Gyda phythefnos yn unig cyn yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth, mae Pawb Dan Un Faner (AUOBCymru) a YesCymru wedi cyhoeddi y bydd Liz Saville-Roberts AS a’r awdur Mike Parker, ymhlith eraill, yn annerch y dorf yn Abertawe.
Bydd y mudiad annibyniaeth yn dychwelyd i’r strydoedd ar yr 20fed o Fai yn dilyn gorymdeithiau llwyddiannus yn Wrecsam a Chaerdydd y llynedd, gyda dros 10,000 o bobl yn mynychu’r orymdaith yn y brifddinas, y nifer mwyaf hyd yma.
Dywedodd Naomi Hughes o YesCymru :
“Mae hon yn mynd i fod yn orymdaith arbennig gyda siaradwyr rhagorol yn y rali sy’n dilyn. Mae’r gorymdeithiau’n gyfle gwych i’r rhai ohonom sy’n credu mai Annibyniaeth yw’r allwedd i ddyfodol gwell i Gymru ac i blant Cymru, i ddod at ein gilydd a rhannu ein hangerdd dros ein cenedl ac i ymgyrchu dros y rhyddid sydd ei angen arnom. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr!”
Dywedodd Hedd Gwynfor o AUOBCymru :
“Ni’n edrych ymlaen yn arw at yr orymdaith annibyniaeth nesaf yn Abertawe. Mae’n gyfle i ddangos i bawb yng Nghymru a thu hwnt fod yna alw aruthrol am annibyniaeth ar draws y wlad gyfan, o’r gogledd i’r de, ac o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae’n hynod bwysig ein bod yn adeiladu ar fomentwm orymdeithiau y llynedd – felly ymunwch â ni yn Abertawe ar yr 20fed o Fai, a gwnewch y gorau o’r hyn sy’n mynd i fod yn benwythnos gwych.”
Dywedodd Kat Watkins, un o’r trefnwyr o Abertawe:
“Fel aelod anabl o YesAbertawe roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig sicrhau bod lleisiau a gwelededd pobl anabl yn cael eu clywed a’u gweld. Mae gwneud yr orymdaith hon yn hygyrch a rhoi pobl anabl yn arweinwyr yr orymdaith wedi sicrhau y byddant yn sicr yn cael eu gweld a’u clywed! “
Bydd yr orymdaith yn cychwyn yn Stryd y Gwynt Abertawe am 1pm ar yr 20fed o Fai ac yn gorffen ar Barc Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lle cynhelir rali gyda llwyfan a sgrin fawr gyda siaradwyr a cherddoriaeth. Bydd nifer o ddigwyddiadau ymylol hefyd yn cael eu cynnal dros y penwythnos yn ogystal â “Marchnad Indy” ar y Glannau rhwng 10am a 4pm.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Edrych ymlaen, gobeithio bydd 15 mil o bobl manna