Byw yn Dda

Chwaraeon

MAE CYFEILLION Y CYMRO YN CYFLWYNO…

Mae Byw’n Dda yn bodlediad cyfrwng Cymraeg newydd sydd â’r bwriad o ysbrydoli pobl i fyw eu bywyd gorau gan rannu straeon a phrofiadau gwahanol bobl am y ffyrdd mae ffitrwydd, ffordd o feddwl a bwyta’n dda wedi newid eu bywyd. Y bwriad yw darlledu bob pythefnos ac iddo fod yn gynhyrchiad aml-blatfform drwy blogiau a thrwy rannu deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Meddai’r cyflwynydd Joedi Grabham: 

“Rwy’n angerddol iawn am y pwnc. Does dim rhaid i chi garu’r gampfa neu fwyta llysiau a dim byd arall i wrando ar y podlediadau a bod yn rhan o’r prosiect. Yr unig beth sydd raid i chi wneud yw eisiau byw eich bywyd gorau drwy fod yn fwy positif, drwy fod yn fwy iachus a heini, a gwella’ch meddylfryd.”

“Rydw i hefyd yn gobeithio creu cymuned o bobl sydd eisiau cefnogi ei gilydd trwy’r siwrne yma, does dim ots beth yw eu targed personol. Mae’n ymwneud â chreu arferion newydd sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw eich hun er mwyn gwella’ch hun. Gyda chymorth eraill, gallwn ni gyd i helpu’n gilydd i gyrraedd ein nod. Mae lledaenu positifrwydd a darparu cefnogaeth yn hollbwysig i’r prosiect. Gobeithio bydd hyn yn cael ei gyfleus drwy’r gyfres bodlediadau ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn fwy na hynny bydd  cyfle i ysbrydoli pobl sydd yn siarad Cymraeg i rannu eu profiadau yn Gymraeg, ac yn cynnig rhywbeth hollol newydd, sef grŵp gwahanol sydd yn medru cyfathrebu yn y Gymraeg wrth drafod iechyd, ffitrwydd a lles. Felly roedd sicrhau bod y prosiect yn digwydd drwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi.” 

Yn ogystal â gwrando ar SoundCloud: https://soundcloud.com/bywn-dda ceir cyfryngau cymdeithasol i gyd-fynd gyda’r prosiect. Am y diweddaraf ewch i: 

Instagram: @bywndda https://www.instagram.com/bywndda/  

Trydar: @bywndda https://twitter.com/bywndda

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    2 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Joedi Grabham

    Diolch o galon i bapur y Cymro am y cyfle i ‘sgrifennu a rhannu fy mhrosiectau yn ei phapur print ac ar-lein!! ☺️ Gobeithio bydd y prosiect o ddiddordeb i chi sydd yn darllen!

    […] ymateb iddo. Dyna un o’r rhesymau mae’r Cymro yn falch iawn i roi llwyfan i’r myfyriwr Joedi Grabham ar ein gwefan ac yn ein papur newydd misol oherwydd ceir yno camau ymarferol i ddefnyddio […]