Amserlen a mapiau ar gyfer DYDD MIWSIG CYMRU (DYDD GWENER 8FED CHWEFROR) llwyddiannus
gyda diolch i hogie Sôn am Sîn am y wybodaeth dyngedfennol, darllenwch nhw bob mis ym mhapur newydd Y Cymro! A gan bwyll, os nad Slipknot, mae’r stori yma yn cynnwys Slipmaps…! : Defnyddiwch eich ‘Pawen Lawen’ i ddod o hyd i lawenydd ar #DyddMiwsigCymru .
Candelas yn Awen Meirion Un o grwpiau gorau Cymru yn un o siopau gorau Cymru!
Dydd Miwsig Cymru Ani Glass et al Clwb Ifor Bach o 4yp- DJs Garmon a Dilys, Rhys Dafis, Chroma & R.Seiliog
Hywel Pitts @ Gwin Dylanwad, Dolgellau : caneuon a chomedi gan y gŵr o I Fight Lions :
Patrobas yn Cicio’r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth; sef noson fisol wedi ei churadu gan y beirdd Eurig Salisbury a Hywel Griffiths : )
& Al Lewis a Bwncath – Clwb Canol Dre, Caernarfon ( Noson Pedwar a Chwech wedi gwerthu allan ; )
Mae #MapioCymru yn brosiect #Cymraeg2050 wedi ei noddi gan Lywodraeth Cymru.
Darllenwch mwy ym mhapur newydd Y Cymro i fis Chwefror 2019 neu yn haciaith yn Yr Egin, ar Ddydd Sadwrn 9fed Chwefror.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.