Rhifyn Mai Y Cymro

Newyddion

Mae rhifyn Mai Y Cymro ar gael yn y siopau erbyn hyn ac mae sylw’r dudalen flaen yn troi at broblemau parhaol gyda’n sustem drafnidiaeth yng Nghymru – yn enwedig y rheilffyrdd.

 

  • Gyda chrafu pen ymysg ambell un ynglŷn â’r gwario ar brosiect HS2, anfonodd Liz Saville Roberts neges glir i Brif Weinidog y DU ar draws meinciau hynafol San Steffan:
    “Yn anhygoel, mae’n rhaid i deithiwr sydd eisiau mynd ar y trên o ogledd i dde Cymru fynd trwy Loegr. Byddai cysylltu Cymru o’r gogledd i’r de yn costio £2 biliwn… ond mae ei lywodraeth yn amddifadu Cymru i’r tiwn o £6 biliwn drwy ddyfarnu bod cysylltiadau rheilffordd gogledd-de Lloegr, fel HS2, rywsut o fudd i Gymru.”

 

  • A oedd rhywun wedi sôn rhywbeth am enw’r Bannau Brycheiniog tybed? Wel sôn am stŵr!
    Ambell un yn gwylltio’n gaclwm dros ryw ‘new name’ nad yw’n bodoli – eraill yn “croesawu’r newyddion yn fawr iawn iawn” ac erbyn hyn mae grŵp ymgyrchu yn dweud eu bod yn ystyried dwyn achos llys dros gadw’r enw Saesneg.

 

  • Penwythnos bach neis hwyrach yn eistedd yn yr ardd yn mwyhau’r haul? – nid i Esyllt Sears.
    Meddai yn ei cholofn: “Unrhyw un wedi treulio’r penwythnos yn rhoi bath i iâr?  Na?  …”

 

  • Archwilio Llyfr Dydd Y Farn mae’r hanesydd Mel Hopkins yn y rhifyn hwn. Darllenwch sut roedd ein gwlad yn cael ei phortreadu ynddo – a wyddoch fod o leiaf chwe iaith lafar i’w clywed yng Nghymru ar y pryd?

 

  • Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.

 

  • Mae rhifyn Mai Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau