Cyfle i sefydlu canghennau o Gymdeithas yr Hoelion Wyth yng Ngogledd Cymru
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar nos Lun, 15 Ebrill, am 6.30 yn Neuadd Bentref Trawsfynydd er mwyn cyflwyno a thrafod y posibilrwydd o sefydlu canghennau o ‘Cymdeithas yr Hoelion Wyth’ yng Ngogledd Cymru.
Mae Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn gymdeithas sy’n cynnig cyfle i ddynion ddod ynghyd i gymdeithasu, trafod materion o ddiddordeb, a mwynhau adloniant mewn awyrgylch gyfeillgar.
Yn barod, mae canghennau llwyddiannus wedi’u sefydlu mewn rhannau o Orllewin Cymru, lle maent yn trefnu rhaglen amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau i’w haelodau.
Credir bod potensial sylweddol i ddatblygu canghennau tebyg ar draws Gogledd Cymru, gan gryfhau cysylltiadau cymunedol a darparu cyfleoedd cymdeithasol gwerthfawr i ddynion o bob oed.
Gwahoddir dynion sydd â diddordeb i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y camau nesaf tuag at sefydlu cangen yn eu hardaloedd, a derbyn arweiniad ymarferol ar y broses o wneud hynny.
Bydd Llywydd y Gymdeithas, Eurfyl Lewis, yn bresennol i gyflwyno’r noson ac i ateb cwestiynau.
Am ragor o wybodaeth am Gymdeithas yr Hoelion Wyth, ewch i: https://hoelionwyth.cymru/ ac am ragor o wybodaeth am y noson cysylltwch â chydlynydd neuadd bentref Trawsfynydd, Elfed Wyn ap Elwyn: elfed.neuaddirdyfodol@gmail.com / 07407028085
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.