Tair plaid i ddod ynghyd mewn uwchgynhadledd annibyniaeth

Barn Newyddion

Tair plaid i ddod ynghyd yn Uwchgynhadledd Annibyniaeth Abertawe

Fe ddaw tair plaid wleidyddol ynghyd yn uwchgynhadledd annibyniaeth gyntaf Cymru yn Abertawe yr wythnos nesaf (28 Ionawr).

Trefnir gan y grŵp polisi Melin Dafod, mae’r digwyddiad yn Neuadd Brangwyn y ddinas wedi gwerthu allan o docynnau yn barod. Bydd y trafodaethau yn cynnwys areithiau gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, Arweinydd Plaid Werdd Cymru Anthony Slaughter a’r Cynghorydd Llafur Rachel Garrick.

Cefnogir yr uwchgynhadledd gan y grwpiau Yes Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ogystal.

Dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd y grŵp polisi Melin Drafod: “Mae annibyniaeth i Gymru o fewn ein cyrraedd, ond mae angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydyn ni’n cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS: “Mae’r uwchgynhadledd hon yn gyffrous, gyda mudiadau blaengar Cymru o blaid annibyniaeth sy’n arwain yr achos dros genedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus yn dod ynghyd.

“Mae’n bleser cael gwahoddiad i annerch yr uwchgynhadledd ac rwy’n edrych ymlaen at rannu syniadau newydd gyda phobl sy’n rhannu’r weledigaeth honno.

“Gyda San Steffan yn tanseilio democratiaeth Cymru drwy’r amser, mae hwn yn gyfle euraidd i wahodd hyd yn oed mwy o bobl i ymuno â ni ar y daith o fod yn chwilfrydig i hyderus am annibyniaeth.”

Dywedodd Anthony Slaughter, Arweinydd Plaid Werdd Cymru: “Mae’r foment hon yn gyfnod hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru. Mae’r holl setliad datganoli mewn perygl, o dan fygythiad gan fwriad llywodraeth y DU i adennill pwerau oddi wrth y gwledydd datganoledig. Yr enghraifft fwyaf diweddar a mwyaf amlwg o hyn yw defnydd San Steffan o Adran 35 i rwystro Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban, sef ymosodiad gwarthus ar ddemocratiaeth a hawliau dynol. Nid yw San Steffan yn gweithio. Mae Cymru yn haeddu gwell.

“Mae Plaid Werdd Cymru yn credu bod Cymru annibynnol yn gam hanfodol ac angenrheidiol tuag at adeiladu cymdeithas decach a gwyrddach. Cenedl annibynnol yn cydweithio ag eraill i adeiladu dyfodol gwirioneddol gyfartal, cynaliadwy. Cenedl sy’n rheoli ei ffynonellau helaeth o ynni glân, adnewyddadwy gan symud tuag at ddyfodol di-garbon. Ein gweledigaeth o Gymru annibynnol yw cenedl amrywiol, gosmopolitan a rhyngwladol, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb.

“Mae dyfodol gwell i Gymru yn bosib, yn rhydd o anhrefn a chreulondeb San Steffan. Mae dod ynghyd yn yr uwchgynhadledd hon i rannu syniadau yn gam hanfodol tuag at adeiladu Cymru wirioneddol flaengar, cynhwysol ac annibynnol.”

Meddai’r Cynghorydd Rachel Garrick ar ran Llafur dros Gymru annibynnol:

“Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi bod yn cynyddu ledled Cymru. Mae’n hanfodol bod y rhai ohonon ni sy’n credu yng Nghymru fel cenedl annibynnol yn dod at ein gilydd i siarad a gweithio ar gyfer ein dyfodol.”

Ymhlith y siaradwyr eraill yn yr Uwchgynhadledd mae Sam Coates o’r mudiad, Undod, sydd o blaid annibyniaeth, Prif Weithredwr YesCymru Gwern Evans, Joseph Gnagbo, AS Plaid Cymru Luke Fletcher, a Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau