Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio ei cynhyrchiad cyntaf ers ail-lansio’r cwmni y llynedd.
Dan ofalaeth greadigol y cyfarwyddwr Angharad Lee a’r Cyfarwyddwyr Cerdd Kiefer Jones a Nathan Jones, bydd Y Cwmni yn perfformio cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Daf James.
Meddai Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd: “Mae Deffro’r Gwanwyn yn ddathliad lliwgar ac egnïol o ieuenctid a rebelio. Mae’n ymwneud a themâu sydd dal yn anghyfforddus i’w trafod ar brydiau a hynny mewn modd gonest a miniog.
“Mae’r cynhyrchiad yn gyfle i bobl ifanc sydd yn byw’r themâu i fynegi eu hunain mewn modd theatrig, bythgofiadwy. Mae’n gyfle i wyntyllu rhwystredigaeth a’r blynyddoedd cyfyngedig diwethaf, ond hefyd ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol. Mae’n gynhyrchiad sydd wirioneddol yn werth ei weld.”
Perfformiwyd addasiad Cymraeg Daf James o’r sioe gerdd ‘Spring Awakening’ yn gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Wedi ei seilio ar ddrama bwerus a dadleuol Frank Wedekind, ysgrifennwyd y sioe gan Steven Sater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik ar gyfer lwyfan Broadway yn 2006.
Sefydlwyd Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru yn y 1970au gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed i fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond daeth i ben yn 2019.
Diolch i fuddsoddiad o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru mae Y Cwmni bellach yn cynnig cyfleoedd newydd i Gymry ifanc sydd â diddordeb neu chwilfrydedd ym mhob agwedd o fyd y theatr.
Mae’r cynhyrchiad ‘Deffro’r Gwanwyn’ i’w weld yn Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – Medi 1 a 2, am 7.30pm
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.