Protestwyr gwreiddiol yn dathlu chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith
Daeth nifer o’r protestwyr gwreiddiol i daith gerdded i nodi chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith.
Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig yn hanes y mudiad yn Aberystwyth.
Wrth siarad yn ystod y daith gerdded dywedodd Aled Gwyn:
“Roedd y brotest a’r cyfnod yn gyffrous, ac fe wnaeth y cyhoeddusrwydd sylw a’r sylw arwain at ddegawdau o ymgyrchu sy’n dal i fynd ymlaen.
“Mae gwaith i’w wneud o hyd ond rwy’n obeithiol – mae arwyddion calonogol ar hyn o bryd bod gennym nifer o arweinwyr glew a mudiadau goleuedig mewn nifer o feysydd allweddol a all wneud gwahaniaeth a rhoi hwb i’n hyder.”
Un o’r cyfranwyr ddydd Sadwrn sydd wedi bod yn weithredol yn y cyfnod diweddar yw cyn-gadeirydd y mudiad, Bethan Ruth. Meddai:
“Rwy’n perthyn i gyfnod sydd wedi elwa o ymgyrchu’r degawdau cyntaf, ond dydy pawb ddim yn y sefyllfa freintiedig honno o allu cael addysg Gymraeg, swydd Gymraeg a byw yn Gymraeg. Felly mae angen dal i frwydro.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.