Cwrdd â Jinx, y ci bioddiogelwch sy’n diogelu adar môr Cymru

Yr ymgyrch i ddiogelu adar môr sydd mewn perygl Cyfarfu’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, â Jinx y ci bioddiogelwch, sy’n gyfrifol am ymgyrch arbennig i ddiogelu adar môr Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £250,000 fel rhan o brosiect newydd a fydd yn ehangu bioddiogelwch yng Nghymru ac sy’n cynnwys Jinx, cocker spaniel tair […]

Continue Reading

Protestwyr gwreiddiol yn dathlu’r chwedeg mlwyddiant

Protestwyr gwreiddiol yn dathlu chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Daeth nifer o’r protestwyr gwreiddiol i daith gerdded i nodi chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith. Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig yn hanes y mudiad yn Aberystwyth. Wrth siarad yn ystod y daith gerdded dywedodd […]

Continue Reading

Cymru fydd y cyntaf i gyflwyno cynllun trwyddedu tatŵio

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer triniaethau arbennig megis tatŵio Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, wedi cyhoeddi mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer artistiaid tatŵio a’r rheini sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, […]

Continue Reading

‘Creu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni’

Mae datganoli yn rhoi’r cyfle inni greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni – dyna brif neges Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts wrth annerch Aelodau’r Senedd yn nigwyddiad brecwast blynyddol yr Undeb yng Nghaerdydd heddiw. Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyaidd, tynnodd Llywydd yr Undeb sylw at […]

Continue Reading

Edrych ‘mlaen at Gyfrif Mawr Adar Ffermdir 2023

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at amrywiaeth o sesiynau gwybodaeth gyda’r Game and Wildlife Conservation Trust (GWCT) ar ffermydd yng Nghymru i drafod boblogaethau adar brodorol Cymru a sut i ofalu amdanynt. Cynhelir y sesiynau gwybodaeth, a fydd yn cynnwys cyflwyniad gan y GWCT a thaith gerdded o amgylch fferm, fel rhan o […]

Continue Reading

Tair plaid i ddod ynghyd mewn uwchgynhadledd annibyniaeth

Tair plaid i ddod ynghyd yn Uwchgynhadledd Annibyniaeth Abertawe Fe ddaw tair plaid wleidyddol ynghyd yn uwchgynhadledd annibyniaeth gyntaf Cymru yn Abertawe yr wythnos nesaf (28 Ionawr). Trefnir gan y grŵp polisi Melin Dafod, mae’r digwyddiad yn Neuadd Brangwyn y ddinas wedi gwerthu allan o docynnau yn barod. Bydd y trafodaethau yn cynnwys areithiau gan […]

Continue Reading