Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at amrywiaeth o sesiynau gwybodaeth gyda’r Game and Wildlife Conservation Trust (GWCT) ar ffermydd yng Nghymru i drafod boblogaethau adar brodorol Cymru a sut i ofalu amdanynt.
Cynhelir y sesiynau gwybodaeth, a fydd yn cynnwys cyflwyniad gan y GWCT a thaith gerdded o amgylch fferm, fel rhan o ddigwyddiad blynyddol GWCT sef Cyfrif Mawr Adar Ffermdir sydd yn rhedeg rhwng 3 – 19 Chwefror.
Mae’r fenter bwysig hon yn cynnig dull syml o gofnodi effaith unrhyw gynlluniau cadwraeth sy’n cael eu cychwyn ar hyn o bryd gan ffermwyr a chiperiaid ar eu tir. Mae mwy o fanylion ar gael yma: www.bfbc.org.uk/take-part/
Mae digwyddiadau wedi eu cadarnhau ar gyfer y dyddiadau a lleoliadau canlynol:
- Dydd Mercher 1 Chwefror yn Hafod y Llyn Isaf, Nantmor, Gwynedd, gan ddechrau am 10.30am
- Dydd Gwener 3 Chwefror yn New Shipping Farm, Cilgeti, Sir Benfro, gan ddechrau am 10.30am
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts:
“Nod Cyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT yw codi ymwybyddiaeth o’r gwaith cadwraeth gwych sy’n cael ei wneud ar ffermydd ledled Cymru. Mae’n amlygu’r hyn y gellir ei wneud i helpu adar ffermdir i oroesi’r amser anodd hwn o’r flwyddyn fel bod y poblogaethau bridio yn cynyddu.
“Rwy’n edrych ymlaen at y sesiynau gwybodaeth ar y fferm sydd wedi’u trefnu a fydd yn ein helpu i ddeall pwysigrwydd cofnodi’r adar hynny sy’n bresennol ac adnabod pa effeithiau y mae Glastir – cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru – yn ei gael ar niferoedd adar.”
Ychwanegodd Lee Oliver Pennaeth Prosiectau GWCT Cymru:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod Cyfrif Mawr Adar Ffermdir 2023, sydd yn ei degfed flwyddyn, yn denu dros 1500 o ffermydd i gymryd rhan. Hoffem dynnu sylw at y gwaith da mae ffermwyr a ffermio yn ei wneud yng Nghymru ar gyfer adar ffermdir, a hoffem weithio gyda ffermwyr sydd eisiau gwneud mwy.”
Os ydych yn dymuno mynychu un o’r sesiynau gwybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa sirol leol neu cysylltwch â Phennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru Anne Dunn ar anne.dunn@fuw.org.uk .
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.