Ffigyrau newydd yn dangos bod S4C yn llwyddo denu gwylwyr ifanc
Er bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU wedi symud yn gyflym i gwrdd â’r newid seismig mewn arferion gwylio’r gynulleidfaoedd iau ar draws niferoedd o lwyfannau ffrydio – mae cadw a thyfu’r ddemograffeg hon wedi bod yn heriol.
Mae’r data a gasglwyd gan y sianel dros y naw mis diwethaf yn datgelu bod y cyfran gwylio ymhlith cynulleidfaoedd iau (16-44) yr uchaf nag y bu ers 2008.
Mae’r sianel hefyd wedi gweld cynnydd o 35% yn ei ffigyrau gwylio llinol ac dal i fyny yn ystod yr oriau brig ar gyfer y grŵp oedran 16-44 ar gyfer 2022/23 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r ffigyrau diweddaraf hefyd yn datgelu cynnydd o 20% o flwyddyn i flwyddyn o 2021/22 yn nifer y gwylwyr sy’n dewis gwylio eu hoff raglenni oriau brig ar lwyfannau ar alw fel S4C Clic ac iPlayer.
Yn ôl Prif Weithredwr S4C Siân Doyle, mae sawl rheswm.
“Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd i gyrraedd y pwynt yma ac yn sicr, dim ond dechrau taith hir yw hyn. Mae darparu rhaglenni o ansawdd uchel yn amlwg yn ganolog i bopeth rydym yn gwneud,” meddai Siân.
“Ond yn sail i hyn, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae deall anghenion ein cynulleidfaoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu gwylio eu hoff raglenni ar amser, mewn lle ac ar lwyfan sydd fwyaf addas iddyn nhw. Yn y byd modern, prysur yr ydym yn byw ynddo, mae’r hyblygrwydd yma’n bwysig.
“Mae bod â’r ymwybyddiaeth o’r amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo a bod yn barod i symud gyda’n cynulleidfa, yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar y gwaith craidd o wneud a chomisiynu rhaglenni.”
“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael sector creadigol mor gryf. Yn S4C, rydym yn hynod o falch o’r berthynas sydd gennym ni gyda’n partneriaid a’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n cynhyrchu gymaint o’r cynnwys rhagorol y gallwn ei rannu gyda’n gwylwyr. Ac mewn gwirionedd, y cynnwys newydd yma sy’n gyrru ffigyrau gwylio cadarnhaol rydyn ni’n eu gweld nawr.”
“Mae ein ffigyrau gwylio dros gyfnod y Nadolig yn cefnogi hyn gyda rhaglenni sydd newydd eu comisiynu fel Gogglebocs Cymru a chyfresi newydd o Gwesty Aduniad a Yr Amgueddfa yn dychwelyd yn denu cynulleidfaoedd uwch nag erioed.
“Wrth edrych yn ôl dros 2022, byddai’n anodd peidio â sôn am ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd pêl-droed ers 64 mlynedd a’n rhan ni fel darlledwr yn dilyn Cymru ar eu taith epig i gyrraedd yno.
“Denodd ein darllediadau o gemau Cymru yn Qatar y niferoedd uchaf erioed i’r sianel a chreodd feelgood factor da a momentwm yr oeddem yn benderfynol o gyffwrdd ynddo. Fe wnaeth tîm S4C gweithio’n galed tu hwnt i wneud i hyn digwydd – ac mae llu o bethau cadarnhaol wedi deillio o’i hymdrechion nhw.
“Ac er ei bod pob amser yn braf gallu gwneud sylwadau ar newyddion cadarnhaol, gwyddom na allwn orffwys. Heb os, bydd y Flwyddyn Newydd yn dod â heriau newydd ond cyn belled â’n bod yn parhau i symud ymlaen gyda’n cynulleidfaoedd, gobeithio dylem ni fod ar y trywydd iawn.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.