Albwm newydd …i ddathlu 50 mlynedd! 

Diwylliant / Hamdden Newyddion

Mae eleni yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log.  

Go brin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai’r grŵp yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 pan ffurfiwyd  yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw, nôl yn 1976.  

Ond, yn dilyn anogaeth gan y Dubliners ar ôl cyngerdd cyntaf y grŵp, maent erbyn hyn, wedi mynd â cherddoriaeth Cymru i dros ugain o wledydd ar dri chyfandir a nhw oedd y grŵp gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf.

Yn ystod eu teithiau mae Ar Log wedi rhannu’r llwyfan gyda rhai o artistiaid gwerin mwya’r byd a hynny drwy ddilyn y traddodiad hir yng Nghymru o berfformio caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal ag adfywio traddodiad mwy hynafol o berfformio darnau offerynnol.  

Rhwng 1978 a 2026 mae Ar Log wedi rhyddhau pymtheg albym a thair sengl, a hwn yw’r wythfed albym yn y gyfres eponymaidd. 

Wedi ei recordio yn Stiwdio Sain, gyda Geraint Cynan yn cynhyrchu ac Aled Wyn Hughes yn peiriannu, mae’r albwm newydd, ‘Ar Log VIII’, yn crisialu’r hyn mae Ar Log yn ei gynrychioli – hanner canrif o ddiddanu, o ail-ddiffinio ein halawon a’n caneuon gwerin, ac o fod yn llysgenhadon dros ein traddodiad gwerin.  

Aelodau presennol y grŵp yw Geraint Glynne Davies (prif lais, gitâr, gitâr 12 tant), Dafydd Roberts (ffliwt, telyn deires, pibau, llais cefndir, offer taro), Gwyndaf Roberts (telyn ben-glin, clarsach, llais cefndir), Graham Pritchard (ffidil, mandolin), Iolo Jones (ffidil, fiola), a Geraint Cynan (allweddellau, hammond, prif lais, llais cefndir, offerynnau taro), ac yn ymuno ar rai traciau mae Aled Wyn Hughes ar y bas a Carwyn Rhys Williams ar y drymiau.

Gan gadw’n driw i arddull unigryw y grŵp, mae Ar Log VIII yn gymysgedd  o ddeunydd traddodiadol a gwreiddiol. Mae yma alawon o’r archif ac alawon newydd sbon; hen ffefrynnau a drosglwyddwydgan rai o fawrion y byd gwerin yng Nghymru, fel Nansi Richards (athrawes delyn Dafydd a Gwyndaf), a charol blygain gyda’r geiriau’n dyddio nôl i’r 16eg ganrif.  

Yn rhan o’r albym hefyd mae traciau y cylch o ganeuon, ‘Y Ddwy Chwaer’, o waith Grahame Davies a Paul Mealor, a ryddhawyd eisoes ar EP gan y grŵp yn ddiweddar. 

Mae’r albym yn gyfle i dalu teyrnged i gyfeillion a gollwyd. Bu Ar Log yn ffodus i gael cydweithio a chyd-berfformio sawl tro gyda’r dihafal Dewi Pws. 

 Mae’r gân ‘Mae Lleucu Wedi Marw’, yr alaw syml a hiraethus gan Huw Chiswell a’r geiriau didwyll gan Dewi ei hun, yn dangos Dewi ar ei orau fel crefftwr geiriau cynnil a thrawiadol a hefyd yn dysteb i’r hollamseroedd da a gafodd y grŵp yn ei gwmni. Mae trac clo yr albym yn deyrnged bersonol arall – y tro hwn i un o aelodau gwreiddiol y grŵp, Dave Burns a fu farw yn Rhagfyr 2023.

Wrth baratoi deunydd ar gyfer yr albym cynigiodd Dave un o hoff ganeuon ei ieuenctid a boblogeiddiwyd yn genedlaethol gan y tenor Gwyddelig  John McCormack, sef ‘The Rose of Tralee’. Fel cyd-ddigwyddiad llwyr, roedd cyfieithiad Cymraeg yn bodoli, o waith T Glynne Davies, tad Geraint Glynne. 

 Meddai Gwyndaf Roberts, ar ran y grŵp: “Pan ddaeth i’r amlwg na fyddai iechyd Dave yn caniatau iddo ddod i’r stiwdio aeth gweddill aelodau Ar Log ati i sicrhau y câi ei ddymuniad a chyfrannu at Ar Log VIII, ac fe wnaeth hynny gyda dewrder. Cyflwynwn y gân ‘Rhosyn Tralî’ yn deyrnged i gerddor blaengar, ffrind triw a chyfaill cerddorol ffraeth, a gobeithiwn y bydd cynnwys ei gyfraniad glew olaf o flaen y microffonyn deyrnged iddo ac yn sicrhau ei bresenoldeb parhaol fel aelod o Ar Log.”

I gyd-fynd â rhyddhau’r albym ac er mwyn dathlu’r garreg filltir arbennig hon mae Ar Log yn trefnu taith yng Nghymru a’r Almaen.  

Mi fydd gwesteion arbennig hefyd yn rhan o’r daith, ac yn y nosweithiau yn Galeri a Pontio mi fydd Dafydd Iwan yn perfformio gydag Ar Log am y tro olaf un. Dyma’r bartneriaeth oedd yn gyfrifol am y recordiadsydd bellach wedi dod yn ail anthem i Gymru, sef ‘Yma o Hyd’! Gweler manylion y daith ar gyfryngau cymdeithasol Ar Log. 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau