofynion cystadleuaeth Y Goron eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Hadau’. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan Fflur Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis. 

Yn cystadlu dan y ffugenw Lleu, dyma’r tro cyntaf i Owain gystadlu ym mhrif seremoni y Goron yn Eisteddfod yr Urdd.  

Dywedodd Owain: “Mae ennill yn fraint arbennig, ac mi ydw i’n hollol ddiolchgar am y cyfle. Mae’n parhau i fod yn sioc llwyr ac yn fy ysbrydoli i barhau i ysgrifennu.  

“Mi oeddwn yn awyddus i ysgrifennu darn o’r galon – a thrafod themâu sy’n gyfarwydd i amryw o bobl fel unigedd, dynamig teulu, newid a heneiddio. Mae’r darn yn adrodd stori gyffredin; ac wrth weithio fel meddyg dwi’n gweld y sefyllfa yma bob dydd. Dwi’n teimlo nad ydy’r rhan yma o fywyd yn cael ei drafod o gwbl.” 

Dyfarnwyd yr ail wobr i Tesni Peers, 20 oed, o Rhosllannerchrugog yn Wrecsam, a’r drydedd wobr i Tegwen Bruce-Deans o Fangor, sef Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.
 

Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn cael ei gynnal rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2024. 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau