Darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn

Barn Newyddion

Arfon Haines Davies yn cyflwyno darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn

Dewch i gadw cwmni i Arfon Haines Davies wrtho iddo fyfyrio ar ei gyfeillgarwch gyda Kyffin Williams mewn darlith wedi’i threfnu gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams.

Ganwyd Arfon yng Nghaernarfon yn fab i weinidog Wesleaidd, a bu’n byw mewn sawl rhan o Gymru yn ystod ei ieuenctid oherwydd proffesiwn ei dad. Cafodd addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth, Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl, Coleg y Drindod Sir Gaerfyrddin a’r Central School of Speech and Drama, Llundain.

Ar ôl cyfnod byr yn addysgu, ymunodd â HTV Wales ym 1975 fel cyflwynydd, ac roedd yn un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd ar y sianel am 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd amrywiaeth o raglenni dogfen, chwaraeon ac adloniant ysgafn ar gyfer HTV. Yn ogystal â hyn, ymddangosodd mewn cyfresi megis ‘Pen-blwydd Hapus’ a ‘Pacio’ ar S4C.

Cafodd Arfon ei ordeinio i’r Orsedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014, ac yn 2022 derbyniodd Wobr John Hefin am ei gyfraniad oes i ddarlledu yng Nghymru.

Prynodd ei lun cyntaf gan Kyffin Williams bron i bum deg mlynedd yn ôl, a chafodd gwrdd â Kyffin drwy ei waith teledu, gyda’r ddau’n dod yn ffrindiau da.

Cynhelir 13eg Darlith Goffa Flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn, Llangefni ddydd Gwener, Mai 12 am 7.00pm.

Cynhelir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Rhaid archebu tocyn – £5, a cheir gwydriad o win am ddim – sydd ar gael o dderbynfa Oriel Môn, neu dros y ffon.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch (01248) 724444 neu anfonwch neges e-bost at: oriel@ynysmon.llyw.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau