Rhifyn Chwefror Y Cymro

Newyddion

Mae rhifyn Chwefror Y Cymro ar gael erbyn hyn a dadansoddiad o ganlyniadau’r cyfrifiad diweddar yn dangos cwymp yng nghanran siaradwyr ein hiaith sy’n cael go lew o sylw ynddo. Ie ‘siom’ – meddai ambell un ond yn sicr rhaid peidio anobeithio chwaith.

Meddai Sharon Morgan: “Wrth frwydro wnawn ni barhau i fodoli a gwnaiff yr iaith fyth farw. Roedd rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb dros ein sefyllfa yn y chwedegau, a dyna sy’n rhaid i ni ei wneud ’nawr. Mae’r modd achubwyd yr iaith rhag difodiant fel rhyw fath o wyrth, a ninnau fynnodd ei pharhad.”

Yr un ymateb cadarnhaol oedd gan Dafydd Iwan wrth annerch Rali’r Cyfri: “Mae’r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae’n gobaith. Ni ddaw byth i ben.”

A beth am farn ein Llywodraeth felly: “Mae’r cyfrifiad yn dangos beth sydd wedi digwydd dros y deng mlynedd diwethaf. Mae Cymraeg 2050 gyda ni ers 5 mlynedd, a hanner o’r rheiny yn ystod cyfnod COVID-19. Mae gyda ni resymau da i fod yn optimistaidd am y degawd sydd o’n blaenau ni” – meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Sosban non-stick sydd ar feddwl y colofnydd Esyllt Sears wrth iddi gofleidio ei hunaniaeth newydd fel ond all rhywun sydd wedi cael tröedigaeth go iawn! Meddai: “Am flynyddoedd, wi wedi bod yn ymladd y stereoteip traddodiadol o’r fam gyda’i hoffer cartref a’i thŷ glân. Ond dyma pwy ydw i nawr. Dim cywilydd. Pen-blwydd, Nadolig, Santes Dwynwen, nai ddim cwyno os gai’r sosban non-stick ddiweddara neu fop ôl-dynadwy (retractable!)”

‘Y Gymraeg a roddwyd i’n gofal, nid ‘dwyieithrwydd’’ – barn Heledd Gwyndaf wrth ofyn yn ei cholofn pam bod wir raid i ni droi i’r Saesneg cymaint. Meddai: “Na phoener, tawelaf eich ofnau yn awr, mi allaf eich sicrhau na fydd yr iaith Saesneg farw o Gymru nac o unrhyw le arall yn y dyfodol agos.”

Mae dathliad chwe deg mlynedd ers cynnal protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cael sylw. Meddai cadeirydd y mudiad Robat Idris: “Sefydlwyd y Gymdeithas a chynhaliwyd ein protest gyntaf mewn cyfnod o chwyldro – roedd protestiadau dros hawliau sifil yn America, dros hawliau merched a thros heddwch yn digwydd mewn sawl gwlad. Mae natur protestio wedi newid tipyn ers 1963, a phrotestiadau iaith dipyn yn fwy cyffredin na chwe deg mlynedd yn ôl.”

Darllenwch am y pynciau uchod a llawer mwy yn rhifyn Chwefror.

Mae Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau