‘Creu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni’

Barn Newyddion

Mae datganoli yn rhoi’r cyfle inni greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni – dyna brif neges Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts wrth annerch Aelodau’r Senedd yn nigwyddiad brecwast blynyddol yr Undeb yng Nghaerdydd heddiw.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyaidd, tynnodd Llywydd yr Undeb sylw at y ffaith bod gan y Bil Amaethyddiaeth, sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Senedd – Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf i amaethyddiaeth Cymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd – y potensial i ddatrys llawer o’r problemau y mae’r wlad yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

“Yn ôl diffiniad, mae ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd, ac mae’n werth cofio, yn ein digwyddiad Brecwast cyntaf i’w gynnal yn y Senedd ers i’r pandemig daflu’r byd i gyd i gythrwfl yn 2020, pa mor agos y daethom at fethiant difrifol o’n cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang a domestig yn ystod y pandemig.

“Mae ein cadwyni cyflenwi yn parhau i ddioddef sgîl-effeithiau dyddiau tywyllaf y pandemig, ac ar ben hynny, rydym bellach yn wynebu effeithiau rhyfel Rwsia ar y Wcráin – rhyfel y mae Vladimir Putin wedi defnyddio, nid yn unig ynni, ond bwyd hefyd fel arfau – fel yr amlygwyd yn ddiweddar gan Fforwm Economaidd y Byd,” dywedodd Glyn Roberts.

Atgoffodd Mr Roberts Aelodau’r Senedd, bod disgwyl iddynt, fel gwleidyddion ystyried a gweithredu ar heriau byd-eang, cenedlaethol a lleol ar ran eu hetholwyr. Pwysleisiodd bod digwyddiadau byd-eang sy’n effeithio ar ffermio, ac felly ar bawb sy’n bwyta heddiw, wedi arwain at gynnydd yng nghostau mewnbwn amaethyddol o bron i 30% yn y DU, tra bod prisiau bwyd i’r cwsmer wedi codi’n frawychus – ond gan ffracsiwn o’r gyfradd honno. Yn ogystal, mae newid hinsawdd yn creu amodau tyfu anodd i ffermwyr, gyda 2022 y flwyddyn gynhesaf a gofnodwyd erioed yn y DU.

Mae hyn, dywedodd Mr Roberts, yn erbyn cefndir lle mae dibyniaeth y DU ar wledydd eraill am fwyd wedi dyblu bron ers canol y 1980au, gyda 40% o fwyd y DU bellach yn cael ei fewnforio o gymharu â thua 22% yng nghanol y 1980au.  Mae hyn yn cynnwys bwydydd ​​y gellir eu cynhyrchu yn y DU, gyda’r ddibyniaeth yn cynyddu pum gwaith, o 5% i 25% yn ystod yr un cyfnod – rhywbeth a allai waethygu wrth i Lywodraeth y DU gytuno ar gytundebau masnach rydd beryglus â gwledydd allforio bwyd mawr fel Awstralia a Seland Newydd.

“Ond mae datganoli yn rhoi’r cyfle i Gymru greu atebion lleol a phenodol i’r problemau hyn, ar ffurf y Bil Amaethyddiaeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Senedd – Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf i amaethyddiaeth Cymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.  Ac wrth wraidd yr atebion hynny mae’r ffermydd teuluol sy’n asgwrn cefn i’n cynhyrchiant bwyd, ein heconomïau a’n diwylliant gwledig, a’n hamgylcheddau a’n tirweddau gwerthfawr,” dywedodd.

Clywodd y rhai a ymunodd â’r Undeb am frecwast yng Nghaerdydd hefyd fod UAC yn credu bod rhaid i ddarn mor bwysig ac arloesol o ddeddfwriaeth geisio’n benodol i sicrhau hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio a’r economi wledig yng Nghymru – nid yn unig o ran naratif, neu drwy ddamwain, ond o ran dyluniad.

“Byddai hyn yn sicrhau bod y Bil yn wirioneddol gyfannol – hynny yw, yn cydbwyso pileri cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Ac rydyn ni i gyd yn gwybod beth sy’n digwydd pan fydd un o’r coesau’n cael ei thynnu o stôl deir coes.

“Ni all penderfyniadau rheoli tir a chreu canlyniadau amgylcheddol i Gymru ddigwydd heb ein busnesau ffermio, y teuluoedd sy’n gweithio’r tir, na’r marchnadoedd lleol a byd-eang yr ydym yn cynhyrchu ar eu cyfer,” dywedodd Mr Roberts.

Ychwanegodd bod ffermwyr yn rheoli dros 80% o dir Cymru am eu bywoliaeth, ac felly mae’n rhaid i’r Bil a’r polisïau cymorth sy’n dilyn, sicrhau eu bod yn fusnesau sy’n economaidd wydn, sy’n gallu buddsoddi yn, ac yn cyflawni amcanion amgylcheddol Rheoli Tir yn Gynaliadwy, tra hefyd yn cynhyrchu lluosydd economaidd i’r economi wledig a’r gadwyn cyflenwi bwyd ehangach, yn ogystal â’u cyfraniad unigryw i gymunedau gwledig a’r iaith Gymraeg.

Atgoffodd Mr Roberts Aelodau’r Senedd hefyd am rôl hanfodol arall y mae ffermydd teuluol Cymru yn ei chwarae fwyfwy – cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

“Nid oes angen i mi eich atgoffa o’r argyfwng ynni sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil gweithredoedd Putin, ac rydym wedi gweld cyfran fach iawn yn unig o’r potensial sydd gan ein ffermydd teuluol i gyfrannu ymhellach at fynd i’r afael â hyn wrth leihau eu hôl troed carbon eu hunain a pharhau i fwydo poblogaethau ein cenhedloedd.

“Mae’r peryglon difrifol o fod yn fyrbwyll o ran diogelu’r cyflenwad bwyd ac ynni yno i bawb eu gweld, felly pa bynnag drywydd y mae San Steffan yn penderfynu ei ddilyn, gadewch inni sicrhau bod ein gweinyddiaethau datganoledig yma yng Nghymru yn cymryd agwedd gyfannol at ein cyfrifoldebau i boblogaethau lleol, cenedlaethol a byd-eang,” dywedodd Mr Roberts wrth gloi.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau