Profiad newydd o fod ar y Maes fel Prif Weinidog

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Rhun ap Iorwerth. Mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd ers plentyndod cynnar, wedi cymryd rhan mewn cyflwyniadau dramatig, wedi perfformio ar wahanol lwyfannau fel aelod o grŵp pop a chafodd ei urddo i Orsedd Cymru y llynedd.  Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio ar y Maes […]

Continue Reading

‘Gweld yr Eisteddfod yn codi o’r ddaer fel ffenics o’r pridd’

Mae bod yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi bod yn brofiad arbennig i John Davies, Cwmbetws.  Er iddo fwynhau pob eiliad o’r daith, mae un cwestiwn yn dal i’w boeni ychydig: beth fydd y trigolion lleol yn ei wneud ar ôl 8 Awst? Ond mae’n hyderus y bydd gwaddol parhaol yn […]

Continue Reading

Cydnabod oes o wasanaeth i’r Gymraeg a’i gymuned

Bydd Medal R. Alun Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las  yn cael ei chyflwyno i Penri Williams, i nodi dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i’r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru. Yn enedigol o Borthmadog ond wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf, mae Penri Williams wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros […]

Continue Reading

Cymdeithas yr Hoelion Wyth – oes diddordeb?

Cyfle i sefydlu canghennau o Gymdeithas yr Hoelion Wyth yng Ngogledd Cymru  Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar nos Lun, 15 Ebrill, am 6.30  yn Neuadd Bentref Trawsfynydd er mwyn cyflwyno a thrafod y posibilrwydd o sefydlu canghennau o ‘Cymdeithas yr Hoelion Wyth’ yng Ngogledd Cymru.  Mae Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn gymdeithas sy’n cynnig cyfle i […]

Continue Reading

Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed – ac yn galw i’r Gymraeg gael ei dysgu yn Lloegr

Perfformiodd Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed neithiwr (nos Wener) i hyrwyddo ei halbym newydd The Mountain. Roedd prosiect Damon Albarn a Jamie Hewlett yn perfformio yn Arena Utilita Caerdydd gyda sioe anhygoel yn cynnwys band llawn ac amrywiaeth o westeion arbennig fel Gruff Rhys sydd wedi cydweithio ar albym Gorillaz am yr […]

Continue Reading

Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai’r actor, Mark Lewis Jones, a ddaw’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol. Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion dinas Wrecsam […]

Continue Reading

Cydnabod cyfraniad ‘na chafwyd ei debyg’ i’r byd llyfrau

Mewn digwyddiad i lansio cyfrol newydd Cerddi’r Ystrad ym Mhontrhydfendigaid fe gyflwynwyd gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i Fyd Llyfrau i Lyn Ebenezer. Cyflwynwyd y lechen gan Garmon Gruffudd o’r Lolfa ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Mae’r wobr yn cael ei gyflwyno yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig dros gyfnod hir i’r […]

Continue Reading

Lansio ‘Gorllewin Cymru Creadigol’

Yn ddiweddar lansiwyd rhwydwaith newydd sef ‘Gorllewin Cymru Creadigol’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Bwriad y rhwydwaith newydd hon yw cynrychioli ac ymgysylltu’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth, sef siroedd Abertawe, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Nedd Port Talbot. Y blaenoriaeth gychwynnol ar gyfer rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yw canolbwyntio ar dŵf y sectorau sgrîn, […]

Continue Reading

Cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio ei cynhyrchiad cyntaf ers ail-lansio’r cwmni y llynedd. Dan ofalaeth greadigol y cyfarwyddwr Angharad Lee a’r Cyfarwyddwyr Cerdd Kiefer Jones a Nathan Jones, bydd Y Cwmni yn perfformio cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Daf James. Meddai Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd: “Mae Deffro’r […]

Continue Reading